
Taith gerdded arfordirol Penmaen Dewi
Darganfyddwch bentir arfordirol mwyaf dramatig Sir Benfro ar y daith gerdded gylchol arw hon, dafliad carreg o Dyddewi, dinas leiaf Cymru. Rhyfeddwch at forlun sy’n frith o ynysoedd wrth i chi ymlwybro ar hyd tirwedd wyllt o greigiau, henebion cynhanesyddol ac amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt arfordirol.
Cymerwch ofal o gwmpas ymylon clogwyni
Byddwch yn ofalus iawn wrth ymylon clogwyni. Wrth i chi fynd i lawr tua’r arfordir, cadwch at y llwybr sydd wedi’i farcio. Does dim angen croesi unrhyw waliau na ffensys sydd heb eu marcio.
Cyfanswm y camau: 7
Cyfanswm y camau: 7
Man cychwyn
Maes parcio Porth Mawr, cyfeirnod grid: SM734272
Cam 1
O faes parcio Porth Mawr, ewch drwy dwll yn y wal wrth basio safle Capel San Padrig. Dringwch lethr tywodlyd i’r llwybr clogwyn. Ar ôl tua ½ milltir (0.8km) fe ddewch at gât fochyn ac arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ewch yn eich blaenau i grib y bryn.
Cam 2
O’r fan yma fe welwch Goetan Arthur, gweddillion siambr gladdu Neolithig, yn gysgod ar yr wybren. Mae’r prif lwybr yn glynu wrth yr arfordir, gan ddisgyn i mewn i ddyffryn ar hyd grisiau llydan at ffynnon uwchben cildraeth pitw Porthmelgan. Mae llwybr arall yn arwain i fyny’r rhiw yn raddol, o gwmpas cefn Carn Llidi, gyda golygfeydd trawiadol i’r dwyrain, neu gall yr anturiaethwyr yn eich mysg sgramblo i’r copa.
Cam 3
Croeswch y nant ger y bont a throwch i’r dde (tua’r gogledd-ddwyrain) a cherdded i fyny’r dyffryn. Gall yr ardal hon fod yn llithrig a mwdlyd yn y gaeaf.
Cam 4
I’r dde ohonoch mae ardal gorsiog gyda siapiau ‘wy deinosor’ nodweddiadol glaswellt y gweunydd, neu ‘borfa rhos’. Mae’r ardal hon yn wyrdd yn yr haf ac yn briddlyd yn y gaeaf. Yn uwch i fyny, ar lethrau Carn Llidi, fe welwch batrymau cae hynafol.
Cam 5
Ar y pwynt uchaf yma, gallwch weld copa Pen Beri ac ehangder Bae Ceredigion yn y pellter. Dau bentir i ffwrdd, fe welwch oleudy Pen Strwmbl yn fflachio, gyda chopa Garn Fawr uwch ei ben. Ewch i lawr i ailymuno â llwybr yr arfordir, a throwch i’r chwith tua Phenmaen Dewi.
Cam 6
Ar y gwastadedd, mae tirwedd greigiog anhygoel yn dod i’r amlwg. Mae meini crwydr (neu feini dyfod) danheddog wedi’u hadlewyrchu ym mhroffil garw Ynys Dewi allan ar y môr. I’r gogledd o Ynys Dewi mae grŵp bach o ynysoedd o’r enw ‘Bishops & Clerks’, y mae un ohonynt yn gartref i oleudy mawr. Oddi ar y lan, fe allech weld llamidyddion neu ddolffiniaid yn chwarae yn y tonnau.
Cam 7
Cyn hir, mae’r llwybr yn pasio Coetan Arthur ac yn arwain i lawr at gaer arfordirol o’r Oes Haearn ym mhen pellaf y penrhyn. Dilynwch lwybr yr arfordir, gan ddychwelyd i Borthmelgan. Aildroediwch eich llwybr o’r fan hon yn ôl i draeth Porth Mawr.
Man gorffen
Maes parcio Porth Mawr, cyfeirnod grid: SM734272
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith Treginnis o Borthclais
Taith gerdded 6 milltir o amgylch pentir Treginnis yn Sir Benfro sy’n cynnwys rhai o ffurfiannau craig hynaf Cymru, caer o’r oes haearn, mwynglawdd copr o’r 19eg ganrif a harbwr hanesyddol Porthclais.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelwch â Phenrhyn Dewi
Darganfyddwch fflora a ffawna Penrhyn Dewi. Cadwch olwg am blanhigion arfordirol, campau’r cudyllod a’r mulfrain llwyd fry uwchben, neu glochdar y cerrig yn clwydo ar lwyni eithin.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Cyngor ar gerdded ar yr arfordir
Darllenwch gyngor ar gerdded ar yr arfordir, gan gynnwys y dillad a'r offer hanfodol sydd eu hangen arnoch a beth i'w wneud cyn dechrau arni. (Saesneg yn unig)