Gwybodaeth am y grwpiau cefnogwyr
Dysgwch fwy am ein grwpiau cefnogwyr a’r manylion cyswllt diweddaraf ar gyfer pob grŵp. (Saesneg yn unig)
Ymunwch ag un o grwpiau cefnogwyr lleol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru a chwrdd â phobl o’r un anian, mwynhau sgyrsiau ar bynciau arbennig, ymweliadau, gwyliau a digwyddiadau cymdeithasol eraill tra’n cefnogi ein lleoliadau arbennig drwy godi arian neu hyd yn oed wirfoddoli. Daliwch i ddarllen i ddod o hyd i’ch grŵp agosaf neu cliciwch ar enw grŵp yn y ddewislen i neidio i’r manylion.
Mae dod ynghyd fel criw o gefnogwyr, aelodau a deiliaid cerdyn gwirfoddoli’r Ymddiriedolaeth, sydd i gyd teimlo’n frwd dros yr un pethau â chi, yn brofiad amhrisiadwy. Rhannu profiadau unigryw a dysgu mwy am y llefydd sy’n bwysig i chi yw gwir bwrpas Canolfannau a Chymdeithasau lleol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
O wrando ar sgyrsiau gan arbenigwyr a mwynhau teithiau y tu ôl i’r llenni i fynd ar wyliau hamddenol, byddwch yn rhan o rywbeth arbennig. Mae ein Canolfannau a Chymdeithasau yn hybu ein gwaith o fewn eu hardal leol ac yn codi arian ar gyfer prosiectau cadwraeth a datblygu drwy bob math o ddigwyddiadau.
Mae Cyfeillion Rhaeadr Aberdulais yn cefnogi lleoliad unigryw sy’n cyfuno treftadaeth ddiwydiannol canol y 19eg ganrif â nodweddion naturiol rhyfeddol a ddenodd artistiaid ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif.
Sefydlwyd Canolfan Abertawe ym 1973 ac mae’n croesawu aelodau o Abertawe, Castell-nedd, y Gŵyr a’r cyffiniau.
Eu nod yw hyrwyddo dibenion elusennol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwneud eich aelodaeth yn fwy o hwyl, yn fwy effeithiol ac yn fwy perthnasol i aelodau lleol.
Sefydlwyd Cymdeithas Ceredigion ym 1991 ac ers hynny mae wedi codi dros £40,000 i Lanerchaeron a phrosiectau cefn gwlad ac arfordirol eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngheredigion.
Nod y gymdeithas yw helpu aelodau i wneud y gorau o’u haelodaeth yng Ngheredigion a chodi arian i gefnogi lleoliadau a phrosiectau yn y sir. Mae rhai o aelodau’r gymdeithas hefyd yn cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae gan Gymdeithas Swydd y Waun gysylltiadau cryf â chastell hanesyddol y Waun. Os hoffech gefnogi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lleol a chael mwy allan o’ch aelodaeth, Swydd y Waun yw’r lle i chi.
Mae Cymdeithas Dyffryn Clwyd yn grŵp bach ond cyfeillgar o aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n cefnogi ei gwaith yn selog.
Yn ddiweddar maen nhw wedi gallu ariannu prosiectau cadwraeth yng Nghastell y Waun, Erddig a Phlas yn Rhiw. Mae rhoddion wedi’u gwneud hefyd i Fferm Craflwyn ac Apêl Neptune.
Sefydlwyd y Cyfeillion fel sefydliad elusennol ar ddechrau’r 1980au gyda’r nod ffurfiol o feithrin diddordeb yn y gerddi a rhoi planhigion, offer, llyfrau ac ati i gefnogi’r rheolwyr i ddatblygu a rheoli’r ystâd.
Mae’r gweithgareddau codi arian yn canolbwyntio’n bennaf ar gefnogi’r gerddi a chynnig rhaglenni addysg a gwybodaeth i bawb o bob oedran.
Nod Cymdeithas Eryri yw helpu cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n byw yng Ngwynedd i wneud y gorau o’u haelodaeth.
Mae aelodau’n cael gwybodaeth am y gwaith parhaus sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn eu heiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol lleol, Castell Penrhyn. Maen nhw’n cael eu gwahodd ar ymweliadau arbennig i weld gwaith cadwraeth ac adfer, arddangosfeydd, gwaith yn yr ardd a’r tiroedd a’r adran addysg, ac mae’r gymdeithas wedi cefnogi llawer o’r rhain yn uniongyrchol.
Sefydlwyd Cymdeithas Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gwent ym 1980 ac mae ganddi aelodau ledled yr ardal. Mae’n nhw’n gymdeithas weithgar iawn sy’n cynnig cyfleoedd amrywiol i gyfarfod a chymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau.
Mae rhaglen Cymdeithas Meirionydd yn cynnig cyfleoedd i aelodau ddarganfod ac archwilio treftadaeth yr ardal hon drwy gyfres o sgyrsiau ac ymweliadau.
Mae eu gwaith codi arian wedi helpu i adfer wal gerrig yn Fferm Craflwyn ger Beddgelert a darparu bwrdd replica fel rhan o’r gwaith adfer yn Egryn. Maen nhw hefyd yn anfon stiwardiaid i helpu yn holl ddiwrnodau agored Egryn.
Sefydlwyd Cymdeithas Sir Benfro’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1998. Mae’n croesawu aelodau newydd o bob rhan o Sir Benfro a thu hwnt.
Gall aelodau fwynhau rhaglen lawn o ddigwyddiadau. Mae’r rhain yn cynnwys:
Yn ogystal â’r diddordeb a’r cyfleoedd cymdeithasol y mae aelodau yn eu mwynhau drwy’r digwyddiadau hyn, maen nhw’n gwybod eu bod yn codi arian gwerthfawr i gynorthwyo gwaith yr Ymddiriedolaeth yn lleol.
Ffurfiwyd Cyfeillion Tŷ Tredegar ar ddiwedd y 1980au gyda’r nod o fagu diddordeb y cyhoedd ym mhwysigrwydd hanesyddol, pensaernïol ac amgylcheddol Tŷ Tredegar. Maen nhw hefyd yn codi arian i helpu i brynu, adfer a gwarchod gwrthrychau sydd ar ddangos yn y Tŷ. Dros y blynyddoedd diwethaf mae hyn wedi cynnwys:
Mae Cymdeithas Bro Morgannwg, a ffurfiwyd ym 1998, yn cynnig rhaglen ddiddorol a hwyl i aelodau drwy gydol y flwyddyn.
Mae Cymdeithas Wrecsam yn sefydliad gwirfoddol o aelodau lleol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ffurfiwyd ym 1976. Mae aelodau’r gymdeithas yn dod o Wrecsam, yr Wyddgrug a Sir Amwythig yn bennaf, ac mae croeso cynnes i aelodau newydd.
Dysgwch fwy am ein grwpiau cefnogwyr a’r manylion cyswllt diweddaraf ar gyfer pob grŵp. (Saesneg yn unig)
Defnyddiwch y cyfeirlyfr grwpiau cefnogwyr (PDF) i ddod o hyd i fanylion cyswllt i ymholi am ymaelodi a dolenni i wefannau'r grwpiau i gael rhagor o wybodaeth. (Saesneg yn unig)
Bob blwyddyn mae gwirfoddolwyr yn ymuno â ni i helpu i ddod â bywyd i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt. Mae digonedd o rolau gwerth chweil ar gael. Dysgwch fwy am yr amrywiaeth eang o rolau sydd ar gael a sut y gallwch ddechrau gwirfoddoli. (Saesneg yn unig)
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.
Dysgwch sut y gallwch gyfrannu yng Ngerddi Dyffryn a chael golwg ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.
Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o dîm Castell Penrhyn. Maent yn cefnogi’r gwaith cynnal a chadw ac yn croesawu ymwelwyr i’r castell bob dydd. Os ydych chi’n berson brwdfrydig ac ymroddedig pam ddim ymuno hefo’r tîm arbennig?
Ymunwch â’n tîm gwych o wirfoddolwyr yng Nghastell y Waun yng Nghymru.