Skip to content

Ewch i Ymweld â’r Mwynglawdd Aur yn Nolaucothi

Canolfan Faes ac offer weindio
Canolfan Faes ac offer weindio | © Andrew Butler

Mae’r unig Fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys yn y DU wedi’i leoli yn harddwch Dyffryn Cothi yn Sir Gâr. Mae’r mwyngloddiau aur hynafol ac iard mwynglawdd yr ugeinfed ganrif yn creu atgofion o ddiwydiant cyfoethog y gorffennol mewn tirwedd sydd bellach wedi’i hail-hawlio gan natur. Mentrwch i’r byd islaw eich traed ar daith danddaearol a mwynhewch ddetholiad o atyniadau uwchben y ddaear.

Beth sydd i’w weld a’i wneud yn Nolaucothi?

Gall ymweliad i Ddolaucothi gynnwys teithiau tanddaearol i’r mwynglawdd aur, yr iard mwynglawdd a’r ystâd barcdir amgylchynol, lle gellir gweld tystiolaeth o fwyngloddio aur Rhufeinig ym mhob twll a chornel. Lleoliad gwych ar gyfer diwrnod allan prysur i’r teulu cyfan, mannau i chwarae, picnic a’r cyffro o chwilio am aur.

Teithiau Tanddaearol

Wrth ymweld â Dolaucothi, gallwch gymryd rhan mewn teithiau tanddaearol tywysedig. Gallai hyn fod i’r mwynglawdd Rhufeinig wedi’i lifoleuo, y daith fwy anturus i’r mwynglawdd Fictoraidd neu’r Daith Wastad i’r geuffordd yn iard y mwynglawdd. 

Bydd angen ichi archebu ymlaen llaw ar gyfer y daith danddaearol (gweler Archebu eich ymweliad â Dolaucothi)

Nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer iard y mwynglawdd a’r Ganolfan Faes. Gweler amseroedd agor i weld pryd mae Dolaucothi ar agor. 

Mae pob taith yn cael ei harwain gan arweinwyr profiadol, gwybodus a difyr.  

 

Arweinydd yn Nolaucothi
Arweinydd yn Nolaucothi | © Chris Lacey

Profiad yr iard mwynglawdd

Mae Dolaucothi mewn tirwedd dawel, fugeiliol, ac yn gyfoethog o ran byd natur a bywyd gwyllt, ond gyda digonedd o weddillion diwylliant diwydiannol i’w harchwilio.  
Dewch o hyd i siediau’r 1930au, y ffrâm ben drawiadol ac enghreifftiau eraill o beiriannau mwyngloddio’r ugeinfed ganrif o amgylch yr iard mwyngloddio, lle allwch hefyd chwilio am aur. 

Yr iard mwyngloddio yn Nolaucothi
Yr iard mwyngloddio yn Nolaucothi | © Dolaucothi

Yn Nolaucothi cyfan, mae tystiolaeth o weithgareddau Rhufeinig wedi’u canfod. Dilynwch y daith sain yn ystod eich ymweliad neu gwrandewch ymlaen llaw. Mae’r ystâd yn Nolaucothi yn cynnig sawl ffordd o archwilio, darllenwch ragor ynghylch hynny yma.

Ewch ar daith danddaearol rithiol gyda phrofiad Rhith-Wirionedd blaenllaw yn y Dderbynfa, mwynhewch yr arddangosfa Trysorau Pumsaint newydd yn y Ganolfan Faes... neu yn syml, beth am ymlacio, efallai gyda phicnic, ger yr olwyn aur a’r nant a gadewch i’r byd droi ... 

 

Arddangosfa Trysorau Pumsaint
Arddangosfa Trysorau Pumsaint | © Dolaucothi

Gweithgareddau i’r teulu yn Nolaucothi

Yn iard mwynglawdd Dolaucothi, mae gweithgareddau fel y cymeriadau mini, y Llwybr Botanegydd neu’r Llwybr Archeolegydd wedi’u dylunio i blant, mae’r gweithgaredd chwilio am aur yn ddifyr i bawb o bob oed. 

Os ydych yn meddwl mentro o dan ddaear, am resymau diogelwch, mae’n rhaid i bawb ar y daith fod dros 1 medr o dal (fel arfer tua 5 oed), yn fodlon gwisgo het galed ac yn gallu cerdded drwy’r mwyngloddiau heb gymorth. 
 

 

Gweithgareddau i’r teulu yn Nolaucothi
Gweithgareddau i’r teulu yn Nolaucothi | © Dolaucothi
Porth bwaog isel â grât metel wedi’i gerfio i mewn i wal garreg arw ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr.

Trefnwch eich ymweliad

Cofiwch fod angen i chi archebu tocynnau ar gyfer Teithiau Cerdded Dan Ddaear Dolaucothi. Gallwch archebu ar y diwrnod, hyd at 1 awr cyn yr amser rydych chi wedi’i ddewis (gan ddibynnu beth sydd ar gael). Bydd tocynnau ar gael bob dydd Iau am y 2 wythnos nesaf.