Diwrnodau allan i'r teulu yng Erddig
Diddanu pawb gyda diwrnod llawn hwyl i'r teulu cyfan yn Erddig. Gydag erwau o barcdir, ardal chwarae naturiol a gweithgareddau tymhorol, mae digon i gadw’ch anturwyr bach yn brysur.
Cynllunio eich ymweliad ar gyfer y teulu
Cymerwch gip ar y wybodaeth yma i’ch help i gynllunio eich ymweliad nesaf ag Erddig:
- Mae toiledau a chyfleusterau newid babanod wedi’u lleoli yn Iard y Domen. Mae toiledau compostio ychwanegol wedi’u lleoli yn Ffau’r Blaidd, ein hardal chwarae naturiol.
- Caiff pramiau eu caniatáu ledled llawr gwaelod y tŷ yn unig, sy’n gwbl hygyrch, gyda lloriau carreg gwastad. Gallwch hefyd adael pramiau wrth fynedfa’r tŷ.
Haf o Hwyl
Ar eich marciau, barod, ac ymunwch â ni yn Erddig yr haf hwn i greu atgofion drwy chwarae, archwilio, a bod yn actif gyda'n gilydd.
O 20 Gorffennaf tan 1 Medi, rhowch gynnig ar y gweithgareddau chwaraeon hunan-arweiniad y gall y teulu cyfan eu mwynhau ar hyd a lled yr ardd, o glwydi i sbrintio.
Rhowch gynnig ar ddefnyddio hwla hwp - dechreuwch gyda’r lleiaf a gweithio eich ffordd drwy'r rhai mwy i weld pa un yw’r mwyaf y gallwch ei droelli. Rhowch gynnig ar sbrintio, neidio clwydi a croquet bach. Yna heriwch eich teulu a’ch ffrindiau mewn gêm o rygbi tag. Gwisgwch y beltiau rygbi tag a cheisiwch dynnu’r tagiau o gefn beltiau eich gilydd - pwy fydd yn fuddugol?
Ar 24 Gorffennaf a 7 Awst, bydd yr adroddwr straeon Jake Evans hefyd yn ymweld i ysbrydoli dychymyg plant ifanc gyda’i straeon cyfareddol yn ystod egwyliau rhwng 12pm a 3pm.
Bob dydd Llun o 22 Gorffennaf ymlaen, rhwng 11am-3pm bydd cyfle i roi cynnig ar argraffu leino yn yr ystafell addysg - ysbrydolir y patrymau lino stamp gan y symbolau a’r siapiau a welwch ar y Gwely Ystad yn y tŷ.
Dewch i fwynhau Dydd Gwener Celfyddyd Gain, sy’n dychwelyd bob dydd Gwener o 26 Gorffennaf ymlaen, rhwng 11am a 3pm. Gall arlunwyr o bob oedran a gallu gael ysbrydoliaeth o’r ardd i greu campwaith celf i fynd adref gyda nhw.
Noddir Haf o Hwyl gan Starling Bank.
Byw’n Wyllt yn Ffau'r Blaidd
Dewch i ymweld â’n hardal chwarae naturiol.
Mae'n bryd hopian, sgipio a neidio o gwmpas. Dewch i gadw’ch balans ar drawstiau, adeiladu ffeuau a dringo yn ein hardal chwarae naturiol sydd yng nghanol y Goedwig Fawr. Waeth beth fo’r tywydd, mae Ffau’r Blaidd yn lle gwych i losgi ychydig o egni.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Bwyta a siopa yn Erddig
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.
Ymweld â'r ardd Erddig
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.
Ymweld ag Erddig efo'ch ci
Mae gan Erddig sgôr o ddwy bawen. Mae Erddig yn cynnig digon o gyfleoedd i rasio, neidio, ffroeni a sblasio i gŵn. Dysgwch am y parth oddi ar dennyn a chyfyngiadau ar fynediad a all effeithio ar eich cynlluniau.