Skip to content

Archebu eich ymweliad â Dolaucothi

Visitors walking through a passage of the UK's only known Roman Gold Mine.
Ymwelwyr yn archwilio’r unig fwynglawdd aur Rhufeinig hysbys yn y DU | © National Trust Images/Chris Lacey

Ar eich ymweliad â Dolaucothi cewch eich tywys ar daith sy’n datgelu cyfrinachau’r dirwedd ddiwydiannol hon. Bydd angen i chi archebu eich taith ymlaen llaw – dysgwch sut i archebu a beth i’w ddisgwyl wrth gyrraedd.

Teithiau cerdded dros y gaeaf yn Dolaucothi

Er fod yr iard a’r teithiau tanddaearol wedi cau dros y gaeaf – peidiwch anghofio fod dal modd ymweld a’r ystâd ehangach. Mae’r maes parcio dros y ffordd i’r prif faes parcio gyda’r teithiau cerdded yn dechrau oddi yno. Gweler y map yn y maes parcio.  

Ail agor yn y gwanwyn

Bydd y teithiau tanddaearol a’r iard yn Dolaucothi yn ail agor ar yr 19 Mawrth 2025. Bydd modd archebu’r teithiau oddeutu tair wythnos o flaen llaw. Ry’ ni’n edrych ymlaen i’ch gweld i gyd flwyddyn nesaf. 

Sut i archebu

Os ydych chi am ymweld â Dolaucothi, rhaid i chi archebu tocynnau ymlaen llaw.  Edrychwch ar y dudalen 'Pethau i’w gweld a’u gwneud’ i gael gwybodaeth fanwl am y 3 taith dywys sydd gennym i’w cynnig. Mae dwy ohonyn nhw'n deithiau eithaf caled, ac yn brofiadau awyr agored gan fwyaf, sy'n cynnwys stepiau serth a llwybrau ar dir uchel. Wedi dweud hynny, mae gennym hefyd Daith Wastad, heb stepiau. Dewiswch y daith fwyaf addas i chi. 

  • Rhaid archebu i ymweld â Dolaucothi. Mae slotiau amser newydd yn cael eu rhyddhau bob dydd Iau. 
  • Mae mynediad am ddim i aelodau, ond dewch â’ch cerdyn aelodaeth gyda chi, os gwelwch yn dda. Bydd angen i bobl sydd ddim yn aelodau dalu ymlaen llaw. 
  • Archebwch un tocyn fesul person, ac eithrio plant dan 5 – does dim angen tocyn arnyn nhw. 
  • Bydd angen i chi ddewis amser cyrraedd ar gyfer y diwrnod pan hoffech ymweld. Y slot amser rydych chi’n ei archebu yw’r amser y mae eich taith yn dechrau.  
  • Mae archebion at eich defnydd chi yn unig, ac ni ellir eu hailwerthu. 
  • Byddwn yn anfon cadarnhad o’ch archeb atoch dros e-bost. Sicrhewch eich bod yn nodi eich cyfeiriad e-bost cywir wrth archebu i sicrhau eich bod yn cael eich cadarnhad. 

Archebu eich ymweliad 

Cadarnhewch fod lle ar gael ac archebwch eich ymweliad â Dolaucothi.  

Os oes problem neu os na allwch gael mynediad i’r broses archebu ar-lein, ffoniwch 0344 249 1895.

 

 

Newid eich archeb

Os gwnaethoch greu cyfrif wrth wneud eich archeb, byddwch yn gallu newid dyddiad/amser eich archeb ar-lein hyd at 24 awr cyn dyddiad eich ymweliad, neu drwy ffonio 0344 249 1895.

Os ydych chi’n aelod ac nad ydych yn gallu dod mwyach, rhowch wybod i ni drwy ein ffonio ar 0344 249 1895.

 

Wrth gyrraedd

Bydd pob taith yn dechrau’n brydlon ar yr amseroedd a ddangosir. Dylech anelu at gyrraedd 15 munud cyn yr amser hwnnw er mwyn cael yr offer priodol a gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch.
Bydd y teithiau'n cael eu cynnal yn brydlon ar yr amseroedd canlynol:

 

  • 10.30 (Mwyngloddio drwy Hanes)
  • 11.30 (Taith Rufeinig)
  • 13.00 (Mwyngloddio drwy Hanes)
  • 14.00  (Taith Rufeinig)
  • 15.30 (Y Daith Wastad)

Os ydych chi am fod ychydig yn hwyr ar y dydd, ffoniwch 01558 650177 a gadewch neges i’r tîm.

Diolch

Porth bwaog isel â grât metel wedi’i gerfio i mewn i wal garreg arw ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr.

Trefnwch eich ymweliad

Cofiwch fod angen i chi archebu tocynnau ar gyfer Teithiau Cerdded Dan Ddaear Dolaucothi. Gallwch archebu ar y diwrnod, hyd at 1 awr cyn yr amser rydych chi wedi’i ddewis (gan ddibynnu beth sydd ar gael). Bydd tocynnau ar gael bob dydd Iau am y 4 wythnos nesaf.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o barcdir gwyrdd gyda choed mawr yn eu dail
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi 

Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Visitors walking through the sheltered valley at Lockeridge Dene and Piggledene, near Marlborough, Wiltshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci 

Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.

Golwg graff ar farciau caib ar y graig ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr
Erthygl
Erthygl

Hanes Dolaucothi 

Dechreuodd gwaith cloddio aur yn Nolaucothi o leiaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a daeth i ben ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Dysgwch fwy am unig gloddfa aur Rufeinig y DU.