Darganfyddwch fwy yn Erddig
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gyda gardd ffurfiol a 1,200 erw o barcdir wedi ei dirlunio i’w mwynhau, mae gan Erddig ddigonedd o ddewisiadau i chi fynd allan ac ymgolli yn natur. Rhowch gynnig ar ein gweithgareddau grŵp cyfeillgar, am ddim, gan gynnwys cerdded Nordig a parkrun, neu chwiliwch am lwybr i’w gerdded ar eich cyflymder eich hun.
Gall mynd i’r awyr agored yn Erddig fod yn ffordd wych o gael gwared ar straen a gwella eich llesiant. A does dim rhaid i chi fod yn chwys i gyd i gael budd.
Mae ein holl weithgareddau am ddim. Mae bwced rhoddion ar gyfer y cerdded Nordig a sesiynau Esgidiau Rhedeg Mwdlyd i helpu i brynu offer newydd, ond nid oes gofyn i chi gyfrannu.
Mae’r bwyty yn Erddig ar agor ar ôl ein holl weithgareddau bore sydd wedi eu trefnu, felly gallwch sbwylio eich hun a dod i adnabod ffrindiau newydd.
Os ydych yn chwilio am daith gerdded fer heibio’r Gwpan a’r Soser, nodwedd dŵr o’r 18fed ganrif, neu daith bellach trwy’r coetir a’r gweirgloddiau, mae llwybr addas i bawb yng ngardd ffurfiol Erddig (Mae prisiau mynediad arferol yn berthnasol) a’r parcdir wedi ei dirlunio.
Ar gyfer pobl sy’n ei chael yn anos symud, mae llwybr heb risiau o gwmpas yr ardd ac mae rhai llwybrau parcdir yn addas i gadeiriau olwyn hefyd.
Cerdded Nordig yw’r ymarfer i’r corff cyfan gorau i bobl o bob lefel o ffitrwydd. Yn ddiogel a chymdeithasol, mae’n eich helpu i gryfhau cyhyrau heb roi fawr o straen ar gymalau, a gallai helpu i leddfu problemau gwar, ysgwydd a chefn.
Mae Cerddwyr Nordig Erddig yn cynnal teithiau cerdded wythnosol mewn amryw o leoliadau yn ardal Wrecsam a gallant ddarparu hyfforddiant i'r rhai sy'n newydd i gerdded Nordig. Cynhelir sesiynau hyfforddi ar gyfer dechreuwyr newydd yn Erddig. Yn dilyn pob taith gerdded ceir sesiwn gymdeithasol i gwrdd â phobl o'r un anian.
Mae teithiau cerdded yn cael eu graddio yn ôl tirwedd gyda lefelau'n amrywio o hawdd i heriol. Gall cerddwyr ymuno pa un bynnag sydd fwyaf addas iddyn nhw ac mae yna gyfraniad gwirfoddol o £1 i fynychu.
Manylion yma: Erddig Nordic Walkers
Mae parkrun Erddig yn daith gerdded/loncian/rhedeg 5k wythnosol am ddim wedi’i hamseru ac sy’n agored i bob oed a gallu.
Wedi'i drefnu gan wirfoddolwyr parkrun, fe'i cynhelir am 9am yn brydlon bob dydd Sadwrn gan ddechrau o flaen Gorllewinol Neuadd Erddig. Cofrestrwch gyda parkrun ar eu gwefan i dderbyn cod bar i ymuno. Codir tâl mynediad ar unrhyw un sy'n dymuno ymweld â'r tŷ a'r gerddi pan fyddant yn agor am 10am - mae mynediad am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phlant dan 5 oed.
Tu allan i’r tŷ y mae’r daith yn cychwyn a gorffen, ac mae’n cynnwys ‘allt Erddig’ sydd newydd ei enwi i herio eich hun ar y ffordd. Croesewir cŵn ar dennyn byr ar ein parkrun.
Os nad ydych yn teimlo fel gwneud y 5k, mae croeso i chi ymuno â ni fel stiward gwirfoddol.
Wedi’i arwain gan wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae Erddig Muddy Trainers yn grŵp rhedeg hwyliog, cyfeillgar a chefnogol i ddechreuwyr i helpu rhedwyr newydd gyrraedd eu nodau ac mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisiau gwneud llai na 5k.
Mae'r grŵp yn cyfarfod yn Erddig ar fore Sadwrn am 9am a dydd Mercher am 6.30pm ger Swyddfa Docynnau Erddig.
Sefydlwyd y clwb fel rhan o gynllun ‘Symudwch i'r Awyr Agored' yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Manylion yma: Erddig Muddy Trainers
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’n gweithgareddau awyr agored, ffoniwch ni ar 01978 315179 neu anfonwch e-bost at erddig@nationaltrust.org.uk.
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.
Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.
Mae gan Erddig sgôr o ddwy bawen. Mae Erddig yn cynnig digon o gyfleoedd i rasio, neidio, ffroeni a sblasio i gŵn. Dysgwch am y parth oddi ar dennyn a chyfyngiadau ar fynediad a all effeithio ar eich cynlluniau.
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.