Cychdaith Morfa a Nant Bach
Crwydrwch y rhan hon o Ben Llŷn sy’n cynnal bywyd gwyllt cyfoethog y glannau yng nghysgod gweddillion hen ddiwydiant pwysig.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio traeth Trefor, Ffordd y Traeth, Trefor, Caernarfon LL54 5LB
Cam 1
O faes parcio’r traeth ewch drwy’r giât a dilynwch y llwybr ar nes ddowch at ddiwedd y traeth, i’r dde, fe welwch arwyddion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Morfa a Nant Bach – dyma lle bydd y llwybr arfordirol yn cychwyn.
Cam 2
Ewch drwy'r giât ac ewch i ben y llain laswellt, gan ddilyn y llwybr. Byddwch yn ymwybodol y bydd y llwybr yn mynd â chi ar draws y clogwyn a gall fod yn beryglus mewn rhai mannau.
Cam 3
Mae golygfeydd godidog o gadwyn mynyddoedd yr Eifl o'ch blaen, gyda chwarel Trefor ar y chwith a chraig Ynys Fach ar y dde sy'n gartref i gytrefi o fulfrain. Fe welwch yr adar môr yma yn gorffwys ar y clogwyni ac yn lledaenu eu hadenydd i sychu eu plu.
Cam 4
Parhewch nes daw'r llwybr i ben. Os bydd amodau’r llanw’n caniatáu, gallwch gerdded i lawr y grisiau ac i’r traeth i ryfeddu at yr hyn sydd o’ch cwmpas, ond bydd angen ichi ddod yn ôl i fyny’r grisiau gan nad oes ffordd yn ôl i fyny’r pen arall y traeth. Bydd bwthyn gwyn West End ar y dde i chi ac yn nodi rhan nesaf llwybr yr arfordir os dymunwch barhau ymhellach. Ar gyfer y daith gylchol hon bydd angen i chi droi i'r chwith a thrwy'r giât.
Cam 5
Dilynwch y llwybr nes i chi gyrraedd y giât ger arwyddion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Parhewch ar hyd y llwybr tarmac nes cyrraedd depo bysiau Clynnog a Threfor, yna trowch i'r chwith. Bydd y llwybr hwn yn mynd â chi yn ôl i'r traeth lle dechreuoch eich taith.
Man gorffen
Maes parcio traeth Trefor, Beach Road, Trefor, Caernarfon LL54 5LB
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Ymweld â Pen Llŷn gyda'ch ci
Yma yn Llŷn mae gennym ni amrywiaeth o deithiau cerdded i’ch plesio chi a’ch ffrind pedair coes, o draeth perffaith Porthdinllaen i arfordir prydferth Porthor.