Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Mae amynedd yn hanfodol wrth reoli coetir, yn arbennig wrth ymgymryd â phrosiect uchelgeisiol i waredu conifferau o goetir hynafol. Darllenwch ymlaen i ddysgu sut mae ymagwedd hirdymor wedi helpu i drawsnewid y coetir yn Ysgyryd Fawr.
Bum mlynedd ar hugain yn ôl, dechreuodd y ceidwad, Stuart McDonnell waith adfer yn Ysgyryd Fawr ger y Fenni. Roedd y safle, sy’n tua 14 hectar (tua maint 14 cae rygbi), wedi’i orchuddio gan gonifferau. Dros y 10 mlynedd gyntaf, lleihawyd y gorchudd coniffer i ddim ond 25%.
Erbyn 2001 roedd rhan helaeth o’r gwaith wedi’i gwblhau. Dim ond amynedd oedd ei angen bellach, ac aros i’r coetir adfer yn naturiol wedi’r ymyriad. Ac yn siŵr i chi, gan fod hwn yn goetir hynafol, roedd ‘na ffynhonnell wych o hadau yn y pridd. Yn sgîl y gostyngiad yn nifer y conifferau a’r golau sydd bellach yn cyrraedd y llawr, ffynnodd bywyd newydd.
Am y 15 mlynedd nesaf, gadawyd natur i ddilyn ei chwrs ei hun, ac aildyfodd y coetir. Ein hunig gyfraniad ni oedd i gynnal y llwybrau cyhoeddus, nid yn unig i roi mynediad i bobl, ond fel coridor ‘ymyl coetir’ pwysig i bili-palod, a wnaeth hefyd annog ffyniant planhigion coetir sy’n gysylltiedig â choetir hynafol.
O edrych ar y safle heddiw, mae’n anodd dychmygu’r blanhigfa goniffer a oruchuddiai’r dirwedd o’r blaen. Mae bellach dan ei sang â choed bedw, ynn, cyll, ffawydd, gwern a helyg, i gyd ar yr un lefel yn cystadlu am olau, yn ogystal â’r conifferau sy’n weddill, sy’n agosáu at aeddfedrwydd.
Fel rhan o’r arolygon cyflwr RAWS (Adfer ar Safleoedd Coetir Hynafol), daeth Coed Cadw i’r casgliad fod y safle wedi datblygu o fod mewn cyflwr ‘gwael’ i ‘dda’, yn ymylu ar ‘dda iawn’. Mae hyn yn profi pa mor llwyddiannus mae’r prosiect wedi bod yn adfer y coetir hynafol yn Ysgyryd Fawr.
Looking at the site today it is hard to imagine the conifer plantation that once covered this landscape. It’s now a dense infill of birch, ash, hazel, beech, alder and willow, all at the same level, competing for light, as well as the remaining conifers that are getting ever closer to maturity.
As part of the condition surveys into RAWS (Restoration on Ancient Woodland Sites) the Woodland Trust concluded that the site had progressed from being in ‘poor’ condition to ‘good’, verging on ‘very good’. This proves how successful the project has been in restoring the ancient woodland at the Skirrid.
Er y llwyddiant, nid yw ein gwaith ar ben. Rydym nawr yn cynnal cynllun 5 mlynedd i reoli’r coetir newydd hwn yn rhagweithiol. Byddwn yn gweithio ar draws y coetir, fesul bloc, i deneuo’r adfywiad trwchus. Byddwn yn ffafrio coed sydd mewn cyflwr da ac yn creu bylchau yn y canopi i helpu i sefydlu haenau gwahanol yn y coetir.
Byddwn hefyd yn tocio’r blociau o gonifferau. Ni fyddwn yn clir-gwympo’r conifferau hyn sy’n weddill gan nad ydynt yn barod eto ac maen nhw’n dal i fod yn adnodd defnyddiol, ac yn ffynhonnell o incwm.
Yn dilyn y rownd ddiweddaraf hon o waith, bydd gennym goetir mwy agored ac amrywiol unwaith eto a bydd y safle’n cael ei adael i adfer eto. Byddwn yn gweld mwy o fflora ar lefelau isel, fel y clychau’r gog sydd wedi dechrau ymddangos yn y gwanwyn, a byddwn yn monitro’r poblogaethau o bili-pala i weld pa effaith rydym yn ei chael ar eu niferoedd.
Mewn ugain mlynedd arall, dylai’r coetir edrych a theimlo fel pe na bai’r blanhigfa goniffer erioed wedi bodoli.
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Darganfyddwch y Mynyddoedd Duon, lle mae Pen-y-fâl yn codi’n uchel uwchlaw’r dirwedd. Gyda golygfeydd panoramig o’r cefn gwlad cyfagos, mae’r rhostir yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt.
Dysgwch am chwedlau a mythau Ysgyryd Fawr a’r cyffiniau, gan gynnwys sut cafodd y Mynydd Sanctaidd ei enw a sut ffurfiwyd y mynydd gan gawr.
Mae llwybrau cerdded yn cris-croesi’r ystâd ac yn ymestyn ar hyd glannau Afon Wysg, ac mae yma berffeithrwydd pensaernïol i’ch rhyfeddu hefyd yn Nhŷ Cleidda a Chastell Cleidda.