Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Yn sefyll ar fryn uwchben pentref Llanarthne, mae Tŵr Paxton yn edrych dros Ddyffryn Tywi. Wedi’i adeiladu dros 200 mlynedd yn ôl, mae’r tŵr trawiadol mewn gwirionedd yn ffoledd a adeiladwyd er cof am y Llyngesydd Nelson ac i greu argraff ar bobl y dyffryn. Dysgwch fwy am ei hanes.
Adeiladwyd y tŵr ym 1811 gan Syr William Paxton, perchennog Neuadd Middleton, lle mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru heddiw.
Roedd Syr Paxton yn gyfaill i’r Llyngesydd Nelson ac am ddathlu ei fuddugoliaethau, felly adeiladodd y tŵr er anrhydedd iddo. Yn wreiddiol, roedd arysgrifau ar dair ochr o’r tŵr, yn Gymraeg, Saesneg a Lladin. Nid yw’r rhain wedi goroesi, ond gwyddwn beth roedden nhw’n ei ddweud yn Saesneg:
‘To the invincible Commander, Viscount Nelson, in commemoration of the deeds before the walls of Copenhagen, and on the shores of Spain; of the empire every where maintained by him over the Seas; and of the death which in the fulness of his own glory, though ultimately for his own country and for Europe, conquering, he died; this tower was erected by William Paxton.’
Ac yntau mewn lle mor amlwg, gallai pobl weld y tŵr am filltiroedd, a byddai’n atgof cyson o William Paxton, ei gysylltiadau a’i gyfoeth. Byddai ymwelwyr â’r ystâd wedi mwynhau teithiau cerbyd i’r tŵr ar gyfer gwleddoedd dathliadol.
Mae ‘na stori wahanol sy’n cynnig rheswm arall dros adeiladu Tŵr Paxton. Ceisiodd Sir Paxton gael ei ethol yn AS ar gyfer Sir Gâr ym 1802 ond collodd er iddo wario symiau sylweddol o arian yn ceisio perswadio’r etholwyr i bleidleisio drosto - £15,690 i gyd.
Ychydig yn chwerw wedi iddo golli, roedd Paxton eisiau gwneud datganiad. Un o addewidion ei ymgyrch oedd i adeiladu pont dros Afon Tywi. Yn lle hynny, adeiladodd Dŵr Paxton mewn lle amlwg i atgoffa’r pleidleiswyr o’r hyn y gallent fod wedi’i gael.
Beth bynnag yw’r rheswm go iawn dros adeiladu Tŵr Paxton, ni chaiff ymwelwyr eu siomi gyda’r golygfeydd godidog dros ddyffryn Tywi a thu hwnt.
Os hoffech ymweld ag ystâd Paxton, gallwch wneud hynny yng Ngardd Fotaneg Cymru. Mae Neuadd Middleton wedi’i dinistrio gan dân, ond mae’r ystâd eang yna o hyd.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’n cynnal Prosiect Adfer o Gyfnod y Rhaglywiaeth, Middleton: Adfer Paradwys – Achub Trysor y Rhaglywiaeth, i geisio adfer yr ystâd i sut y byddai wedi edrych yng Nghyfnod y Rhaglywiaeth, pan roedd Syr William Paxton yno.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Yr unig fwyngloddiau aur Rhufeinig a wyddwn amdano yn y DU, o dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Darganfyddwch dirwedd Gymreig eiconig gydag erwau o barcdir, sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol.