Darganfyddwch fwy am Draeth a Phenrhyn Marloes
Dysgwch sut i gyrraedd Traeth a Phenrhyn Marloes, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae tirwedd Marloes yn gyfuniad lliwgar o arfordir a chefn gwlad, gyda thraethau eang, gwlyptiroedd toreithiog ac ynysoedd creigiog i chi eu darganfod. Ydych chi’n dwlu ar draethau neu adar? Ymwelwch, da chi. Mae hefyd yn lle gwych i ddarganfod hanes a daeareg gyfoethog y penrhynau.
Mae’r traeth yn dywodlyd a diogel ac yn addas i nofwyr. Mae’n un o’r rhai gorau yn Sir Benfro, ac mae’n bosib ei gyrraedd o’n maes parcio.
Ewch am dro ar lan môr ac fe welwch dywodfaen waddodol ar ochr ddeheuol y penrhyn. Mae pyllau glan môr Marloes yn gartref i gyfoeth o greaduriaid morol hefyd.
Dafliad carreg o’r traeth mae Cors Marloes, gwlyptir sy’n heidio ag adar. Mae’r lleoliad dan ei sang â bywyd gwyllt, felly dewch â’ch binocwlars a swatiwch yn un o’r cuddfannau sy’n edrych dros y safle.
Mae’r Gors yn arbennig am ei hadar bridio, adar mudol ac adar sy’n treulio’r gaeaf yma. Mae adar y dŵr ac adar ysglyfaethus yn wynebau cyfarwydd ym misoedd y gaeaf, tra bod y gwlyptir yn morio canu yn y gwanwyn.
Ar ben y clogwyn, roedd y Parc Ceirw yn gartref i anheddiad Oes Haearn ‘slawer dydd. Nawr, dyma’r lle perffaith i wylio’r morloi’n chwarae yn y dyfroedd islaw a dod o hyd i drysorau hanesyddol.
Er ei enw, nid oes unrhyw geirw yma. Mae’r enw’n cyfeirio at ymgais aflwyddiannus i greu parc ceirw yma ar ddiwedd y 18fed i ddechrau’r 19eg ganrif.
Gallwch gerdded rhwng y rhagfuriau o hyd yng nghaer Oes Haearn y Parc Ceirw. Mae’n dyddio’n ôl 2,000 o flynyddoedd a mwy, a dyma’r gaer bentir fwyaf yn Ne Cymru. Gyda’i lleoliad arfordirol uchel, mae’n hawdd gweld sut cafodd y gaer ei hamddiffyn gystal.
Mae ynysoedd creigiog dramatig i’w gweld yma ac acw ar y penrhyn, ac maent yn enwog am eu bywyd gwyllt, eu treftadaeth gynhanesyddol a’u daeareg. Gwyliwch y tonnau’n taranu yn eu herbyn o’r tir mawr, neu mentrwch i’r môr am olwg graffach.
Martin’s Haven yw harbwr y penrhyn, a’r man morio i’r ynysoedd. Dyma hefyd leoliad Parth Cadwraeth Morol Sgomer, y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Neidiwch ar fwrdd un o’r cychod o Martin’s Haven ac ymweld ag ynysoedd Sgomer a Sgogwm. Mae’r ynysoedd hyn yn gartref i boblogaethau rhyngwladol bwysig o adar môr sy’n bridio, gan gynnwys Palod, Gweilch y Penwaig, Gwylogod ac Adar Drycin y Graig.
Fodd bynnag, yr aderyn mwyaf niferus a phwysicaf ar yr ynysoedd hyn yw Pâl Manaw. Tybir bod tua hanner miliwn o barau o Balod Manaw yn defnyddio Sgomer, Sgogwm a Middleholm i baru - dros hanner poblogaeth y byd o’r adar anhygoel hyn.
Mae’r ynysoedd yn berchen i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru ac yn cael eu rhedeg ganddynt, ac mae eu canolfan yng Nghaban Lockley ar y tir mawr. Dim ond drwy brynu tocynnau ymlaen llaw y gallwch ymweld â’r ynysoedd.
Mae Ynys Middleholm, sydd i’w gweld o’r Parc Ceirw, ychydig i’r dwyrain o Sgomer ac wedi’i ffurfio o graig folcanig. Mae dyfroedd garw a cherrynt cryf rhwng yr ynys a’r tir mawr, y darn peryglus o fôr a elwir yn Jack Sound. Mae’r ynys yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei rheoli ganddi, ac nid oes mynediad i’r cyhoedd.
Ynys lanwol y gellir ei chyrraedd pan mae’r llanw ar drai – gallwch groesi, ond mae’r ddringfa’n un anodd ac ar gyfer pobl sy’n siŵr o’u gallu.
Mae’r gwastadedd yn cynnwys gweddillion aneddiadau cynhanesyddol, a bu’r gaer Oes Haearn ar y rhaglen deledu Time Team un tro. Roedd wedi’i chysylltu â’r tir mawr gan sarn gyswllt ‘slawer dydd, sydd wedi’i golchi ymaith gan y môr ers tro byd.
Yr ynys hon yw pwynt mwyaf gorllewinol Cymru, ac mae’n Warchodfa Natur Leol. Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) sy’n berchen ar Gwales ac yn ei rhedeg, ac mae’n gartref i 39,000 pâr o fulfrain llwydion – y drydedd boblogaeth fwyaf yn y byd.
Mae Marloes yn baradwys i adar-garwyr. Mae adar môr i’w gweld ymhobman ar hyd yr arfordir, tra bod y Gors yn gartref i amrywiaeth o adar dŵr a rhydwyr. Felly dewch â’ch binocwlars a mwynhewch – gallwch eu gwylio o ben clogwyn neu swatio yn un o’r cuddfannau adar.
Dyma rai o’r adar a welwch ar hyd arfordir Marloes.
Aelod prinnach o deulu’r frân, gyda thraed a phig goch. Mae tua 60 o barau’n nythu ar hyd arfordir Sir Benfro.
Yn aml i’w gweld yn cwffio â’r brain, yr hebogau yw brenhinoedd eraill clogwyni Sir Benfro.
Mae tua 39,000 pâr o fulfrain llwyd yn nythu ar ynys Gwales. Gwyliwch nhw’n plymio am fecryll dafliad carreg o’r lan.
Mae telorion Dartford yn ychwanegiad cyffrous newydd i amrywiaeth adar Sir Benfro, ac maent i’w gweld mewn ardaloedd o eithin a grug trwchus yn y Parc Ceirw.
Gyda’u plu unlliw a’u pig llachar, mae’r palod yn amlwg o unigryw. Mae’r aderyn môr hwn yn dwlu ar Sir Benfro hefyd – mae tua 6,000 pâr o balod yn bridio ar Ynys Sgomer. I weld y Palod, ymwelwch â Sgomer ar gwch rhwng Ebrill a diwedd Gorffennaf.
Dyma’r adar ry’ch chi’n debygol o’u gweld yng Nghors Marloes.
Gall yr aderyn ysglyfaethus anhygoel hwn ymddangos o nunlle, ond ry’ch chi’n fwy tebygol o weld boda’r gwerni tra’i fod yn mudo yn y gwanwyn a’r hydref. Gallai dau neu dri fod yma ar y tro, yn hela dros y Gors am adar ac amffibiaid.
Mae’r gorhwyaden, ein hwyaden leiaf, yn cuddio yn llystyfiant trwchus y gwlyptir – ond gall yr hebog tramor neu foda’r gweini uwchben eu dychryn allan o’u cuddfan.
Mae’r gïach cyffredin yn bwydo ar ymylon gwlyb y gors, a gallant fod yn anodd eu gweld. Mae tywydd oer yn eu gorfodi allan i dir agored a, phan gânt fraw, maen nhw’n igam-ogamu i ffwrdd yn wyllt gyda chri ‘cetsh’ fain.
Mae clochdariaid y cerrig yn byw yma drwy gydol y flwyddyn, ac fel telorion Dartford maen nhw’n dioddef mewn gaeafau caled. Clustfeiniwch am eu galwadau ‘gwich, tsiac, tsiac’ swnllyd o lwyni eithin.
Mae llwydfronnau’n gyffredin yn y gwanwyn a’r haf. Gwyliwch nhw’n hyrddio eu hunain o gwmpas yr wybren, a chlustfeiniwch am eu cân swnllyd. Yn y gaeaf maen nhw’n ei throi hi am yr Affrig Is-Saharaidd.
Gyda morloi, llamidyddion a phob math o rywogaeth brin yn galw’r dyfroedd yma’n gartref, mae’n hawdd gweld pam mae’r arfordir yn Barth Cadwraeth Morol dynodedig.
Ar ddiwedd yr haf, fe welwch forloi llwyd yr Iwerydd a’u lloi bach ar draethau anghysbell o gwmpas y penrhyn. Mae tua 150 o loi yn cael eu geni bob blwyddyn – cewch yr olygfa orau ohonynt o ben clogwyn y Parc Ceirw.
Mae’r dŵr garw rhwng y Parc Ceirw a’r Ynys Ganol, sef Jack Sound, yn boblogaidd gyda llamidyddion. Gwyliwch nhw’n tasgu, ac os ydych chi’n lwcus fe allech weld dolffin neu ddau – maen nhw’n ymddangos yma o dro i dro hefyd.
Deifiwch yn ddyfnach i’r dyfroedd ac fe welwch rywogaethau cenedlaethol-brin gan gynnwys gwyntyll y môr, gwlithen y môr, gwyntyll pinc y môr, y cranc sbyngaidd a chimwch Mair, ynghyd ag ogofau, riffiau a llongddrylliadau.
Mae’n bosib deifio oddi ar Benrhyn Marloes, ond ceisiwch drefnu taith gyda gweithredwr deifio lleol. Byddant yn gweithio o fewn Cod Morol Sir Benfro a bydd ganddynt wybodaeth arbenigol am y llanw a’r llefydd gorau.
Dysgwch sut i gyrraedd Traeth a Phenrhyn Marloes, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Bob ugain mlynedd cynhelir cyfrifiad i asesu maint y nythfa o adar drycin Manaw ar ynysoedd oddi ar arfordir Sir Benfro. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ganlyniadau calonogol iawn.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Gweithgareddau y gall plant eu mwynhau ar lan y môr, o badlo neu nofio i ddal crancod a sgimio cerrig. (Saesneg yn unig)
Er bod canŵio a cheufadu yn ffyrdd gwych o brofi natur a chadw'n heini, gall fod yn beryglus os na ddilynnir y canllawiau. Dysgwch sut i gadw'n ddiogel gyda'n cyngor a'n cyfarwyddyd. (Saesneg yn unig)