Llwybr arfordirol Porthgain i Abereiddi
Mwynhewch rai o olygfeydd arfordirol gorau Sir Benfro tra’n darganfod ei hanes diwydiannol. Un tro, roedd porthladd pysgota pitw Porthgain yn allforio cerrig ffordd i bob rhan o’r DU, tra bod Morlyn Glas enwog Abereiddi yn hen chwarel lechi. Yn ogystal, mae Ynys Barri yn gartref i amrywiaeth arbennig o fywyd gwyllt.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Porthgain, cyfeirnod grid: SM816325 Cod post: SA62 5BP
Cam 1
Cerddwch ar hyd ochr ddeheuol Harbwr Porthgain o dan yr hopranau brics. I gyrraedd llwybr yr arfordir, dringwch y grisiau ger adeilad gwyn.
Cam 2
Ar ôl tro sydyn i’r chwith, yng nghornel y cae, mae’r tŵr uwchben Abereiddi yn dod i’r golwg. Dilynwch lwybr yr arfordir ar hyd clogwyni uchel dramatig.
Cam 3
Mae grisiau o’r fan hon yn arwain i lawr i draeth bach o’r enw Traeth Llyfn. Yn anghysbell a diarffordd, mae’r glannau wedi’u gorchuddio’n llwyr pan mae’r llanw’n uchel iawn. Gall fod ceryntau cryf hefyd, felly ni ddylech nofio yma, dim ond padlo ac adeiladu cestyll tywod.
Cam 4
Mae llwybr yr arfordir yn parhau dros laswelltir agored, gan ddilyn ymyl y clogwyni cyn igam-ogamu i lawr at draeth Abereiddi. Os nad ydych chi eisiau parhau â’r gylchdaith lawn, neidiwch ar y bws (Gwibiwr Strwmbl) i Borthgain, Tyddewi neu Abergwaun.
Cam 5
Dilynwch yr arwyddion melyn i fyny llethr byr ac ymunwch â llwybr glaswelltog llydan sy’n arwain tua’r tir mawr.
Cam 6
Ewch dros gamfa, torrwch ar draws cornel y cae a dringwch dros gamfa arall ger pentwr o greigiau. Dilynwch y trac llydan i’r dwyrain i Barry Island Farm.
Cam 7
Dilynwch y trac i lawr i’r ffordd a chroeswch i’r ochr arall, gan ddringo rhai grisiau llechi i mewn i gae.
Cam 8
Ewch yn syth ar draws y cae, dros gamfa, ac ar hyd y clawdd at gât mochyn. Dilynwch y llwybr hwn yn ôl i Borthgain.
Man gorffen
Porthgain, cyfeirnod grid: SM816325 Cod post: SA62 5BP
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Llwybr coedwig a thraeth Abermawr
Dilynwch y gylchdaith fer hon o draeth Abermawr, drwy goedwig clychau’r gog, dolydd a chors.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
Darganfyddwch y Morlyn Glas yn Abereiddi
Mae Abereiddi yn boblogaidd ar gyfer arfordira a chaiacio ym misoedd yr haf, ond gall cerddwyr fwynhau’r arfordir garw a’r golygfeydd godidog o ben y clogwyni hefyd. Darganfyddwch harddwch y rhan hon o Sir Benfro a’n gwaith i addasu i rymoedd natur.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)