Skip to content

Ymweld â Phistyll

Golygfeydd gaeafol dros Borth Pistyll
Golygfa aeafol dros Borth Pistyll | © Alex Jones

Yn gyfoeth o hanes a bywyd gwyllt, dilynwch orffennol chwarelyddol yr ardal ac ymgollwch yn y golygfeydd dros fae Nefyn ac Ynys Môn.  Dilynwch y llwybr ag arwyddbyst i draeth Porth Pistyll, lle mae bryniau dramatig yr Eifl yn disgyn i’r môr. Mae cannoedd o adar y môr, fel gwylogod yn nythu ar glogwyni Carreg Llam. 

Bywyd gwyllt 

Yn pori ar y bryniau mae geifr mynydd. Maent wedi crwydro’r ardal hon ers canrifoedd a gellir eu gweld o Bistyll i lawr i Nant Gwrtheyrn ac ar lethrau’r Eifl. 

Ymhlith y planhigion sydd i'w gweld ym Mhistyll mae'r bengaled, milddail, clychau'r gog, a'r blodyn neidr. Bydd y llwyni eithin yn ffynnu yn ystod misoedd yr haf, gan lenwi'r aer ag arogl melys tebyg i gnau coco.  

Mae Carreg y Llam dros 100m o uchder yn darparu safle nythu ar gyfer nythfa mawr o adar môr fel gwalch y penwaig, y wylog a’r wylan coesddu ac mae’n un o’r safleoedd nythu pwysicaf i adar y môr yng Ngogledd Cymru. 

A small guillemot chick sits on the cliffs of the farnes, a circular ball of fluff, with a white tummy and dark grey back and head.
Gwylog ifanc | © National Trust

Tawel fan 

Yn swatio rhwng Penrhyn Bodeilias a Charreg y Llam mae stormdraeth trawiadol Porth Pistyll. Dros filltir o hyd, wedi'i orchuddio yn bennaf mewn cerrig crynion gwenithfaen ac yn aml yn anfynych, mae'r traeth hwn yn ymfalchïo mewn lleoliad hyfryd ar gyfer tawelwch a myfyrio. 

Pererindod 

Mae eglwys restredig gradd I Beuno Sant wedi'i lleoli mewn pant tawel uwchben y môr. Enghraifft ddigyfnewid o eglwys ganoloesol fechan yng Nghymru, credir iddi gael ei hadeiladu yn y 12fed Ganrif.  

Wedi'i henwi ar ôl Beuno Sant, Abad Cymreig o'r 7fed Ganrif, byddai'r pererinion yn aros yn yr eglwys i gael seibiant angenrheidiol cyn parhau â'u taith hir i Ynys Enlli.  

Camwch yn ôl mewn amser drwy ddrws yr eglwys lle mae enaid Cristnogaeth Geltaidd dal i fodoli. Edrychwch drwy'r ffenestr fechan yn y wal ger yr allor, lle byddai gwahangleifion yr Oesoedd Canol yn gwylio'r offeren i ffwrdd oddi wrth yr eglwyswyr iach. 

Wild mountain goats on Hafod Y Llan farm, Snowdonia
Geifr mynydd | © National Trust Images/Paul Harris

Chwarelu

Ar ôl llwyddiant y chwarel wenithfaen yn Nant Gwrtheyrn a’r galw mawr am ddeunyddiau adeiladu ar gyfer ehangu dinasoedd ar draws y DU, agorwyd chwarel Carreg y Llam ar ddiwedd y 19eg Ganrif. Rhwng Carreg y Llam a dwy chwarel arall ym Mhorth y Nant a Chae’r Nant, roedd llongau cargo yn cael eu llwytho’n rheolaidd â setiau gwenithfaen a’u trosglwyddo i ddinasoedd diwydiannol fel Manceinion a Lerpwl. 

Yn y 1920au, gosodwyd peiriant a weithredir yn drydanol ar gyfer malu cerrig mawr i gynhyrchu balast ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd. Ymhen amser, cyflwynodd hyn drydan i'r ardal leol. 

Cytiau crynion, Tre'r Ceiri
Cytiau crynion, Tre'r Ceiri | © National Trust images / Graham Eaton

Archeoleg 

Ar arfordir Pistyll a Charreg y Llam, mae olion cytiau crwn a llociau amddiffynnol  wedi'u cydnabod i ddyddio'n ôl i'r cyfnod cynhanesyddol hwyr a'r cyfnod Brythonig-Rufeinig. Yn anffodus, dinistriwyd bryngaer fach yng Ngharreg y Llam oherwydd chwarela yn yr ardal. Bu cofnodion hefyd o dai canoloesol ac ôl-ganoloesol yn yr un lleoliadau â'r aneddiadau hŷn. 

Two visitors exploring the garden in spring at Quarry Bank, Cheshire

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.

Darganfod mwy

Golygfeydd o Forfa a Nant Bach
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Morfa a Nant Bach 

I’r rhai sy’n mwynhau cerdded a’r awyr agored, mae’r Morfa a Nant Bach yn lleoliadau delfrydol ar gyfer crwydro arfordir gogleddol Llŷn. Yn gyfoeth o natur, hanes a golygfeydd godidog, ni ddylid colli'r rhan hon o'r penrhyn.

Dau o bobl yn cerdded dau gi bach ar hyd traeth Llanbedrog, darn eang o dywod gyda chytiau traeth lliwgar a choed tal gwyrdd tywyll yn unon tu ôl iddynt.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Pen Llŷn gyda'ch ci 

Yma yn Llŷn mae gennym ni amrywiaeth o deithiau cerdded i’ch plesio chi a’ch ffrind pedair coes, o draeth perffaith Porthdinllaen i arfordir prydferth Porthor.