Llwybr golygfan Garn Fawr
Dringwch y brigiad folcanig creigiog hwn am olygfeydd trawiadol o arfordir Gogledd Sir Benfro. Cewch gyfle hefyd i ymweld â chaer o Oes yr Haearn, a ddaeth yn wylfan 3,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyfanswm y camau: 7
Cyfanswm y camau: 7
Man cychwyn
Maes parcio Garn Fawr, cyfeirnod grid: SM8989438830
Cam 1
Dilynwch y llwybr gwair gyferbyn â mynedfa’r maes parcio, lan y rhiw rhwng y cloddiau.
Cam 2
Yn y fan lle mae’r llwybr yn gwahanu, daliwch i fynd lan y rhiw ar hyd y llwybr i’r dde. Cyn bo hir fe welwch bwynt triongli’r AO o’ch blaen.
Cam 3
Ewch drwy fwlch yn y wal gerrig ar y dde a sgramblo i fyny’r creigiau at y copa am olygfeydd trawiadol.
Cam 4
Ychydig islaw’r copa fe welwch wylfan o’r Rhyfel Byd Cyntaf gydag enwau wedi eu naddu yn y concrid. Ceir golygfeydd gwefreiddiol i bob cyfeiriad o’r fan hon. Mae gwartheg a merlod yn pori yn yr ardal, felly cadwch eich cŵn ar dennyn, os gwelwch yn dda.
Cam 5
Ewch i lawr y stepiau o’r wylfan i ymuno eto â’r llwybr ychydig ymhellach ymlaen. O’ch cwmpas mae cloddiau ac amddiffynfeydd y gaer o Oes yr Haearn. Ewch yn eich blaen i’r dde.
Cam 6
Mae’r llwybr yn cwympo’n serth tuag at hostel ieuenctid Pwll Deri. Trowch i’r chwith yn y fan lle mae’r llwybr yn rhannu, gan ddilyn y llwybr wrth iddo fynd o amgylch y bryn yn ôl tuag at y maes parcio.
Cam 7
Dilynwch y llwybr dros ddwy gamfa a rhai stepiau carreg. Peidiwch â mynd dros y drydedd gamfa; arhoswch uwchben y wal. Mae’r llwybr yn dringo am ychydig y tu ôl i fwthyn bach cyn dychwelyd i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Garn Fawr, cyfeirnod grid: SM8989438830
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith gylchol Pen Dinas
Crwydrwch trwy ran syfrdanol o Lwybr Arfordir Sir Benfro, gan gael golygfeydd o Fae Ceredigion a mynd heibio safleoedd llongddrylliadau ac eglwys a chwalwyd gan storm wrth i chi ddilyn y llwybr garw.
Cysylltwch
Strumble Head, Pencaer to Cardigan, Pembrokeshire, SA62
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Darganfyddwch Ddaeareg Pen Strwmbl i Aberteifi
Wedi’i llunio gan natur dros filiynau o flynyddoedd, mae’r dirwedd rhwng Pen Strwmbl ac Aberteifi yn greigiog ac anghysbell.