
Llwybr pentir Pen Anglas
Mae’r gylchdaith hon, oddi ar lwybr yr arfordir o Wdig, yn arwain ar draws rhostir arfordirol garw yn cynnwys creigiau folcanig trawiadol ym mhentir Pen Anglas. Gallwch hefyd fwynhau golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion, tra bod y llwybr troednoeth yn golygu y gall y teulu cyfan fwynhau antur wyllt.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Cylch troi ym Mhentref yr Harbwr, cyfeirnod grid: SM948392.
Cam 1
Dilynwch Lwybr Arfordir Sir Benfro o’r cylch troi ym mhen yr heol ym Mhentref yr Harbwr. Mae’r llwybr yn disgyn yn serth, gyda golygfeydd da dros Harbwr Abergwaun.
Cam 2
Wrth y gât bren trowch i’r chwith ac ewch tua’r gogledd.
Cam 3
Mae’r llwybr yn dod at gât mochyn gydag arwydd omega yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Pen Anglas. Peidiwch â mynd drwy’r gât hon. Yn lle hynny, ewch i’r dde, gan gadw’r ffens weiren i’r chwith ohonoch. Dilynwch y llwybr am 325 llath (300m) at gât bren.
Cam 4
Croeswch y gât bren i dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a dilynwch y llwybr drwy’r grug a’r eithin tuag at Ben Anglas. Mae’r llwybr yn pasio’n agos at ddau gae bach a amgaewyd gan waliau cerrig ryw 200 mlynedd yn ôl.
Cam 5
Wrth yr hen bostyn mordwyo, trowch i’r dde i ddilyn y llwybr atal tân am 300 llath (270m) tua’r môr.
Cam 6
Dilynwch y llinell o farcwyr mordwyo i bentir Pen Anglas. Mae seiren niwl yr harbwr yn yr adeilad brics bach.
Cam 7
Aildroediwch yr un llwybr. Ewch yn syth heibio’r postyn mordwyo yng ngham 4. Croeswch ardal laswellt i ailymuno â Llwybr Arfordir Sir Benfro cyn dringo’n raddol tua’r tir mawr.
Cam 8
Dilynwch lwybr yr arfordir drwy droi i’r chwith wrth adfeilion annedd (Crincoed), sydd wedi’i orchuddio gan lystyfiant. Mae’r llwybr glaswellt yn rhedeg am 65 llath (50m) at gam 3, sef y gât mochyn ag arwydd omega yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Pen Anglas. Aildroediwch y llwybr yn ôl i Bentref yr Harbwr.
Man gorffen
Cylch troi ym Mhentref yr Harbwr, cyfeirnod grid: SM948392
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith gylchol Pen Dinas
Crwydrwch trwy ran syfrdanol o Lwybr Arfordir Sir Benfro, gan gael golygfeydd o Fae Ceredigion a mynd heibio safleoedd llongddrylliadau ac eglwys a chwalwyd gan storm wrth i chi ddilyn y llwybr garw.

Llwybr golygfan Garn Fawr
Dilynwch lwybr golygfan Garn Fawr yng Nghymru i ryfeddu at y golygfeydd godidog o arfordir Gogledd Sir Benfro ac ymweld â chaer o Oes yr Haearn a ddaeth yn wylfan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Cysylltwch
Strumble Head, Pencaer to Cardigan, Pembrokeshire, SA62
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Awgrymiadau arbennig ar gyfer cerdded bryniau a mynyddoedd
Dysgwch am y dillad a'r offer hanfodol sydd eu hangen arnoch, cadw eich lefelau egni yn uchel, cadw'n ddiogel a gadael yr amgylchedd fel yr oedd cyn i chi gyrraedd. (Saesneg yn unig)

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)