Atgyweirio'r ardd yn Nhŷ Mawr Wybrnant

Gyda’r bwriad o wella profiad ymwelwyr ymhellach, mae’r ardd Tuduraidd yn cael ei hadnewyddu gan wirfoddolwyr lleol gyda chefnogaeth staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fydd yn darparu canolbwynt arall i ymwelyr.
Fe grëwyd llawer o'r gwaith sylfaenol ar gyfer yr ardd fechan arddull Elisabethaidd presennol, gan gynnwys lle eistedd gerllaw, yn 2011 gan y Warden ar y pryd a thirluniwr lleol. Fe ddechreuodd y gwaith tyllu yn mis Rhagfyr 2023 gyda'r ymylwaeth newydd yn cael ei osod hefyd.
Mae'r gwaith plannu wedi dechrau erbyn hyn. Mae'r cynllun presennol yn gyson ag ymchwil a wnaed i erddi Tuduraidd, ac mae'r plannu yn cynnwys planhigion y gwyddom a dyfwyd yn y cyfnod hwnnw. Mae ystyriaeth lawn wedi'i roi i geisio apêl synhwyraidd drwy gydol y flwyddyn, tra hefyd yn cynnwys planhigion y cyfeirir atynt yn ysgrifau Shakespeare a’r Beibl, a thrwy hynny ffurfio cysylltiad ychwanegol â hanes y tŷ a’i ddeiliaid.

Ymwelwch â'r ardd yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.