Skip to content

Artist preswyl Erddig 2022/23

Artist Preswyl Erddig, Jenny Cashmore
Artist Preswyl Erddig, Jenny Cashmore | © Lauren Davies

Mae Jenny Cashmore, ein hartist preswyl diweddaraf, yn artist amlddisgyblaethol cyfoes. Mae hi’n gyfarwydd â sector diwylliannol a chreadigol Cymru ac yn gwbl ymroddedig iddo. Ymunodd ag Erddig am chwe mis ar gyfer prosiect a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a gyflwynwyd ar y cyd a Tŷ Pawb.

Gwaith Jenny

Mae gwaith Jenny yn cael ei yrru gan ddiddordeb mewn cysylltiadau rhwng pobl, gwrthrychau a lleoliadau. Mae ei gwaith yn aml yn ddibynnol ar ac yn benodol i’r lleoliad a’r cymunedau y mae’n ymgysylltu â nhw.

Mae allbynnau wedi’u hamlygu ar ffurfiau amrywiol ac yn flaenorol wedi cynnwys; stondinau codi ewinedd yn cynnig paent ewinedd lliw pwrpasol sy’n adlewyrchu nodweddion diwylliannol ac amgylcheddol safle-benodol; ymarferion cerdded arbrofol, cysylltiadau byw rhwng y corff a phensaernïaeth; a sgorau dyddiol a grëwyd o bell ac a anfonwyd o’i chartref i gael eu hargraffu mewn oriel, a thrwy hynny yn cysylltu’r ddau le yn gelfydd.

Mae'n mwynhau ystyried sut mae cynulleidfa’n profi ac yn ymgysylltu â gwaith celf i sicrhau ei fod yn rhywbeth unigryw a chyffrous.

Pam y prosiect hwn?

“Mae'r prosiect hwn yn berffaith gan fod fy ngwaith ymarferol yn ymwneud â pherthnasoedd, ailfeddwl ac archwilio sut rydym yn cysylltu â’n gilydd a’r byd o’n cwmpas.

Rwy’n edrych ymlaen at dreulio’r cyfnod hwn o amser yn canolbwyntio ar ein perthynas â’r amgylchedd naturiol ac yn ymgysylltu ag ystâd ehangach Erddig. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld yr hyn y gallwn ei ddysgu gan fywyd gwyllt a sut y gall hyn gefnogi neu herio ein hymgysylltiad ein hunain â thirwedd, a chael effaith ar ein llesiant yn y pen draw.

Mae gennyf ddiddordeb mewn gweithio mewn ffordd gynhwysol, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n unigryw i’r bobl a'r dirwedd yr wyf yn ymgysylltu â nhw.”

Cadwch lygad am ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol Erddig a thrwy ddilyn Jenny ar Instagram.

Cofleidio’r nos am amser hir


Ers dros 300 mlynedd, mae parcdir Erddig wedi bod ar agor i’r gymuned leol fel lle ar gyfer llonyddwch neu antur. Roedd y prosiect preswyl hwn wedi’n galluogi ni i archwilio cysylltiadau newydd ac unigryw gyda’r dirwedd gyfarwydd yn ystod yr hanner tywyllaf o’r flwyddyn – pan fo’r dyddiau’n fyrrach, a phan mae’n oerach ac yn wlypach.

Ar ôl dod i adnabod y tir a chysylltu â grwpiau lleol, cafodd Jenny ei hysbrydoli gan themâu hygyrchedd, undod a thywyllwch, a’r dulliau creadigol a allai atgyfnerthu ein cysylltiad â byd natur.

Caniatáu i’r fideo chwarae? Mae cynnwys a gyhoeddwyd ar YouTube ar y dudalen hon.

Rydym yn gofyn am eich caniatâd cyn i unrhyw beth lwytho, oherwydd gallai’r cynnwys hwn gyflwyno cwcis ychwanegol. Efallai yr hoffech ddarllen telerau gwasanaeth  a pholisi preifatrwydd  YouTube Google cyn derbyn.

Fideo
Fideo

Artist preswyl Erddig 2022/23

Mae Jenny Cashmore, ein hartist preswyl diweddaraf, yn artist amlddisgyblaethol cyfoes. Mae hi’n gyfarwydd â sector diwylliannol a chreadigol Cymru ac yn gwbl ymroddedig iddo.

Gwahoddiad i’r noson hiraf

Cydweithiodd Jenny â’r artistiaid sain Ardal Bicnic, Rosey Brown a Heledd C Evans yn ogystal â gwirfoddolwyr lleol, i gasglu synau parcdir Erddig ar gyfer cyfansoddi darn o waith sain. Cafodd y cyfansoddiad hwn ei chwarae i gadw cwmni i gymuned Wrecsam yn ystod noson hiraf y flwyddyn ar ddydd Mercher 21 Rhagfyr 2022.

Wrth i’r tymheredd ostwng gall ein ffordd o fyw newid hefyd. Mae sawl darn o gyngor y gallwn ei gymryd gan ein ffrindiau ym myd natur, fel dysgu i arafu a defnyddio tymor y gaeaf fel amser i adfywio a rhoi sylw i’n lles meddyliol. Roedd Cofleidio’r nos am amser hir; Gwahoddiad i’r noson hiraf yn waith ar y cyd ar-lein a oedd yn galluogi i unigolion gysylltu â byd natur a’i gilydd o’u cartrefi eu hunain yn ystod yr oriau tywyll.

Roedd y darllediad digidol dros nos ar Calon FM yn berffaith i drigolion lleol wrando arno pryd y mynnent o fachlud yr haul am 15:57 ddydd Mercher 21 Rhagfyr i 8:24 y bore canlynol.

Tynnodd Jenny ar yr holl synhwyrau i greu profiad ymdrochol drwy weithio â’r perlysieuydd meddyginiaethol lleol Pip Waller. Llwyddodd y partneriaid i greu cyfuniad unigryw o de, a enwyd yn o’r enw ‘Te Erddig ar gyfer cyfnodau tywyll’, gan dynnu ysbrydoliaeth o’r planhigion sy’n tyfu ar ystâd Erddig, o afalau a phinwydd i eirin ysgaw a mwy. Gan greu te y gellid ei yfed wrth wrando ar y seinwedd gartref - cyfle i gael seibiant ac ymlacio a rhoi rhwydd hynt i’r dychymyg.

Gwrandewch eto yma ar archif o ffrydio’r digwyddiad.

Jenny Cashmore, Erddig's artist in residence, and partners sound foraging in the parkland
Chwilota am sain yn y parcdir | © Jenny Cashmore

Ysgogiadau i gyflawni a dychmygu

Mae Ysgogiadau i gyflawni a dychmygu yn waith celf creadigol sy’n gasgliad o gyfarwyddiadau barddonol sy’n ystyried ein perthynas â byd natur a llesiant. Cydweithiodd Jenny â Natasha Borton, gweithiwr creadigol amlddisgyblaethol, i gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gyda KIM Inspire a Dynamic Wrexham. Roedd y sesiynau hyn law yn llaw â sgyrsiau parhaol Jenny, ymchwil gweithredol a gweithdai eraill hyn wedi llywio datblygiad Ysgogiadau i gyflawni a dychmygu. Ysgrifennwyd ar y cyd gan Jenny a Natasha. Mae ar ffurf map wedi’i blygu’n llyfryn y mae modd ei gyffwrdd a’i archwilio. Mae’n waith celf amlieithog sy’n defnyddio’r pedair prif iaith sy’n cael eu siarad yn Wrecsam sef Cymraeg, Saesneg, Pwyleg a Phortiwgaleg.

Cyhydnos mis Mawrth: Pan fo’r tywyllwch a’r goleuni’n gyfartal

Daeth Jenny â’i chyfnod preswyl artist i’w anterth yn Erddig wrth i’r oriau tywyll a golau gyfartalu o amgylch Cyhydnos Mawrth. Gwahoddodd y cyhoedd i ddod, yn ystod y cyfnod o gydbwysedd hwn, i archwilio sut fyddai perthynas mwy cyfartal â natur o bosib yn teimlo, yn swnio, yn blasu, yn arogli ac yn edrych.

Cafodd Jenny gwmni ymwelwyr drwy barcdir Erddig ar gyfer rhaglen gytbwys o weithgareddau dros dro cyfranogol yn gwbl rad ac am ddim ddydd Sadwrn 18 Mawrth 2023 (pan oedd 12 awr union rhwng gwawr a machlud yn Wrecsam, sef Ecwilwcs, y gyhydnos yn ôl gwir ystyr y gair).

Cafodd cyfranogwyr gyfle i fwynhau gwawr a machlud mwyn a gynhaliwyd ar y cyd â Muddy Trainers i nodi’r trobwynt o’r tywyllwch i oleuni, ac o’r goleuni i dywyllwch. O gwmpas canol y diwrnod, croesawodd Jenny bobl i’r safle yn Erddig. Aethant ati i archwilio Ysgogiadau i gyflawni a dychmygu; cymryd rhan mewn ychydig o sesiynau dan arweiniad i ymgysylltu â’r gwaith; rhannu picnic gyda theulu a ffrindiau; blasu diod gytbwys Erddig (a wnaed ar y cyd â’r perlysieuydd meddyginiaethol, Louise Idoux) lle’r oedd tymheredd y tywydd yn pennu p’un a fyddai’n cael ei weini’n gynnes neu’n oer; archwilio cydbwysedd mewn gweithgareddau syrcas i’r teulu dan arweiniad Short Scruffs Theatre; a gwrando ar A long embrace with the dark ar ben y Mwnt a Beili (gweler uchod ragor o fanylion ynglŷn â’r gwaith hwn).


Ddydd Llun, 20 Mawrth - Cyhydnos - cafodd Heather Wilson o Calon FM gwmni Jenny ar gyfer rhifyn a gafodd ei raglennu’n greadigol o Home Is Where The Art Is, gan ystyried byd natur a chydbwysedd. Gwrandewch eto ar-lein ar Calon FM.

Paent ewinedd lliw glaswellt gwyrdd, a gynhyrchwyd fel rhan o Colours of Stoke, 2019
Paent ewinedd lliw glaswellt gwyrdd, a gynhyrchwyd fel rhan o Colours of Stoke, 2019 | © Jenny Cashmore

Cynaliadwyedd

Roedd ymarfer tymhorol Jenny yn ei galluogi i gyflawni ei nod o weithio mor foesol a chynaliadwy â phosib, gan ailddefnyddio ac ailgylchu gwrthrychau diriaethol yn ôl yr angen. Roedd pwrpas i’r allbynnau a gynhyrchwyd a chanddynt waddol parhaus. Cafodd y pamffledi ar gyfer y sesiwn rannu olaf eu hargraffu ar bapur hadau blodau gwyllt i’w galluogi nhw i gael eu plannu gartref. Cafodd y cwpanau unigryw ar gyfer gweini’r ddiod gytbwys eu hargraffu gan gwmni lleol – roeddent yn ddi-blastig ac yn gwbl gompostadwy/bioddiraddadwy. Roedd mainc bicnic arbennig (yn arddangos ysgogiad o Ysgogiadau i gyflawni a dychmygu) a gomisiynwyd gan fenter gymunedol Caia Crafts a’i defnyddio yn y sesiwn rannu olaf, wedi ei chyflwyno’n rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn yr un modd, cyflwynwyd blancedi picnic cywasgedig a chynaliadwy o ansawdd dda yn rhodd i grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr a fu’n cymryd rhan yn y prosiect. A thrwy hynny alluogi pobl i barhau i ymweld a threulio amser yn yr awyr agored yn y dyfodol.

Gyda diolch

Crëwyd y prosiect hwn ar y cyd â chriw o artistiaid creadigol, grwpiau cymunedol ac aelodau o’r gymuned; yn cynnwys

  • Bom Dia Cymru
  • Dynamic Wrexham
  • KIM Inspire
  • Muddy Trainers
  • Ardal Bicnic (Deuawd sain, Rosey Brown a Heledd Evans)
  • Natasha Borton (Gweithiwr creadigol amlddisgyblaethol)
  • Calon FM a Heather Wilson
  • Louise Idoux (Perlysieuydd Meddyginiaethol, Oswestry Herbarium)
  • Pip Waller (Perlysieuydd Meddyginiaethol ac Iachäwr Meddyginiaeth Ysbrydol Planhigion)
1,200 erw o barcdir yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Crwydro parcdir Erddig 

Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Golygfa ar draws y llyn tuag at y tŷ yn Erddig, Clwyd, sy’n cael ei adlewyrchu ar y dŵr.
Erthygl
Erthygl

Hanes Erddig 

Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.