Skip to content

Gwirfoddoli yng Ngardd Goedwig Colby

Gwirfoddolwr yn gwthio whilber ar yr ystâd
Gwirfoddolwch i weithio yn yr ardd goedwig | © National Trust Images/John Millar

Ymunwch â ni a dod yn rhan o dîm arbennig yng Ngardd Goedwig Colby. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd ac ehangu eich gorwelion. Dyma rai o’r rolau y gallech eu hystyried.

Gwirfoddolwyr yr ardd furiog 

Yn ardd gegin yn wreiddiol, mae gardd furiog Colby yn lle godidog i weithio. Wedi’i chynnal yn ddestlus gydag amrywiaeth o blanhigion tymhorol, mae bob amser rhywbeth diddorol i’w wneud.  

Garddwyr y goedwig 

Mae ein tîm o wirfoddolwyr coedwig yn gweithio ar nifer o dasgau gan gynnwys clirio deiliach i helpu bylbiau i flodeuo a chael gwared ar rywogaethau goresgynnol. 

Gwirfoddolwyr croesawu 

Mae gwirfoddolwyr croesawu yn cynnig croeso cynnes i’n hymwelwyr, gan eu helpu i ddarganfod a dysgu mwy am Colby a sicrhau eu bod yn cael ymweliad dymunol a chofiadwy. Maen nhw hefyd yn helpu gyda digwyddiadau, yn amrywio o lwybrau’r Pasg i Haf o Chwaraeon.  

Swyddogion monitro bywyd gwyllt 

Diddordeb mewn bywyd gwyllt ac ecoleg?  Helpwch ni i fonitro bywyd gwyllt Colby i ddarganfod a yw ein trefniadau rheoli cynefinoedd yn effeithiol. Drwy wneud hynny, gallwn gael llawer mwy allan o’n tirwedd a sicrhau ein bod yn diogelu a gofalu am fywyd gwyllt ar hyd y daith. 

Pam ymuno â ni?

Mae llawer o resymau dros ymuno â ni; gallai gwirfoddoli fod y penderfyniad gorau a wnaethoch erioed.   

  • Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
  • Cwrdd â phobl o bob cefndir a gwneud ffrindiau newydd  
  • Defnyddio eich sgiliau presennol a dysgu rhai newydd   
  • Gwella eich CV a datblygu eich gyrfa 
  • Mwynhau’r awyr iach
  • Dysgu am hanes y lle arbennig hwn

Cysylltwch â ni 

Os hoffech ymholi am wirfoddoli neu gael rhagor o wybodaeth am rôl benodol, ffoniwch 01646 623110 eu e-bostiwch colby@nationaltrust.org.uk a gofyn am ffurflen gais. Byddwn yn eich gwahodd i ddod draw am sgwrs anffurfiol ac, os hoffech ymuno â’n tîm, byddwn yn trefnu sesiwn ymgyfarwyddo. 

Fel holl eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydym yn talu costau teithio, a chewch y cyfle i ymuno â’n cymuned ar-lein o wirfoddolwyr hefyd. 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Olwyn fawr yn gorwedd ar lawr y coetir yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Mae planhigion wedi tyfu ym mhob rhan o’r olwyn.
Erthygl
Erthygl

Hanes Gardd Goedwig Colby 

Ymhell cyn i’r ardd ymwreiddio, chwaraeodd ystâd Colby ran bwysig yn niwydiant glo Sir Benfro. Dysgwch fwy am yr ardd a bywydau ei thrigolion.

Golygfa o’r ddôl o flodau gwyllt ym mis Awst, Gardd Goetir Colby, Sir Benfro, Sue Jones
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby 

Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Golwg graff ar ddwylo plentyn yn dal broga brown bach yn yr ardd yn yr Argory, Swydd Armagh.
Erthygl
Erthygl

Bywyd gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby 

Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.