Skip to content

Bywyd gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby

Golwg graff ar ddwylo plentyn yn dal broga brown bach yn yr ardd yn yr Argory, Swydd Armagh.
Plentyn yn dal broga bach yn Colby, Sir Benfro | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Ble mae’r binocwlars ‘na? Mae Gardd Goedwig Colby dan ei sang â bywyd gwyllt, gyda chreaduriaid o bob lliw a llun yn galw’r dyffryn coediog hwn yn gartref.

Bywyd gwyllt i’w ddarganfod yng Ngardd Goedwig Colby  

Mae’r ddôl blodau gwyllt â’i rhwydwaith o nentydd a phyllau dŵr yn llecyn poblogaidd gyda phob math o rywogaethau, gan gynnwys adar, llyffantod ac ambell ddyfrgi hyd yn oed. 

Mae anifeiliaid diddorol yn cuddio yn y coetir hefyd, fel telor y coed, sy’n aderyn prin. Ac os ydych chi’n lwcus, fe allech gael cip ar ystlum Bechstein, sy’n hynod o brin. 

Byddwch yn graff a chewch gwrdd â’n trigolion lleol. 

Bronfraith y dŵr, sydd â phlu brown ar ei chefn a brest wen, yn sefyll ar graig wedi’i gorchuddio â chen ger dŵr yn llifo.
Bronfraith y dŵr yn sefyll ar garreg | © National Trust Images/Richard Bradshaw

Adar i weld

Mae bronfreithod y dŵr yn wynebau cyfarwydd yn Colby. Mae’r adar yn bwydo ar larfa’r pryf pric, molysgiaid pitw ac wyau pysgod, ac maen nhw i’w gweld ar hyd glannau’r nant. Clustfeiniwch am eu cân fain a chadwch olwg amdanynt yn gwibio’n agos at wyneb y dŵr. Maen nhw’n hoff o eistedd ar y cerrig a siglo cyn plymio i’r dŵr. 

Nid yw’r siglen lwyd yn plymio i’r dŵr fel y bronfreithod, ond yn hytrach yn gwibio yma ac acw yn cwrso pryfed rhwng y cerrig. Maen nhw’n hawdd i’w gweld gyda’u cynffonau hir a’u rhannau isaf melyn. 

Ystlumod 

Mae ystlumod pedol lleiaf yn byw yn yr hen adeiladau o gwmpas Tŷ Te’r Caban ac mae llawer o ystlumod yn defnyddio’r hen siafftiau a thyllau glo yn y coetir hefyd. 

Cafodd ystlum Bechstein prin ei ganfod yn y coed yn 2009. Cyn hyn, Fforest y Ddena oedd yr ardal agosaf lle roedd y rhywogaeth hon wedi’i gweld. 

Common darter dragonfly on blade of grass at Croome, Worcestershire
Mae gweision y neidr i’w gweld yn aml yn ystod yr haf yng Ngardd Goedwig Colby  | © National Trust Images/Tracey Blackwell

Pryfed 

Mae ein bwystfilod bach ymhobman. Chwiliwch o dan gerrig, yn y mwd ac yn nhyllau coed sydd wedi cwympo.  

Mae pili-palod a gweision y neidr dirifedi yn gwibio ar draws y ddôl hefyd; cadwch olwg am eu fflachiau o liw yn yr haf. 

Dyfrgwn 

Allwch chi aros ar ddihun yn ddigon hir i’w gweld? Rydyn ni’n gwybod oddi wrth eu baw eu bod nhw’n ymweld â’r ardd bob nos. Mae eu baw i’w weld ar gerrig ac ar hyd y glannau. 

Ymlusgiaid ac amffibiaid 

Mae brogaod yn silio yn y nant, ond fe welwch chi nhw hefyd yn ardaloedd gwlypaf y glaswelltir. Codwch foncyff yn ofalus i weld beth sydd oddi tano. Fe allech ddod o hyd i lyffant, corryn neu neidr y glaswellt hyd yn oed. 

Rhoi help llaw i natur yng Ngardd Goedwig Colby

Mae Colby yn hafan i fflora a ffawna, yn cefnogi amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys glaswelltir, pyllau dŵr a choetir. Dy’n ni ddim am i hyn newid, felly mae ein tîm o arddwyr a gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddyfal i’w cadw yn y cyflwr gorau posib.

Dôl blodau gwylltion

Rydym yn gadael i laswellt y ddôl dyfu a thyfu, gan ei dorri dim ond ar ôl i’r blodau fwrw eu had. Mae hyn yn golygu bod gennym fôr o flodau gwyllt a phili-palod lond y lle, ac fe allech weld llygod y maes, llygod y gwair, brogaod a llyffantod hefyd.

Bachgen bach yn gwenu a swingio ar siglen raff yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro gyda dau blentyn arall yn ei wylio.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa allanol o adeilad y caffi ac adeilad yr oriel gyda byrddau a chadeiriau yng nghwrt Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Bwyta a Siopa yng Ngardd Goetir Colby 

Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.

Y ddôl blodau gwyllt ym mis Chwefror, gardd Coetir Colby, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby 

Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Olwyn fawr yn gorwedd ar lawr y coetir yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Mae planhigion wedi tyfu ym mhob rhan o’r olwyn.
Erthygl
Erthygl

Hanes Gardd Goedwig Colby 

Ymhell cyn i’r ardd ymwreiddio, chwaraeodd ystâd Colby ran bwysig yn niwydiant glo Sir Benfro. Dysgwch fwy am yr ardd a bywydau ei thrigolion.