I bawb, am byth
Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.
Rydym yn falch o ofalu am 46,000 hectar o dir yng Nghymru. Mae tua 97 y cant ohono’n cael ei reoli gan ffermio mewn rhyw ffordd - naill ai gennym ni, tenantiaid ffermydd neu ddeiliaid hawliau comin. Rydym yn adfer cynefinoedd ac arferion ffermio ecogyfeillgar i sicrhau dyfodol gwell, i fywyd gwyllt a ffermwyr. Dysgwch fwy am ein gwaith cadwraeth gyda ffermwyr tenant, o fynyddoedd Eryri i rostiroedd arfordirol Sir Benfro.
Mae 90 y cant o dir Cymru’n dir amaeth. I wneud hyn yn hyfyw, mae ffermio wedi dod yn fwy dwys ac yn llawer llai amrywiol. Mae hyn wedi arwain at ddirywiad sylweddol mewn bywyd gwyllt a natur, gan wneud ffermio’n fwy agored i effeithiau newid hinsawdd a chostau cynhyrchu cynyddol.
Credwn fod cefn gwlad iach gyda bywyd gwyllt ffyniannus yn dda i iechyd a lles pobl. Mae hefyd yn sail i economi wledig a chenedlaethol ffyniannus.
Mae dolydd sy’n gyfoeth o flodau’n bethau prin bellach, mae cloddiau wedi’u hesgeuluso ac yn ddarniog, ac mae cynefinoedd ucheldirol wedi’u difrodi gan orbori a chynlluniau draenio. Dros 50 mlynedd rydym wedi colli 50 y cant o’n bywyd gwyllt, ond rydym yn gweithio i adfer y duedd hon drwy roi help llaw i natur.
- Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cadwraeth
Fel rhan o’n gwaith dros natur, rydym wedi bod yn asesu’r tir rydym yn gofalu amdano fel ein bod yn gwybod beth sydd angen gwella. Rydym yn mynd yn ôl i’r hanfodion – adfer iechyd y pridd, gan roi sylfaen iachus i weddill ein bywyd gwyllt a chaniatáu i ffermio ffynnu.
Pan mae cyfleoedd yn codi rydym hefyd yn gwneud dewisiadau gofalus am ddefnydd tir a systemau ffermio i alluogi mwy o le i natur ar ein ffermydd.
- Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru
Mae Pen y Gogarth ger Llandudno yn baradwys i fywyd gwyllt – fe’i hystyrir yn un o’r pum safle botanegol pwysicaf yng ngwledydd Prydain. Mae’n gartref i greigafal y Gogarth nad yw’n bodoli’n unrhyw le arall yn y byd, a dwy is-rywogaeth unigryw o weirlöyn llwyd a’r glesyn serennog. Mae’r calchfeini eang hefyd yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy’n genedlaethol fregus, yn ogystal ag adar prin fel y frân goesgoch.
Ein blaenoriaeth oedd cyflwyno system Pori er Lles Cadwraeth benodol i sicrhau goroesiad y rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn. Mae tîm gwydn o ddefaid cadwraeth natur o Fferm y Parc yn helpu i reoli’r bywyd gwyllt unigryw. Mae defaid Llŷn lleol a Herdwicks Ardal y Llynnoedd yn pori’r glaswelltir garw, gan roi hwb i blanhigion ac anifeiliaid prin a gwneud lle i flodau gwyllt ffynnu.
Gwyliwch y ffilm Pen y Gogarth – Ffermio am Natur i ddysgu mwy.
Mae fferm Gwarnoethle yn eistedd yn nalgylch Afon Cothi yn Sir Gâr, ac fe’i prynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel rhan o Ystâd Dolaucothi ym 1944. Mae’r fferm yn magu gwartheg a defaid ar dirwedd fugeiliol a nodweddir gan gaeau bach a rhwydwaith o wrychoedd a choetiroedd. Mae Gwarnoethle yn drysor cenedlaethol, gyda’i phorfeydd rhos yn enghraifft arbennig o gynefin dan fygythiad sydd wedi dirywio.
Mae’n hanfodol bod arferion annwys yn parhau yng Ngwarnoethle i gynnal ffermdir iach sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt. Mae glaswelltiroedd corsiog wedi’u hamgylchynu gan weirgloddiau a phorfeydd a reolir drwy ddulliau annwys, ac mae’r patrymau pori tymhorol mewn cytgord â chapasiti naturiol y tir. Mae’r fferm hefyd wedi darparu hadau blodau gwyllt i greu dolydd sy’n gyfoeth o rywogaethau yn rhai o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, fel Dinefwr.
Mae Fferm Ifan yn grŵp o 11 o ffermwyr tenant yn Ysbyty Ifan, yr ystâd amaethyddol fwyaf yn ein gofal. Mae gan y ffermwyr hawliau pori ar y Migneint, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardal Gadwraeth Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig ddynodedig, ac un o’r ardaloedd mwyaf o orgors yng Nghymru.
Mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) wedi cynnig arweiniad ar blannu dalgylch-sensitif fel rhan o’r gwaith. Maent wedi bod yn plannu mwy o goed a gwrychoedd ffermdir ar hyd nentydd i helpu i ddiogelu cynefinoedd glan afon, lleihau erydiad pridd a lleihau llifogydd ymhellach i lawr yr afon. Bydd gwaith blocio ffosydd ar y Migneint yn parhau, a fydd yn helpu i godi’r lefel trwythiad, storio carbon a lleihau’r perygl o lifogydd yn Nyffryn Conwy.
Mae’r ffermwyr hefyd yn cymryd rhan mewn treialon pori i annog mwy o fioamrywiaeth a bywyd gwyllt ar y mawndir. Fel rhan o’r treialon hyn, mae gwartheg wedi’u cyflwyno i’r Migneint am y tro cyntaf ers cyn cof. Mae yna gynlluniau hefyd i geisio annog mwy o gornchwiglod a gylfinirod i fridio’n llwyddiannus yn yr ardal.
Mae Fferm Trehill yn fferm gymysg o amaethu âr a magu gwartheg, gyda thatws Sir Benfro fel ei phrif gnwd. Yn 2003, cyfyngedig oedd y cnwd yng nghaeau pen clogwyn y fferm, a bu’r cynhyrchiant gwael yn sbardun i reoli’r tir yn wahanol. Drwy weithio o fewn cynhwysedd naturiol y tir, mae’r fferm wedi lleihau costau mewnbwn tra’n sicrhau’r incwm amaeth-amgylcheddol mwyaf posibl.
Heddiw, mae Trehill yn enghraifft o denantiaid fferm yn cyflawni dros natur fel rhan o fusnes cynaliadwy a phroffidiol. Mae cylchdroi’r caeau’n sicrhau bod iechyd y pridd yn cael ei warchod a bod yr anifeiliaid fferm yn cyflawni’r budd mwyaf posibl. Mae cynefin arfordirol wedi dychwelyd i’r caeau pen clogwyn, gan helpu i ehangu busnes cig eidion cynnyrch arbenigol.
Mae cyfres o gloddiau’n rhedeg drwy’r fferm, gan ddarparu rhwydwaith o gynefinoedd i fywyd gwyllt, yn arbennig adar ffermdir. Mae rhostir arfordirol, glaswelltir, cloddiau â pherthi a grawn ecogyfeillgar wedi’u hailsefydlu ar draws 70 hectar o lain arfordirol. Mae hyn wedi helpu i ddiogelu’n well y gwlyptir a’r dyfroedd ffiniol yng Nghors Marloes, sy’n amgylchynu Gwarchodfa Natur Forol Sgomer, rhag gwrtaith a phlaladdwyr ffo.
Mae rhostir arfordirol yn baradwys go iawn i natur. Mae’n cefnogi amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid prin, gan gynnwys y cor-rosyn rhuddfannog a’r frân goesgoch. Mae rhostir yn fynnu pan gaiff ei bori, a dyma pam y gwelwch ein gwartheg a’n merlod mynydd Cymreig yma yn aml.
Cafodd y caeau arfordirol ym Marloes yn Sir Benfro eu troi’n rhostir eto, yn dilyn prosiect adfer mawr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Fferm Trehill. Mae angen priddoedd asidig gwael ar rostir i ffynnu, felly i adfer y cynefin yn ôl i’w harddwch naturiol bu’n rhaid gwrthdroi’r broses hon. Cafodd sylffwr gwastraff ei ddefnyddio a chafodd tocion grug sy’n gyfoeth o hadau eu gwasgaru yma ac acw. Wrth i’r sylffwr dreiddio i lawr drwy’r pridd, mae’r rhostir wedi gallu adfer, ac mae’r bywyd gwyllt wedi dychwelyd.
Ugain mlynedd yn ôl, roedd y rhostir yn Fferm Penarfynydd mewn cyflwr gwael ar ôl blynyddoedd o bori dwys gan ddefaid. Mae gwelliant, drwy ddatblygu perthynas waith rhwng rheolwyr tir a ffermwyr dros y ddegawd ddiwethaf, wedi golygu bod y rhostir nawr mewn cyflwr da, gyda threfn gymysg o wartheg, merlod a brîd arbenigol o ddefaid. Mae Penarfynydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig ac yn brawf byw nad oes yn rhaid i ffermio a chadwraeth natur fod yn gyfaddawd.
Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.
Darllenwch am y prawf Talu am Ganlyniadau (TaG), dull fferm-gyfan arloesol sy’n dod o hyd i ffyrdd o wneud ffermio’n fwy amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy ym Mhen Llŷn.
Dysgwch sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am ac yn gwella’r cynefinoedd o fewn ac o gwmpas Fferm y Parc ar Ben y Gogarth.
Dysgwch am fugeilio er lles cadwraeth, adfer cynefin llygoden y dŵr a sut mae gorgorsydd yn chwarae rôl hanfodol yn rheoli llifogydd ar ffermydd yn Eryri.
Rydym yn rheoli dolydd yn ofalus ledled Cymru er mwyn eu helpu i ffynnu. Dysgwch ragor am ein gwaith a ble gallwch weld dolydd yng Nghymru.