Skip to content

Ymwelwch â’r rhaeadr yn Aberdulais

Golwg o'r Rhaeadr yng Ngweithdy Tun Aberdulais, De Cymru
Golwg o'r Rhaeadr yng Ngweithdy Tun Aberdulais | © Bethan Brooks

Mae’r dŵr sy’n llifo drwy Gwm Dulais wedi sbarduno dros 400 mlynedd o arloesi diwydiannol. Ymwelwch â’r ardal brydferth hon o gwmpas rhaeadr Aberdulais, sy’n hafan i fywyd gwyllt a phlanhigion brodorol ac unrhyw un sy’n awyddus i grwydro.

Hanes y rhaeadr yn Aberdulais 

Mae tarddiad Afon Dulais islaw llechweddau Mynydd y Drum yng ngodre Bannau Brycheiniog. Mae’n llifo i lawr Cwm Dulais, tua’r de-orllewin drwy bentrefi Blaendulais a Chrynant, cyn tasgu dros raeadr Aberdulais. Yma mae’n ymuno ag Afon Nedd, yn agos i’r dyfroedd llanwol ger Tonnau. 

Oes yr Iâ

Cafodd y ceunant y mae’r afon a’r rhaeadr yn llifo drwyddo ei ffurfio tua 20,000 mlynedd yn ôl. Wrth i’r rhewlif i fyny’r cwm doddi, torrodd y dŵr tawdd drwy’r graig 300-miliwn oed yn araf bach. Gallwch weld arwyddion o hyn ar ochr orllewinol y ceunant heddiw. 

Tywodfaen a glo 

Mae’r graig yn dywodfaen Pennant, sef gwely tywod sydd wedi’i gywasgu’n sylweddol. Islaw mae haen o lo, a erydwyd yn raddol gan y llif – achosodd hyn i’r graig uwchben ddymchwel a ffurfio’r Rhaeadrau fel y gwelwch chi nhw heddiw. 

Yn wreiddiol roedd y Rhaeadrau ymhellach i’r de, ond dros y canrifoedd, gydag erydu parhaus, maent wedi’u torri’n ôl yn araf deg i’w lleoliad presennol.

Llun amlygiad hir yn edrych i fyny o waelod Rhaeadr Aberdulais, Cymru. Mae’r dŵr yn tasgu o uchder dros greigiau miniog enfawr i’r afon islaw, ac mae rhagor o greigiau mawr yn y blaendir.
Dyfroedd byrlymus Rhaeadr Aberdulais | © National Trust Images/John Millar

Tipyn o olygfa, boed law neu hindda  

Mae’r Ddulais yn afon fflachlif, sy’n golygu ei bod yn codi a gostwng yn gyflym iawn. Mewn tywydd gwlyb ac yn y gaeaf, pan mae llif cryf yn yr afon, mae’n olygfa wirioneddol wefreiddiol – a swnllyd. 

Pan mae’n bwrw glaw, mae’r rhaeadr yn rhuo. Mae grym trawiadol byd natur yn amlwg wrth i alwyni o ddŵr blymio dros y creigiau’n ddyddiol. 

Bywyd gwyllt i’w weld yn Aberdulais  

Ar ddiwrnodau tawelach mae’n lle mwy hamddenol, yn cynnig bwyd a dŵr i’n nythfa o ystlumod Daubenton, heb sôn am liaws o adar fel Bronfraith Fach y Dŵr, Sigl-i-gwt a’r Crëyr. 

Golwg graff ar y Rhaeadr yng Ngwaith Tun Aberdulais, De Cymru 
Golwg graff ar y Rhaeadr yng Ngwaith Tun Aberdulais | © National Trust Images / John Millar

Ynni gwyrdd

Tra bod dŵr afon Dulais yn dal i lifo, felly hefyd mae’r traddodiad o ddefnyddio’r rhaeadr fel ffynhonnell o bŵer – mae’n gyrru olwyn ddŵr weithredol fwyaf Ewrop ac yn creu ynni gwyrdd. 

Olwyn ddŵr a bastiwn, Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, De Cymru

Darganfyddwch fwy yn Aberdulais

Dysgwch pryd mae Aberdulais ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Olwyn ddŵr a bastiwn, Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, De Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â’r olwyn ddŵr yn Aberdulais 

Mae’r olwyn ddŵr yn Aberdulais yn cynhyrchu ynni gwyrdd ar gyfer y safle fel rhan o gynllun trydan dŵr arloesol. Mae traddodiad sy’n dyddio’n ôl 400 mlynedd yn dal i fynd.

Yr olwyn ddŵr a safle’r hen waith tun yn Rhaeadr Aberdulais, Castell-nedd Port Talbot, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes Aberdulais 

Dysgwch sut mae Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais wedi bod wrth galon diwydiant Cymru byth ers i beiriannydd o’r Almaen ddewis y safle fel lleoliad cyfrinachol ar gyfer smeltio copr.