Pwy yw Palasau Hwyl?
Mae Palasau Hwyl yn ymgyrchu drwy’r flwyddyn er mwyn i bawb gael dweud eu dweud o ran beth sy’n cyfrif fel diwylliant, ble mae’n digwydd, pwy sy’n ei wneud, a phwy sy’n ei brofi. Maent yn rhoi cymuned wrth galon diwylliant, a diwylliant wrth galon pob cymuned.
Maent yn cefnogi gwirfoddolwyr, cymunedau ar lawr gwlad, sefydliadau newydd a rhai sefydledig, ac ymarferwyr ar draws y DU (a’r tu hwnt) i wneud Palasau Hwyl- digwyddiadau lleol, am ddim sy’n defnyddio celf a gwyddoniaeth fel catalydd i ddathlu pob cymuned unigryw, a sgiliau a diddordeb y rhai sy’n byw yno.
Eu cennad yw cryfhau cymunedau drwy rymuso unigolion, cefnogi partneriaethau, a herio’r ffordd y mae’r celfyddydau a gwyddoniaeth yn cael eu perchnogi a’u creu ar y funud. Gallwch gael mwy o wybodaeth am Palasau Hwyl yma.
Ein Llysgennad Palasau Hwyl
Mae’r Gymuned Loteri Genedlaethol yn cefnogi 11 Llysgennad Palasau Hwyl i weithio gyda sefydliadau partner ar draws y DU. Maent yn helpu unigolion i gyd-greu eu digwyddiadau diwylliannol a chymunedol eu hunain, ac i rannu eu gwersi gyda sefydliadau partner DU eraill.
Bethan Page yw'r Llysgennad Palasau Hwyl ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol yng Ngogledd Cymru am dair blynedd i rymuso a chefnogi unigolion a grwpiau, a gyda phartneriaid i gydnabod gwerth cyfranogiad diwylliannol fel rhan hanfodol o gymdeithas iach.
Cysylltu â chymunedau
Fel sefydliad sy’n chwarae rôl weithredol yn nhirwedd ddiwylliannol Gymreig, ein huchelgais nid yn unig yw gwneud pobl deimlo bod croeso iddynt, ond yn rhan bwysig o bopeth rydym yn ei wneud. Er mwyn cyflawni hyn, rydym angen ymestyn allan i gymunedau lleol.
Mae ein partneriaeth gyda Phalasau Hwyl yn cefnogi ein strategaeth ‘i bawb, am byth’ drwy roi cyfle i ni arbrofi gyda dulliau newydd a gwahanol i weithio gyda chymunedau lleol a phartneriaid. Mae ganddo’r potensial cyffrous o wneud mwy o bobl deimlo mwy o synnwyr o berthyn a chysylltiad, wrth ein helpu ni i chwarae ein rhan i greu cymdeithas deg a chyfartal.
Y Prosiect Hinsawdd
Un canlyniad o'n partneriaeth Palasau Hwyl yw’r Prosiect Hinsawdd, a sefydlwyd gan Bethan, Llysgennad Palasau Hwyl, i ymgysylltu pobl ifanc â thrafodaethau a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â'r hinsawdd. Mae’n canolbwyntio ar y camau bach a ellir eu cymryd i leihau pryder hinsawdd a hyrwyddo’r teimlad o gael ychydig o reolaeth dros y sefyllfa.
Cynhelir sesiynau unwaith y mis ac maent yn ymwneud â bod yn yr awyr agored, ymweld â’n safleoedd, cerdded, ioga, gweithgareddau creadigol, tripiau, a bwyta bwyd da. Rhoddir y cyfle i bobl ifanc ddysgu am ein gwaith amgylcheddol ac i ymgysylltu â staff a gwirfoddolwyr am y gwaith y maent yn ei wneud i ofalu am ein tirweddau.
Mae’n gyfle i ddysgu a rhannu profiadau o ymgysylltu â phobl ifanc, ymateb i’w diddordebau a’u pryderon, a datblygu ffyrdd o’u cefnogi i gydgreu eu gweithgareddau a’u digwyddiadau eu hunain.