Skip to content

Ein gwaith cymunedol yn Erddig

Awyrlun o Felin Puleston ar stad Erddig. Mae’r llun yn dangos pwll a nifer o adeiladau allanol yn amgylchynu’r Ardd Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Awyrlun o Felin Puleston ar stad Erddig. | © National Trust/Chris Davies

Gwyddom fod mynediad i fyd natur a’r awyr agored yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant ac iechyd meddwl pobl, ac rydym yn frwd dros greu cyfleoedd a phrofiadau sy’n helpu pawb yn ein cymuned leol i elwa ar bopeth sydd gan ystâd Erddig i’w gynnig. Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau partner i ddarparu cyfleoedd sy'n diwallu anghenion ein cymuned leol trwy gysylltiadau ag Erddig - gan alluogi pobl a natur i ffynnu.

Felin Puleston

Wedi’i leoli ar gyrion ystâd Erddig fe welwch Felin Puleston, a oedd unwaith yn lleoliad pentref bach, ond sydd bellach yn ganolbwynt ar gyfer gwaith cymunedol Erddig a lleoliad ei Ardd Lesiant.

Mae’r ardd wedi ei gwneud a’i rheoli mewn partneriaeth â’r gymuned leol ac mae’n gartref i Tyfu Erddig a Chlwb Ieuenctid Erddig sy’n darparu man diogel, cefnogol a chyfeillgar lle gall pobl ifanc a natur ffynnu.

Yn ogystal â chynnal ein gwirfoddolwyr ein hunain yn Felin Puleston, rydym hefyd yn croesawu grwpiau o sefydliadau partner fel y gallant hwythau elwa ar y lle arbennig hwn.

Tyfu Erddig

Mae Tyfu Erddig yn rhaglen sy’n pontio’r cenedlaethau sy’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc 16 oed a hŷn feithrin eu hyder, eu hunan-barch a’u gwytnwch wrth gael eu cefnogi gan dîm ymroddedig o oedolion gwirfoddol.

Gyda’i gilydd maen nhw’n meithrin amrywiaeth o ffrwythau a llysiau, yn gofalu am fywyd gwyllt – yn cynnal arolygon glöynnod byw a bywyd gwyllt – ac yn cynnal yr Ardd Lesiant. Maen nhw hefyd yn tyfu blodau sy’n cael eu troi’n duswau hardd a’u gwerthu o’r swyddfa docynnau yn Neuadd Erddig ar ddyddiadau penodol yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf, gyda’r holl elw yn ein helpu i ofalu am Erddig i bawb, am byth ac yn cefnogi ein gwaith cymunedol parhaus.

Mae'r tîm yn cyfarfod yn Felin Puleston ar ddydd Mawrth, 10am-3pm, bob yn ail ddydd Sadwrn 10am-3pm, ac ar ddydd Gwener o 8.30am-3pm yn ystod y tymor casglu blodau (Mehefin-Medi). I gymryd rhan e-bostiwch erddig@nationaltrust.org.uk

Aelod o staff Tyfu Erddig yn helpu dau ymwelydd ifanc i adnabod pa fywyd pwll sydd i’w weld yn yr Ardd Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Felin Puleston, Erddig
Aelod o staff Tyfu Erddig yn helpu dau ymwelydd ifanc i adnabod pa fywyd pwll sydd i’w weld yn yr Ardd Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Felin Puleston, Erddig | © National Trust/Lois York

lwb Ieuenctid Erddig

Wedi’i sefydlu ym 1999, nod Clwb Ieuenctid Erddig yw annog pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithgar a bod yn ymwybodol o’r amgylchedd trwy ddarparu cyfleoedd iddynt wirfoddoli, gwneud gwaith cadwraeth, dysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog eraill gan gynnwys gemau pêl-droed bwrdd a phŵl.

Mae'r clwb ieuenctid yn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol lle gall aelodau fagu hyder, mwynhau treulio amser gydag eraill mewn amgylchedd hardd a mwynhau eu hieuenctid, wrth ddysgu sgiliau newydd a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau.

Mae ei aelodau wedi helpu adeiladu llwybrau troed a ffensys, wedi cynnal sesiynau casglu sbwriel ac wedi cefnogi digwyddiadau eiddo fel Dathliad Cynhaeaf Afalau blynyddol Erddig.

Mae’r clwb yn agored i unrhyw un rhwng 11-17 oed, mae’n rhad ac am ddim i’w fynychu, ac mae’n cyfarfod yn wythnosol ar ddydd Llun o 6.30-8.30pm yn Felin Puleston. Am fwy o wybodaeth, neu i holi am ymuno, cysylltwch erddig@nationaltrust.org.uk

Gardd Lesiant Felin Puleston

Mae’r Ardd Lesiant yn Felin Puleston yn ofod diogel, cynaliadwy y mae staff, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol yn gofalu amdano.

Mae’r ardal yn llawn bywyd gwyllt – felly disgwyliwch weld amrywiaeth o wenyn a gloÿnnod byw yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Edrychwch i weld pa adar y gallwch chi eu hadnabod. Os ydych yn lwcus, efallai y gwelwch fadfall yn y pwll bywyd gwyllt.

Fe welwch ardaloedd eistedd drwyddi draw, sy’n ei wneud yn lle perffaith i ymlacio gyda llyfr neu i eistedd, myfyrio a dadflino mewn amgylchedd hardd. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cael rhai syniadau ar sut i wella bioamrywiaeth yn eich gardd eich hun.

Mae’r ardd yn rhad ac am ddim i bawb gael mynediad iddi drwy gydol y flwyddyn, gyda’r gatiau ar agor o’r wawr tan y cyfnos.

Tocyn Mynediad Lles Cymru

Wedi’i gyflwyno yn 2018, mae’r Tocyn Mynediad Lles yn darparu mynediad am ddim i unrhyw eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ar gyfer elusennau lleol a sefydliadau cymunedol sy’n cael eu ffurfio er budd lles eu cyfranogwyr.

Rydym hefyd yn gweithio gyda deiliaid Tocyn Mynediad Lles i gefnogi unrhyw ymweliadau pwrpasol gyda theithiau, mynediad y tu allan i oriau i Ffau’r Blaidd – lle chwarae naturiol Erddig, a phrosiectau partneriaeth fel Cymorth Profedigaeth trwy fyd natur Tŷ’r Eos.

Mae'r tocyn yn costio £45 y flwyddyn i grwpiau o hyd at 50 o bobl. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag erddig@nationaltrust.org.uk am ffurflen gais.

Cerddwyr Nordig Erddig yn mwynhau mynd am dro
Cerddwyr Nordig Erddig yn mwynhau mynd am dro | © National Trust Images/Chris Lacey

Partneriaethau

Yma yn Erddig, credwn mai cydweithio yw’r allwedd i lwyddiant. Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o sefydliadau fel We Mind the Gap, Sefydliad Rainbow, Maethu Wrecsam, Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Tîm Gwella Iechyd BIPBC, i enwi dim ond rhai.

Trwy gydweithio, gallwn greu profiadau perthnasol ac ystyrlon sy’n bodloni anghenion unigol ein partneriaid a’u cyfranogwyr.

Gweithgareddau awyr agored

Pa ffordd well sydd yna i fwynhau amgylchoedd prydferth ystâd Erddig na gweithgaredd egnïol? Cysylltwch â natur a'ch gilydd wrth i chi gamu allan i gadw'n heini.

Mae yna nifer o ddigwyddiadau i ddewis o’u plith sy’n addas ar gyfer gwahanol alluoedd – dewiswch o 5k parkrun Erddig, Erddig Muddy Trainers neu Gerddwyr Nordig Erddig.

Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Gweithgareddau Awyr Agored yn Erddig: Gweithgareddau yn yr awyr agored yn Erddig

You might also be interested in

Gwraig yn gwisgo lanyard yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwenu a phwyntio at rywbeth wrth esbonio nodweddion ystafell i ymwelydd.
Erthygl
Erthygl

Gwirfoddoli yn Erddig 

O’r tŷ hanesyddol i’r ardd furiog o’r 18fed ganrif a’r parcdir, mae amrywiaeth eang o swyddi i wirfoddolwyr yn nhîm cyfeillgar Erddig.

Yr olygfa ar hyd y lôn o goed yw wedi’u tocio  yn Erddig, Wrecsam, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd Erddig 

O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

Teulu o ymwelwyr â’r ardd yn Erddig, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Diwrnodau allan i'r teulu yng Erddig 

Diddanu pawb gyda diwrnod llawn hwyl i'r teulu cyfan yn Erddig. Gydag erwau o barcdir, ardal chwarae naturiol a gweithgareddau tymhorol.

Tri o bobl yn rhedeg drwy’r parcdir.
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau yn yr awyr agored yn Erddig 

Gweithgareddau awyr agored am ddim i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ardd a’r parcdir, o gerdded Nordig i parkrun wythnosol.