
Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Bydd ardal feithrinfa newydd hollbwysig yng Ngardd Bodnant Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yng Nghonwy, Gogledd Cymru, yn helpu i ddiogelu casgliad byw'r ardd fyd-enwog am genedlaethau i ddod.
Mae’r feithrinfa wydr fawr, a gafwyd ar ddiwedd 2023 ac sydd wedi’i lleoli gerllaw’r ardd, wedi derbyn gwaith adnewyddu hanfodol dros sawl mis a’i pharatoi ai fod yn barod gan dîm yr ardd.
Bydd yn cynnig capasiti sydd pedair gwaith yn fwy na’r feithrinfa bresennol ar y safle i alluogi tîm yr ardd i luosogi a diogelu casgliad planhigion sylweddol Gardd Bodnant, gan gynnwys rhododendronau hybrid yr 20fed ganrif a dyfwyd yn yr ardd ac nad ydynt ar gael yn unrhyw le arall. Er na fydd y feithrinfa ar agor i ymwelwyr, bydd y planhigion a dyfir dan do, ymhen amser, yn cael eu plannu yn yr ardd i bawb gael eu mwynhau.
Mae agoriad y feithrinfa yn cyd-ddigwydd â’r cyfnod mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dathlu 150 mlynedd ers i’r ystâd gael ei phrynu gan y diwydiannwr a’r cemegydd, Henry Davis Pochin, a 75 mlynedd ers i Henry McLaren, 2il Arglwydd Aberconway, roddi’r ardd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dywedodd Ned Lomax, Prif Arddwr Gardd Bodnant: “Gwaddol unrhyw arddwr yw na fydd nifer o’r coed a’r llwyni yr ydym yn eu meithrin a’u plannu heddiw, yn cyrraedd eu haeddfedrwydd yn ein hoes ni. Rydym yn gwneud yr hyn a wnawn nawr i alluogi cenedlaethau’r dyfodol i eistedd o dan ganghennau’r planhigion anhygoel hyn, gan eu mwynhau am flynyddoedd i ddod, a gobeithio am y 150 mlynedd nesaf yng Ngardd Bodnant.
“Y feithrinfa yw ystafell injan unrhyw ardd, a bydd yr ardal newydd hon yn cynnig pedwar gwaith yn fwy o le na’r feithrinfa flaenorol yma ym Modnant. Mae’n golygu y bydd y tîm yn gallu lluosogi a gofalu am blanhigion hybrid prin nad oes modd eu cael yn unrhyw le arall.”
Mae gan Ardd Bodnant, a leolir yn Nyffryn Conwy, gasgliad mawr ac amrywiol o blanhigion o arwyddocâd sylweddol yn ei gardd goetir a hanesyddol ffurfiol 80 erw. Mae’n adnabyddus am ei phlanhigion unigryw ac egsotig, pum Casgliad Cenedlaethol, a chasgliad coed Pencampwyr y DU mwyaf Cymru. Fodd bynnag, y rhododendronau hybrid a fegir yn yr ardd sy’n arbennig o bwysig i stori’r ardd, ac i ddatblygiad yr ardd yn y dyfodol.
Mae nifer o rododendronau hybrid Bodnant wedi marw yn ystod y degawd diwethaf. O’r 350 o rywogaethau a enwyd a chofrestrwyd, amcangyfrifir mai dim ond 125 o’r rhywogaethau sydd dal yn bodoli. Mae nifer o’r rhain yn cael eu cynrychioli gan un neu ddau o blanhigion sy’n heneiddio yn yr ardd ym Modnant, felly mae lluosogi ac ailblannu’r rhain yn allweddol i ddiogelu’r casgliad byw.
Yn ystod gaeaf 2023, dechreuodd dîm gardd arbenigol Bodnant y broses o luosogi 65 o’r rhododendronau sydd dan y bygythiad mwyaf. Casglwyd blagur cwsg y blodau, ac ynghyd â’r holl waith papur cyfreithiol angenrheidiol, fe’u hanfonwyd at labordy lluosogi micro yng Nghernyw ar gyfer eu dyrannu a’u prosesu.
Ar ôl i’r planhigion newydd bychain gael eu tynnu o’u tiwbiau profi, byddant yn cael eu danfon i’r feithrinfa newydd i ddatblygu ymhellach. Gall gymryd pumpi chwe blynedd cyn i’r planhigyn newydd fod yn barod i’w gyflwyno i’r ardd. Fodd bynnag, yn y cyfamser, petai rhiant-blanhigyn yn profi difrod gan sychder neu storm, byddai ei ddeunydd genynnol neu ei ‘linach’ yn ddiogel.
Y gobaith yw y bydd y feithrinfa newydd yn galluogi Gardd Bodnant i gynnal y broses luosogi lwyr ar gyfer y rhywogaethau hyn a llawer mwy, ar y safle, gan eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y feithrinfa nid yn unig yn cadw gwaddol Gardd Bodnant yn fyw, ond hefyd gwaddol teuluoedd McLaren and Puddle, y mae eu sgiliau garddwriaeth wedi rhoi inni’r ardd sydd yma heddiw.
Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb rodd hael gan y diweddar Dr Rees-Jones, gwirfoddolwr yng Ngardd Bodnant. Haelioni ymwelwyr, aelodau, a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n sicrhau bod y math hwn o waith yn parhau, nawr ac i’r dyfodol.
Dywedodd Carolyn Samuel, Rheolwr Rhoddion mewn Ewyllysion Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Bydd nifer o’r tîm ym Modnant yn cofio Dr Rees-Jones, a wirfoddolodd yn yr ardd, ac yn ei gofio’n annwyl. Mae’r rhodd hael a adawodd i’r ardd yn ei ewyllys wedi galluogi Bodnant i gaffael y feithrinfa newydd a pharhau â’r gwaith o luosogi ar y safle, ynghyd â’r holl waith cyffrous y bydd hyn yn ei alluogi i’r dyfodol.”
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.
Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.
Ydych chi erioed wedi meddwl faint o waith y mae’n ei olygu i gadw 80 erw Gardd Bodnant i edrych ar eu gorau? Dysgwch sut mae’r tîm yn gofalu am yr ardd, sy’n gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed sy’n Bencampwyr.