25 Mai 2015
Pen y Gogarth: wedi’i achub dros y wlad
Yn 2015 gwnaethon brynu Fferm y Parc yn dilyn pryderon y gallai gael ei throi’n gwrs golff. Drwy brynu’r fferm, gwnaethom hefyd ddiogelu’r pentir ehangach ar Ben y Gogarth.
Cafodd Fferm y Parc ei cherfio allan o’r mynydd yn y 1800au a’i hamgylchynu gan wal gerrig. O fewn y wal, mae’r fferm wedi cael ei gwella ar gyfer ffermio modern, ond o’i chwmpas mae rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Cymru. Prynwyd Fferm y Parc gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2015, ochr yn ochr â’r hawliau i bori defaid ar y pentir cyfan. Dysgwch sut rydym yn gweithio y tu hwnt i’n ffiniau i helpu i wella cynefinoedd y parc gwledig cyfan.
Ers miloedd o flynyddoedd, mae bugeiliaid wedi bod yn gofalu am breiddiau o ddefaid brodorol gwydn ar draws Pen y Gogarth. Crëwyd y bywyd gwyllt bendigedig sy’n gwneud y lle hwn yn arbennig gan yr hen ffordd hon o fyw, ynghyd â’r ddaeareg a’r hinsawdd eithafol.
Ond mae ffermio modern wedi arwain at golli’r ddau beth y mae’r bywyd gwyllt yn dibynnu arnynt: y defaid gwydn a’r bugail. O ganlyniad, mae glaswellt bras, eithin pigog a phlanhigion anfrodorol yn bygwth cydbwysedd bregus byd natur.
Gyda’n tenant, Dan Jones, rydym wedi ymuno â thîm Parc Gwledig Cyngor Conwy, PlantLife a sefydliadau cadwraeth eraill i ailgyflwyno preiddiau o ddefaid sy’n cael eu bugeilio’n draddodiadol. Y Parc yw’r injan sy’n galluogi pori er lles cadwraeth ar draws Pen y Gogarth.
Mae angen llefydd fel Pen y Gogarth arnom ni. Yn sgil straen bywyd modern, mae’n hanfodol gallu dianc i’r gwyllt a rhoi’r cyfle i fam natur adfer ein cyrff a’n heneidiau.
Os ydych chi’n gerddwr, yn ymwelydd, yn un o gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gynghorydd, yn athro, yn arweinydd cymunedol neu’n syml yn caru Pen y Gogarth, rydym yn eich gwahodd i’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y Parc. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy: parcfarm@nationaltrust.org.uk
25 Mai 2015
Yn 2015 gwnaethon brynu Fferm y Parc yn dilyn pryderon y gallai gael ei throi’n gwrs golff. Drwy brynu’r fferm, gwnaethom hefyd ddiogelu’r pentir ehangach ar Ben y Gogarth.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Mae Plantlife yn elusen gadwraeth Brydeinig sy'n gweithio'n genedlaethol a rhyngwladol i achub blodau gwyllt, planhigion a ffyngau sydd dan fygythiad.
Dysgwch sut mae ein harferion ffermio ecogyfeillgar yn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau prin, yn atal llifogydd, ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru.
Rydym yn rheoli dolydd yn ofalus ledled Cymru er mwyn eu helpu i ffynnu. Dysgwch ragor am ein gwaith a ble gallwch weld dolydd yng Nghymru.
Dewch ar antur natur yng Nghymru a darganfod pob math o fywyd gwyllt, o ddyfrgwn enwog Llynnoedd Bosherston yn Sir Benfro i wiwerod coch Plas Newydd yng Ngogledd Cymru.
Darllenwch am y prawf Talu am Ganlyniadau (TaG), dull fferm-gyfan arloesol sy’n dod o hyd i ffyrdd o wneud ffermio’n fwy amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy ym Mhen Llŷn.
Dysgwch sut rydym yn gofalu am 157 milltir o arfordir Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, o ddiogelu cynefin bywyd gwyllt i addasu i heriau newid hinsawdd.