Darganfyddwch fwy yn Ysbyty Ifan
Dysgwch sut i gyrraedd Ysbyty Ifan, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Denodd y pentref heddychlon hwn a’i fryniau, ffermydd a golygfeydd trawiadol lawer o ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd. Camwch yn ôl i Gymru’r oesoedd canol, a dysgu am hanes cyffrous marchogion, pererinion a gwylliaid.
Hyd at 1190 Dôl Gynwal y gelwid yr ardal hon. Fe’i hail-enwyd yn Ysbyty Ifan wedi i’r ardal ddod i sylw Marchogion Sant Ioan, urdd o Ysbytwyr, a oedd wedi ymrwymo i ddiogelu pererinion ar eu ffordd i’r Tir Sanctaidd ac ar deithiau crefyddol.
Fe wnaethant ddewis sefydlu ysbyty a hostel i ofalu am bererinion yn Ysbyty Ifan gan fod yr ardal ar nifer o hen lwybrau’r pererinion, gan gynnwys Bangor Is-coed a Threffynnon yn y Gogledd Ddwyrain, ac i Ynys Enlli ym mhen draw Penrhyn Llŷn.
Roedd gan y Marchogion hawl lloches, ac yn y cyfnod cythryblus ar ôl gwrthryfel Glyndŵr yn y 15fed ganrif, roedd Ysbyty Ifan yn un o lochesi rhai o ysbeilwyr a rebeliaid enwocaf Cymru, gan gynnwys Gwylliaid Cochion Mawddwy, a daeth i gael ei adnabod fel lloches i droseddwyr.
Wrth ysgrifennu ar ddiwedd yr 16eg ganrif, dywedodd Syr John Wynn o Wydir bod Ysbyty Ifan wedi mynd yn ‘a receptacle of thieves and murderers.’
Wrth i’r mynachlogydd gael eu diddymu dan Harri’r VIII, diddymwyd yr hostel ym 1540, ond arhosodd yr eglwys gerllaw, a gweithredu fel eglwys y plwyf. Tua 1860 disodlwyd yr hen adeilad gan yr eglwys bresennol, yn arddull ‘Saesnig cynnar’ cyfnod Fictoria.
Yn yr eglwys ceir arteffactau o’r eglwys gynharach, llawer ohonynt o’r 14eg a’r 16eg ganrif. Llawer ohonynt yn amlygu’r cysylltiadau rhwng Ysbyty Ifan â brwydrau’r Tuduriaid.
Dywedir bod un gorffddelw yn darlunio Rhys ap Maredudd, fu’n recriwtio milwyr i helpu Harri Tudur, gan ei fod yn cael ei weld yn ‘fab darogan’ yng Nghymru a fyddai’n codi i arwain y Cymry i guro’r Saeson. Ganed Harri yng Nghastell Penfro, felly fe wnaeth gymaint o ddefnydd o’r broffwydoliaeth hon â phosibl i gasglu cefnogaeth.
Arweiniodd Rhys ap Maredudd fyddin leol i gyfarfod yr Harri Tudur ifanc ar ei ffordd i guro’r Brenin Richard III ym Mosworth yn 1485. Rhys oedd yn cario’r Ddraig Goch, baner Cadwaladr ar faes y gad, ac roedd rhai beirdd yn mynnu mai fo laddodd Richard. Ni allwn brofi hynny erbyn heddiw, ond fe wnaeth y teulu’n dda o fuddugoliaeth y Tuduriaid, gyda’u grym, dylanwad a’u hystâd yn ymestyn.
Yn 1951 daeth ystâd Ysbyty Ifan dan ein gofal ar ôl iddi gael ei throsglwyddo gan y Trysorlys, a’i derbyniodd yn lle treth marwolaeth ar ystâd y diweddar Arglwydd Penrhyn.
Trosglwyddwyd Ysbyty Ifan ynghyd â’r ystâd Carneddau a Glyderau fynyddig, sy’n ymfalchïo yn y darn parhaus mwyaf o dir mynyddig yn y wlad, ac adeilad a thiroedd trawiadol Castell Penrhyn.
Mae Ysbyty Ifan yn un o’r ystadau amaethyddol mwyaf gyda 20,316 erw o ucheldir, y cyfan yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r ystâd yn cynnwys 51 fferm a 30 o dai. Magu defaid a gwartheg bîff, sy’n gwneud yn dda ar yr ucheldir a’r gweunydd agored, yw prif sail y ffermio.
Oherwydd natur gymharol anghysbell yr ystâd magwyd cymuned glos yma a gwarchod yr ardal fel cadarnle i’r iaith Gymraeg.
Mae’r Migneint sydd yn ddarn mawr o weundir a gorgors yn rhan ddeheuol yr ystâd wedi ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei gymunedau o blanhigion a’r adar sy’n byw yno.
Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd y boblogaeth yn 196 ar 76 aelwyd, gyda dros 79 y cant o’r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.
Dysgwch sut i gyrraedd Ysbyty Ifan, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.
Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.