Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd Aberdulais yn ailagor mewn partneriaeth â St Giles Cymru
- Cyhoeddwyd:
- 01 Chwefror 2024
Bydd Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais yng nghanol Cwm Nedd yn ailagor heddiw, dydd Iau 1 Chwefror, a bydd mynediad am ddim i bawb. Hefyd, mae’r ailagoriad yn arwydd o bartneriaeth newydd gyda St Giles Cymru, a fydd yn defnyddio’r lleoliad hanesyddol ar gyfer Hwb Llesiant, Treftadaeth a Hyfforddiant Cymunedol Gwyrdd i bobl sy’n wynebu’r adfyd mwyaf.
Mae Aberdulais yn un o safleoedd diwydiannol cynharaf Prydain, ac o fis Chwefror bydd ymwelwyr yn cael eu croesawu’n ôl i archwilio mwy na 400 mlynedd o hanes. Caiff y rhaeadr, yr olwyn ddŵr a’r gwaith tun eu gwarchod gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac ar y dechrau byddant ar agor i’r cyhoedd rhwng 10.30am a 3.30pm bob dydd Iau a dydd Gwener. Y bwriad yw cynnig diwrnodau agor ychwanegol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a hefyd bydd yr elusen gadwraeth yn ymgysylltu ag ysgolion, grwpiau a grwpiau cymunedol lleol er mwyn iddynt gael cyfle i fanteisio ar Aberdulais y tu allan i’r oriau agor swyddogol.
Dros y canrifoedd, daeth Aberdulais yn ganolfan arloesi diwydiannol a gâi ei rhedeg gan ddŵr rhaeadr ysblennydd Aberdulais, gan greu copr yn gyntaf, yna tecstilau, ac wedyn tun. Heddiw, y cyfnod cynhyrchu tun sydd wedi’i adfywio, yn dilyn 30 mlynedd o waith adfer a chadwraeth gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ers i’r ymddiriedolaeth ddod yn geidwad ar y safle ym 1980.
Lleolir rhaeadr Aberdulais ar gyrion Gwlad y Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’r rhaeadr hon yw’r unig raeadr o fewn cyrraedd hwylus yn yr ardal. Mae Afon Dulais yn llifo trwy geunant creigiog; pan fo yn ei llawn lif, mae ei grym yn eithriadol, a hefyd mae’n hafan i fywyd gwyllt ac adar, a gellir gweld bronwennod y dŵr a chrehyrod yno’n rheolaidd.
Ar ôl i’r safle gau dros dro oherwydd cyfyngiadau Covid 19, ac yna sawl mis o waith cadwraeth hanfodol i sefydlogi’r clogwyni a chynnal y waliau wrth yr afon, mae’r staff a’r gwirfoddolwyr yn barod yn awr i agor Aberdulais i’r cyhoedd unwaith eto.
Medd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Rydym wrth ein bodd o gael ailagor Aberdulais mewn partneriaeth â St Giles Cymru, er mwyn i bawb allu mwynhau’r safle. Mae’r gwaith adfer yn sicrhau y bydd y trysor hwn yn hanes diwydiannol Cymru yn parhau i fod yma am genedlaethau i ddod. Edrychwn ymlaen at groesawu pobl o bell ac agos i fwynhau Aberdulais, ei fannau gwyrdd a’i orffennol hanesyddol.”
Mae ailagor y safle yn arwydd o bennod newydd yn hanes Aberdulais wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru weithio mewn partneriaeth â St Giles Cymru, sef elusen cyfiawnder cymdeithasol wobrwyol. Bydd elusen St Giles Cymru yn defnyddio ambell adeilad, ynghyd â’r safle ehangach yn Aberdulais, yn ei gwaith i helpu pobl sy’n wynebu’r adfyd mwyaf i wireddu dyfodol cadarnhaol.
Yn ôl Lhosa: “Gyda’n gilydd, bydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a St Giles Cymru yn cyrraedd ychwaneg o gymunedau a bydd rhagor o bobl yn elwa. Anrhydedd i ni yw bod y sefydliad gwobrwyol hwn yn gweithio mewn partneriaeth â ni i ail-greu’r safle pwysig a hanesyddol hwn.”
Dros y 12 mis nesaf, bydd St Giles yn llunio cynllun ar gyfer cyrraedd ychwaneg o gymunedau a phobl ledled Cymru trwy gyfrwng Aberdulais. Nod yr elusen yw creu Hwb Llesiant, Treftadaeth a Hyfforddiant Cymunedol Gwyrdd, gan gynnig rhaglen hyfforddi a rhwydwaith cymorth gwirfoddoli unigryw i bobl ifanc ac oedolion sy’n dioddef oherwydd tlodi, camfanteisio, camdriniaeth, iechyd meddwl a throseddu.
Gan ddefnyddio’i fodel ‘profiad bywyd’ gwobrwyol dan arweiniad cymheiriaid i rymuso pobl leol nad ydynt yn cael y cymorth angenrheidiol, bydd y prosiect yn creu Hyrwyddwyr Cymunedol Gwyrdd, yn helpu’r gymuned i wrthsefyll anawsterau, ac yn lleihau rhwystrau o ran cyflogaeth, addysg a gwirfoddoli trwy weithio gyda chyflogwyr a chymunedau lleol er mwyn uwchsgilio trigolion yr ardal, cynnal lleoliadau gwaith a threfnu digwyddiadau cymunedol.
Medd Tracey Burley, Prif Swyddog Gweithredol St Giles: “Rydym wrth ein bodd o gael gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru – gobeithio y bydd hyn yn fan cychwyn ar gyfer perthynas faith a pharhaol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd ar y safle hanesyddol a hardd hwn i gyfuno grym mannau gwyrdd, addysg, hyfforddiant ymarferol a chymorth fel y gellir grymuso’r aelodau hynny o’r gymuned leol sydd wedi wynebu’r adfyd mwyaf i greu dyfodol cadarnhaol.”
Tra bydd St Giles yn cynnig ei wasanaethau craidd ar y safle, mae’r sefydliad hefyd yn bwriadu cynorthwyo i warchod a chynnal a chadw Aberdulais, gan helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r safle.
Yn sgil ailagor Aberdulais, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’r rhai sydd eisoes yn gofalu am y safle. Mae’r cyfleoedd a gynigir yn cynnwys croesawu ymwelwyr; gofalu am y siop lyfrau, a fydd ar agor rai oriau bob wythnos; gofalu am y mannau gwyrdd; ac ennyn diddordeb pobl yn yr hanesion diddorol sydd gan Aberdulais i’w hadrodd. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar www.nationaltrust.org.uk/support-us/volunteer neu anfonwch e-bost i’r cyfeiriad aberdulais@nationaltrust.org.uk.
Cyn ymweld ag Aberdulais, edrychwch ar wefan yr Ymddiriedolaeth oherwydd gall yr amseroedd a’r diwrnodau agor amrywio: www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/aberdulais
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethu a gynigir gan St Giles Cymru, edrychwch ar: www.stgilestrust.org.uk
Hanes Aberdulais
Dysgwch sut mae Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais wedi bod wrth galon diwydiant Cymru byth ers i beiriannydd o’r Almaen ddewis y safle fel lleoliad cyfrinachol ar gyfer smeltio copr.
Ymwelwch â’r rhaeadr yn Aberdulais
Mae’r rhaeadr yn Aberdulais yn brawf o rym rhyfeddol natur. Ond p’un a yw’n rhuo neu’n llifo’n dawel, mae bob amser yn brydferth. Dysgwch fwy am ei hanes a beth i’w weld yn ystod eich ymweliad.