Skip to content
Prosiect

Gwaith cadwraeth yn Fferm Carrog

Golygfa o adeiladau fferm Cwm Penmachno wedi’u hamgylchu gan gaeau gwyrdd a choed ar ddiwrnod heulog, gyda golygfa o’r mynydd yn y cefndir.
Fferm Carrog yn Gwm Penmachno | © National Trust Images/Paul Harris

Mae Fferm Carrog yng Nghwm Penmachno, ger Betws-y-coed, wedi bod ar daith adfer natur anhygoel dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Afon Machno yn llifo drwy’r fferm ac wedi’i harallgyfeirio i’w llwybr gwreiddiol ar ôl i’w chwrs gael ei sythu a’i reoli yn y gorffennol. Mae grwpiau cymunedol wedi bod yn helpu i blannu coed a newid dulliau ffermio, gan ailsefydlu dôl blodau gwyllt sy’n fwrlwm o fywyd.

Adfer rhan o Afon Machno 

Fel rhan o Brosiect Dalgylch Uwch Conwy, mae’r gwaith yma yn Fferm Carrog wedi’i gyflawni mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru gyda help y gymuned. 

Canolbwyntiodd y gwaith adfer ar ddarn 1km o afon a gamleswyd yn flaenorol, sy’n llifo drwy’r fferm. Cafodd hyn ei wneud dros sawl cam gan ddefnyddio datrysiadau arloesol a pheiriannau mawr i gael gwared ar argloddiau cerrig serth ac ailgysylltu’r afon â’i gorlifdir naturiol. 

Pa fanteision allwn ni eu gweld? 

Mae cynefin afon blethog naturiol a deinamig wedi ymddangos yn barod, ac mae mwy o ddŵr yn cael ei storio ar y gorlifdir ar adegau o lif uchel. 

Mae’r afon wedi newid o lif syth (fel camlas) i ddatblygu pyllau (dŵr dwfn) a beisleoedd (ardaloedd o lif cyflym) a gyflawnwyd drwy ailgyflwyno meini mawr – a hidlwyd o ddeunyddiau’r arglawdd – ym mhrif sianel yr afon. Mae’r newid hwn hefyd wedi arwain at ffurfio crychion graean o gwmpas y meini mawr sy’n creu amrywiaeth fwy o nodweddion o fewn yr afon ac yn gwella’r cynefin ar gyfer pysgod silio fel y brithyll. Mae hyn, mewn tro, yn denu adar fel glas y dorlan, pibydd y dorlan a bronwen y dŵr. 

Golygfa o’r afon yn Gwm Penmachno, wedi’i amgylchu gan weundir a choed ar ddiwrnod heulog.
Yr afon yn Gwm Penmachno | © National Trust Images/Paul Harris

Plannu coed cymunedol 

Diolch i ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sydd wedi helpu gyda thasgau amrywiol ar y fferm, mae bron i 5,000 o goed a chloddiau ifanc wedi’u plannu. Mae coed helyg a gwern ifanc wedi’u plannu ar hyd y glannau i helpu i sefydlogi’r pridd.  Wrth i’r coed dyfu, byddant yn cysgodi’r afon, gan greu cysgod i bysgod a chlwydi i leision y dorlan sy’n hela. 

Yn ogystal â chymysgedd o aethnenni du prin, coed derw ac aethnenni eraill sydd wedi’u plannu yn y caeau, mae dros 500m o gloddiau wedi’u plannu hefyd, gan ail-greu rhwydwaith o goridorau bywyd gwyllt yn ogystal â lloches i anifeiliaid fferm yn ystod tywydd garw. 

Denu dyfrgwn 

Mewn ymgais i ddenu dyfrgwn i ymgartrefu yma, mae gwâl dyfrgi hefyd wedi’i hadeiladu gyda chymorth Grŵp Gweithredu Cwm Penmachno. Mae traciau ac arwyddion eraill o fodolaeth dyfrgwn yn cael eu gweld yn rheolaidd, ac rydym wedi gweld yr anifeiliaid eu hunain ambell dro hyd yn oed, sy’n arwydd da o afon lân.

Creu dolydd 

Gall gymryd cryn amser i greu dôl sy’n llawn blodau a pherlysiau, gan fod angen priddoedd â lefelau maethynnau isel ar blanhigion dôl i ymwreiddio a ffynnu. Mae torri glaswellt i wneud gwellt yn cadw lefelau’r maethynnau’n ddigon isel, felly mae’r arfer hwn wedi’i ailgyflwyno yn Fferm Carrog. 

 

 

 

A bulbous yellow flower with bright green leaves in a hay meadow with slightly blurred red clover and white daisies in the background.
Gribell felen, ‘y gwneuthurwr dolydd’ | © National Trust Images/Nick Upton

Un o’r arwyddion cyntaf fod dôl yn datblygu yw ymddangosiad y gribell felen, a elwir yn aml yn ‘ddyfeisiwr dolydd’.  Mae’r blodyn hwn yn chwarae tric defnyddiol iawn: mae’n gweithredu fel parasit ar y glaswelltau ac yn amsugno maethynnau oddi wrthynt, sy’n gwanhau’r glaswelltau ac yn caniatáu i blanhigion eraill ffynnu. Mae bodolaeth y gribell felen, ynghyd â’r llygad-llo mawr a’r effros, yn arwyddion gwych bod y ddôl ar y trywydd cywir. 

Llwybr troed yn cysylltu cymunedau 

Fel rhan o’r gwaith, bu’n bosibl i ni greu llwybr troed cymunedol ar lan yr afon, yn cysylltu cymunedau Cwm Penmachno a Phenmachno, gan gynnig lle i’r gymuned leol gerdded a mwynhau gweld ffrwyth eu llafur. 

 

 

Ein partneriaid

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn gynaliadwy.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Defaid yn pori yn Gwm Penmachno ar ddiwrnod heulog, Ystâd Ysbyty Ifan, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ffermio a natur yn Ysbyty Ifan 

Mae Blaen Eidda Isaf yn fferm ucheldirol 54-hectar ar Ystâd Ysbyty Ifan. Drwy newid i dechnegau ffermio mwy cynaliadwy, mae’r ffermwyr tenant wedi gallu helpu bywyd gwyllt ac anifeiliaid pori i gyd-fyw’n hapus.

Golygfa o bentref Ysbyty Ifan, Gwynedd, ar lan Afon Conwy. Gwelir casgliad o dai Cymreig carreg a phont fwa dros yr afon yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Ysbyty Ifan 

Dysgwch sut y cafodd Ysbyty Ifan ei enw a’i hanes cyfoethog o farchogion a phererinion a sut y daeth yn yr un ystâd fwyaf y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdani.