
Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae papur losin, torion papur newydd a chrib y credir ei fod dros 60 mlwydd oed wedi eu canfod ynghudd o dan estyll llawr Castell Powis a’r Ardd, y castell enwog o’r 13eg ganrif ger y Trallwng y mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gofalu amdano.
Cafodd y darganfyddiadau hynod hyn eu gwneud yn ddiweddar pan oedd tîm arbenigol o gontractwyr, trydanwyr a chadwraethwyr yn arolygu’r castell canoloesol fel rhan o’r Prosiect Ailweirio Pŵeru Powis, sy’n dechrau yr haf hwn.
Mae’r casgliad anhygoel hwn o oddeutu 20 o eitemau, sydd wedi ei golli neu ei anghofio amdano am nifer o ddegawdau, yn cynnwys papur losin o’r 1950au, torion papur newydd a argraffwyd o gêm bêl-droed Cwpan FA Wrecsam yn erbyn Brighton ym mis Rhagfyr 1953 a hyd yn oed crib dyn, wedi cael eu harddangos yn gyhoeddus mewn arddangosfa arbennig yn yr Ystafell Fwyta yng Nghastell Powis a’r Ardd, gan gynnig cipolwg prin ar fywydau bob dydd rhai a oedd unwaith yn byw ac yn gweithio yn y castell a chreu cyswllt agos gyda’i orffennol.
Meddai Emily Gershman, Cadwraethwr y Prosiect ar gyfer Prosiect Atgyweirio Pŵeru Powis:
“Mae ein darganfyddiad o dan loriau Castell Powis yn anhygoel o gyffrous. Mae pob gwrthrych gafodd ei ganfod yn adrodd stori, ac mae’n fraint dod â’r darnau yma o hanes i olau dydd. Rydym yn meddwl bod llawer o’r eitemau yn eiddo i’r trydanwyr oedd wedi ailweirio’r Castell yn y gorffennol. Cafodd y rhan fwyaf eu canfod ar hyd y llwybrau gwifro ac yn dyddio o’r 1920au a’r 1950au, yr un adeg ag y digwyddodd yr ailweirio blaenorol.
Rydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfa hon o eitemau yn rhoi gwell dealltwriaeth i ymwelwyr o hanes y castell a’r gwaith cadwraeth gofalus sy’n cael ei wneud, er mwyn ei warchod i genedlaethau’r dyfodol.”
Ychwanegodd Emily,
“Nid dim ond ymwneud â diweddaru seilwaith mae Prosiect Ailweirio Pŵeru Powis - mae’n ymwneud â gwella dealltwriaeth o hanes y castell. Bydd yn cynnig mewnwelediad newydd i dechnegau pensaernïol ac adeiladwaith, yn arbennig y gwaith pren cywrain yn yr Ystafell Fwyta, a gafodd ei ailfodelu gan y pensaer enwog G.F. Bodley”.
Wedi blynyddoedd o gynllunio, bydd yr ailweirio ar y safle yn dechrau yr haf hwn a bydd yn diweddaru’r systemau trydan yn y 109 o ystafelloedd y Castell. Bydd hefyd yn galluogi i system oleuo newydd gael ei gosod drwy’r holl ystafelloedd arddangos a fydd yn gwella’n sylweddol sut fydd ymwelwyr yn gallu profi’r casgliad. Er mwyn i hyn ddigwydd, bydd y prosiect angen symud paneli’n ofalus a chodi estyll llawr gan alluogi i arbenigwyr ddadorchuddio mwy o nodweddion pensaernïol a hanesyddol ar hyd y ffordd.
Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, bydd Castell Powis a’r Ardd yn parhau i fod ar agor i ymwelwyr, tra bydd rhai ardaloedd o’r castell, o bosib, yn gorfod cau dros dro er mwyn i waith hanfodol gael ei gwblhau.
Ychwanegir mwy o eitemau i’r arddangosfa wrth i ddarganfyddiadau newydd gael eu canfod a’r arddangosfa symud i wahanol ystafelloedd yn y castell wrth i’r prosiect barhau, gan wahodd ymwelwyr i weld hanes y castell mewn goleuni newydd, ochr yn ochr gyda’r gwaith o’i gadw at y dyfodol.
Bydd ymwelwyr i Gastell Powis a’r Ardd eleni yn gallu darganfod yr arddangosfa hynod ddiddorol a darganfod mwy am orffennol cudd y castell, tra’n cefnogi’r gwaith cadwraeth cyfredol a fydd yn helpu i sicrhau bod y safle hanesyddol yn aros ar agor ac yn parhau i fod yn un o brif atyniadau twristiaid Canolbarth Cymru am flynyddoedd a chenedlaethau i ddod.
Just some of the archaeological finds that are on display at Powis Castle and Garden
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.