Skip to content

Ein gwaith yng Nghwm Ivy

Golygfa’n edrych tua’r dwyrain o Gwm Ivy yn edrych dros forfa heli Cwm Ivy a Thwyni Whitffordd, Gogledd Gŵyr, Abertawe.
Golygfa o gors Cwm Ivy a Thwyni Whitffordd | © National Trust Images/James Dobson

Mae cors Cwm Ivy ar arfordir Gogledd Gŵyr yn forfa heli sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt. Mae’n cefnogi ecosystem ffyniannus o falwod pitw prin i nadroedd y glaswellt, dyfrgwn ac ystlumod. Dysgwch fwy am ein gwaith yn y cynefin arbennig hwn ger twyni Whitffordd.

Cynefin arfordirol arbennig Gogledd Gŵyr

Mae cors Cwm Ivy yn rhan o gyfres ehangach o lawer o gynefinoedd sydd i gyd wedi’u cysylltu â’i gilydd ar arfordir Gogledd Gŵyr. Mae’r forfa’n cwrdd â’r coetir, yn ogystal â chors dŵr croyw sydd dan ei sang â madfallod dŵr a brogaod. Mae yna laswelltiroedd calch a gwelyau cyrs lle mae’r boda tinwyn i’w weld o bryd i’w gilydd yn ystod misoedd y gaeaf. Mae Twyni Whitffordd gerllaw yn fôr o blanhigion ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn prin.

Tirwedd brin

Mae Whitffordd a Gogledd Gŵyr yn dirwedd arfordirol gyfoethog a deinamig, wedi’i saernïo gan fam natur. Prin yw’r llefydd lle gallwch weld amrywiaeth mor eang o gynefinoedd arfordirol annatblygedig yn yr un olygfa. Yn anffodus, mae morfeydd heli yn dod yn gynyddol brin ar lefel fyd-eang. Mae datblygiad trefol yn bygwth yr ecosystemau arfordirol hyn. Bydd ein morfeydd heli o dan fwy fyth o fygythiad wrth i lefelau’r môr godi dros y 50 mlynedd nesaf.

Bywyd gwyllt ym morfa heli Cwm Ivy

Pan orlifwyd y morglawdd yng Nghwm Ivy yn 2015, gwnaethom adael i natur ddilyn ei chwrs ei hun. Datblygodd y tir mewn dim ond tair blynedd o fôr o fwd i forfa ffyniannus. Mae’r cyfoeth o fywyd gwyllt yn amrywio o wlithod môr i ddyfrgwn a hyd yn oed ambell i walch y pysgod.

Planhigion a pheillwyr y forfa heli

Mae planhigion arbenigol y forfa, fel glaswellt morfa brodorol, wedi cyrraedd yma gyda’r llaid hallt. Mae clystyrau o lafant-y-môr, seren y morfa a chlustog Fair i gyd yn denu llwyth o beillwyr i Gwm Ivy. Mae’n si o wenyn a phili-palod yn ystod y dydd, ac ar ôl i’r haul fachlud mae’r forfa’n fyw gyda miloedd o wyfynod.

Lafant-y-môr yn blodeuo mewn morfa heli ar ddiwrnod heulog.
Lafant-y-môr yn tyfu yn y forfa | © National Trust Images/Rob Coleman

Creaduriaid y môr a mamaliaid

Yn ogystal â phlanhigion arbenigol, daeth y llaid ag anifeiliaid morol bach i Gwm Ivy, fel berdysyn y llaid, gwlithod môr a malwod. Mae cymaint o’r creaduriaid bach hyn yma – maen nhw’n ffynhonnell fwyd enfawr i bysgod a bywyd gwyllt arall. Mae’r holl greaduriaid bach yn y forfa heli yn cefnogi ysglyfaethwyr mwy. Mae dyfrgwn yma hefyd, yn ogystal â moch daear, llwynogod a ffwlbartod hyd yn oed.

Adar Cwm Ivy

Wrth i’r forfa heli ddatblygu, felly hefyd mae’r amrywiaeth o adar. Mae heidiau mawr o adar cân, gan gynnwys y corhedydd a llinosiaid, yn dod yma yn yr hydref a’r gaeaf. Yn ystod y garwaf o dywydd y gaeaf, mae adar y dŵr yn llochesu yng Ngogledd Gŵyr, gan wledda ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol.

Rhywogaethau prin yng Nghwm Ivy

Un o lwyddiannau mawr Cwm Ivy yw darganfyddiad malwen bitw a phrin iawn, sef y falwen droellog geg-gul. Mae’r gwaith o adfer cynefin yng Ngogledd Gŵyr wedi mwy na dyblu ei chynefin posibl. Mae hyn yn wych i’w goroesiad hirdymor.

Mae cynefin y forfa hefyd wedi cefnogi uwch ysglyfaethwyr fel gwalch y pysgod. Yn ogystal, mae’r llwyth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn denu’r ystlumod pedol lleiaf a mwyaf.

Ein prosiectau yng Nghwm Ivy

O fonitro bywyd gwyllt i wirio rhywogaethau, mae digon gan wirfoddolwyr cadwraeth a gwyddonwyr i’w wneud ym morfa Cwm Ivy.

Dyfrgi’n dod allan o’r dŵr ac yn bwyta pysgodyn.
Dyfrgi gyda physgodyn | © National Trust Images / Ian Ward

Monitro newid

Rydym yn monitro’r planhigion, adar, mamaliaid, anifeiliaid di-asgwrn-cefn a chyfansoddiad gwaddodion yng Nghwm Ivy. Mae hyn yn ein helpu i ddeall trawsnewidiad y cynefin ar ôl i ddŵr y môr dorri’r morglawdd. Mae hefyd yn ein helpu i ddeall cymhlethdod yr ecosystem ddatblygol a sut mae’n cymharu â safleoedd cadwraeth arfordirol tebyg.

Rhannu gwybodaeth

Drwy fonitro, gallwn gadw llygad barcud ar sut mae’r cynefin wedi newid, gan gymharu cofnodion o cyn ac ar ôl i’r morglawdd dorri. Rydym wedyn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r cyhoedd, ysgolion, gwyddonwyr ac ymchwilwyr, yn ogystal â rheolwyr tir ledled y DU. 

Prosiectau gwyddoniaeth

Mae llawer o fyfyrwyr yn dod i Whitffordd a Gogledd Gŵyr i ddysgu am fyd natur. Rydym wedi cynnal prosiectau gwyddoniaeth gyda Phrifysgol Abertawe, gan gynnwys prosiect ar ddeiet dyfrgwn Cwm Ivy. Casglodd gwirfoddolwyr faw dyfrgwn i ddysgu beth mae’r anifeiliaid yn ei fwyta. Mae’n ymddangos bod crancod, crethyll a brithyllod Mair barfog i gyd yn boblogaidd gyda’n dyfrgwn.

Diolch

Gyda’ch cefnogaeth barhaus gallwn barhau gyda’n gwaith cadwraeth hanfodol. Diolch am helpu i ddiogelu’r llefydd arbennig hyn.

Golygfa o Gors Cwm Ivy, Twyni Whitffordd, Abertawe. Mae tir corsiog â gwawr wen â rhai coed yn y blaendir, tra bod coedwig i’w gweld yn uchel ar y bryn tu draw.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Gors Cwm Ivy, Twyni Whitffordd, Abertawe. Mae tir corsiog â gwawr wen â rhai coed yn y blaendir, tra bod coedwig i’w gweld yn uchel ar y bryn tu draw.
Erthygl
Erthygl

Cwm Ivy ar arfordir Gogledd Gŵyr 

Mae Cwm Ivy wedi’i drawsnewid ers i’r morglawdd chwalu yn 2014. Dysgwch fwy am y broses hon a’r rhesymau dros hyn.

Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.