Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Mae dolydd blodau gwyllt yn rhan bwysig o’n treftadaeth naturiol a diwylliannol, ond er hyn, mae eu niferoedd wedi gostwng 97 y cant ledled y DU ers y 1930au. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i adfywio ac adnewyddu’r tirweddau pwysig hyn ym mhob rhan o Gymru, o fryniau Eryri i gaeau arfordirol Ceredigion. Dysgwch ragor am ein gwaith a ble gallwch weld dolydd yng Nghymru.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd dolydd blodau gwyllt hynafol eu trin i gefnogi’r ymdrech genedlaethol i gynyddu cynhyrchiad bwyd. Cyfrannodd ragor o aredig, draenio a defnydd gwrtaith a chwynladdwyr at golled swm aruthrol, 7.5 miliwn erw o laswelltir blodau gwyllt, ledled y DU.
Heddiw, mae dulliau ffermio modern yn ffafrio caeau silwair, sydd â chyn lleied â dau neu dri o rywogaethau o blanhigion, ac yn aml iawn dim planhigion sy’n blodeuo. Mae hyn wedi arwain at lawer o rywogaethau blodau eiconig yn cael eu hychwanegu at restr i’w gwylio, sydd wedi bygwth y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt.
Rydym yn rheoli’n ofalus dolydd ledled Cymru i’w helpu nhw i ffynnu, ac rydym bellach wedi adfer dros 213 hectar, neu arwynebedd sydd tua 50 gwaith maint Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.
Mae ein gwaith yn cynnwys didonni, torri a chaniatáu pori dros y gaeaf cyn ac ar ôl plannu hadau, i roi cyfle da iddynt i ddatblygu a thyfu. Yna, mae ceidwaid yn casglu’r hadau o ddolydd aeddfed ac yn eu gwasgaru mewn caeau newydd fel y gallan nhw ffynnu hefyd.
Gyda dros 40 y cant o weddill dolydd blodau gwyllt y DU wedi’u lleoli yng Nghymru, mae gennym lu o leoliadau i chi archwilio’r tirweddau naturiol hyn, a dod yn nes at natur.
Wedi’u lleoli o fewn 80 erw o ardd arobryn, mae tri dôl blodau gwyllt ar eu hanterth i’w gweld ym Modnant - yr Hen Barc, Dôl Ffwrnais a Chae Poeth. Diolch i’r cynllun rheoli glaswelltir traddodiadol, maent oll yn ffynnu. Wrth i chi gerdded drwy’r llwybrau o ddiwedd y gwanwyn i’r amser torri ddiwedd mis Awst, fe welwch gannoedd o flodau gwyllt amryliw, gan gynnwys pedwar o rywogaethau gwahanol o degeirianau cain.
Ers 2019, mae 16 erw o ddolydd gwellt ger porthcwlis Castell y Waun wedi’u trawsnewid yn ddôl llawn rhywogaethau, yn llawn sŵn pili-pala, gwenyn, adar a bywyd gwyllt arall. Ymgollwch ym myd natur wrth i chi archwilio llwybrau glaswellt troellog a gweld amrywiadau gwahanol o flodau gwyllt, gan gynnwys y tegeirian pili-pala mawr (Greater butterfly-orchid) prin, y mae ei niferoedd ar i lawr. Cafodd ei gofnodi am y tro cyntaf yn y ddol yn 2022. Cofiwch am y Ddôl Meddylgarwch hefyd, gofod myfyriol newydd lle gall pobl gysylltu â natur, ger Gardd y Gegin.
P’un a ydych yn ymweld â’r ystâd 1200 erw neu’r ardd furiog restredig Gradd I o’r 18fed ganrif, mae llawer o ddolydd lliwgar i’w harchwilio yn Erddig. Ewch am dro drwy’r blodau gwyllt sy’n llenwi glannau ‘camlesi’r ardd neu’r llynnoedd cychod, neu dilynwch y llwybr ar draws yr ystâd i Blas Gronno, lle mae’r ddôl wedi’i adfer yn llawn rhuglen felen, clust y gath, moron gwyllt a phlucen glaswellt.
Ar dir y castell Neo-normanaidd dramatig hwn, rydym wedi sefydlu dau ddôl newydd sbon sy’n llawn blodau gwyllt drwy gydol misoedd cynnes yr haf. Dewch o hyd i fan tawel i fwynhau picnic ac ymgollwch ym myd natur wrth i chi wrando ar sŵn y gwenyn, mwynhau golygfeydd godidog Eryri a gwylio’r gwenoliaid sy’n dod i fwydo ar y pryfaid amrywiol a ategir gan y blodau a’r glaswelltydd.
Mae Cae Maes y Frân a oedd yn arfer bod yn gae rygbi mwdlyd, bellach yn un o Ddolydd y Coroni Ynys Môn, sydd wedi’i gydnabod am ei fywyd gwyllt cyfoethog yn llawn rhywogaethau gwahanol. Porwch drwy bum erw bywiog sy’n llawn planhigion, glaswelltir a blodau naturiol megis tegeirianau gwyllt, meillion coch, llygad yr ych a blodau menyn dolydd, sydd oll yn cefnogi ein gwenyn cynhenid, a phryfaid, anifeiliaid ac adar eraill.
Uwchben maenordy hyfryd Plas yn Rhiw, fe welwch ddôl a pherllan gyda rhai o’r golygfeydd gorau yng Nghymru. Diolch i’r plant ysgol gynradd, mae’r ddôl ar ei gorau ac yn llawn sŵn pryfaid ac adar yn galw gan gynnwys gwenoliaid du, gwenoliaid a bwncathod. Eisteddwch ar un o’r meinciau, sydd mewn lleoliad perffaith, a mwynhau’r golygfeydd yng nghanol natur.
Mae’r ystâd draddodiadol Gymreig hon sydd wedi ei gosod yn nyffryn coediog Aeron yn llawn o gân y radar, lliw, a bywyd gwyllt yn ystod misoedd yr haf. Edrychwch am las y dorlan a for kingfishers and bronwen y dŵr wrth i chi gerdded wrth ochr yr afon neu wylio’r gwenoliaid yn bwydo uwchben y dolydd gwair traddodiadol sy’n amgylchynu’r fila Sioraidd restredig Gradd I. Mae digon i’w ddarganfod yn y lle hardd hwn gyda 50 gwahanol fath o laswelltau a pherlysiau.
Wedi’u lleoli rhwng coetiroedd heddychlon Colby a’i nentydd diferol, mae pedwar erw o ddolydd llifogydd lliwgar sy’n gartref i lawer o greaduriaid. Bob blwyddyn, rydym yn gadael i’r glaswellt a’r blodau gwyllt dyfu nes diwedd yr haf, a dim ond yn eu torri nhw ar ôl hadu. Wrth wneud hynny, rydym yn darparu’r cynefin perffaith ar gyfer llygod bach, llygod dwr, ystlumod, llyffantod, brogaod, pili-pala ac amrywiaeth eang o adar.
Mae’r ystâd 800 acer hon yn llawn o gynefinoedd amrywiol, yn cynnwys dolydd gwellt blodeuog cyfoethog y Parc Allanol a Chae’r Castell. Yn llawn lliw a cyn gartref i rai o famaliaid ac adar mwyaf prin Prydain - yn cynnwys cnocellau’r coed, dringwyr bach gwyn a gwybedogion mannog - mae digon i’w ddarganfod o’r gwanwyn tan ddiwedd yr haf, pan maent yn cael eu torri ac yn darparu porthiant i’r gyrr o Wartheg Parc Gwyn.
Mae llawer o bethau i’w gweld yn yr ardd 55 erw hon dros yr haf. Yn ogystal ag yn yr ymylon llysieuol llawn, mae llu o liwiau i’w gweld hefyd yn y dolydd amrywiol, sydd wedi’u creu i gynyddu amrywiaeth y peillwyr a phryfaid yn yr ardd. Peidiwch â cholli’r ‘dolydd bach’ ar y Lawnt Fawr, sydd wedi’u torri i siapiau gwahanol bob blwyddyn i gyfyngu ar gywasgiad pridd ac i helpu’r capiau cwyr lliwgar ffynnu ar ddiwedd yr hydref.
Yn 2021, defnyddiwyd hadau a roddwyd gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i gyfoethogi’r glaswelltir o amgylch y ffoli Neo-gothig hwn, sydd wedi’i leoli’n uchel ar fryn uwchben pentref Llanarthne. Mae’r had lleol hwn wedi creu 3 hectar o ddôl Cymreig sy’n ffynnu, sydd wedi’i gydnabod am ei gymeriad lleol, ac mae llu o flodau lliwgar i’w darganfod yn ogystal â golygfeydd godidog ar draws cefn gwlad cyfagos.
Mae arferion ffermio cyfeillgar i natur wedi gwella bioamrywiaeth yn Rhosili a’r Vile, mae enghraifft o ffermio stribed canol oesol wedi ei adfer, yn ffynnu diolch i gyflwyno cnydau âr traddodiadol a mwy na 15 hectar o ddolydd blodau gwyllt. Gyda million, ydfaes blynyddol, pabi a blodau haul lliwgar yn darparu ffynhonnell fwyd gyfoethog i wenyn, gloÿnnod byw, brain coesgoch, ac adar sy’n gaeafu, mae’n lle delfrydol i fynd am dro hamddenol a dianc i fyd natur.
Gan ymestyn yn syth i’r môr, mae Ystâd Southwood yn fan arfordirol hyfryd yn llawn golygfeydd rhyfeddol, gan gynnwys y dolydd a reolir yn draddodiadol. Diolch i drosglwyddo gwair gwyrdd, torri’n hwyr yn yr haf, a gwartheg du Cymreig yn pori, mae 24 hectar o dir amaethyddol heb lawer o rywogaethau wedi’u trawsnewid yn dirwedd blodau gwyllt cyfoethog, sy’n hafan ar gyfer natur a ffotograffwyr.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Dysgwch sut mae ein harferion ffermio ecogyfeillgar yn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau prin, yn atal llifogydd, ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru.