Llogi cytiau traeth Llanbedrog

Mae traeth Llanbedrog wedi bod yn lleoliad poblogaidd gydag ymwelwyr yn heidio yma er 1890, pan adeiladwyd tramffordd yn cysylltu'r pentref â Phwllheli. Mae'r dramffordd eisoes wedi mynd, ond mae'r traddodiad o gytiau traeth, sy'n gysylltiedig â'r twristiaid Fictoraidd cynnar hynny yn parhau.
Sut mae archebu cwt traeth ar gyfer 2025?
Byddwn yn derbyn ceisiadau am dymor 2025 o 9am ar 18 Medi tan 4pm ar 19 Medi 2024, neu pan fyddwn wedi cyrraedd y nifer gofynnol o geisiadau, pa un bynnag sy'n dod gyntaf. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau y tu allan i'r amseroedd hyn. Byddwn yn cysylltu â'r holl ymgeiswyr erbyn 30 Medi 2024.
Cwblhewch y ffurflen gais yma a'i anfon yn ddigidol i llanbedrog@nationaltrust.org.uk.
Bydd y cytiau traeth yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae croeso i chi nodi rif penodol, ond ni fydd gan hyn unrhyw ddylanwad ar lwyddiant eich cais ac nid oes sicrwydd y byddwch yn cael eich neilltuo i'r cwt yr ydych wedi gofyn amdano.
Pryd fydd y cytiau traeth yn barod?
Ni allwn gadarnhau'r union ddyddiadau ar gyfer dyddiadau cychwyn a gorffen y drwydded ar hyn o bryd ond rydym yn rhagweld y bydd y cytiau traeth ar gael rhwng y Pasg a'r wythnos gyntaf ym mis Medi 2025. Byddwn yn cadarnhau'r dyddiadau gydag ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 28 Chwefror 2025.
Faint mae'n ei gostio i archebu cwt traeth ar gyfer y tymor?
Y gost ar gyfer cytiau'r traeth yn 2025 fydd £450 + TAW am y tymor. Oherwydd y costau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw, symud y cytiau traeth a darparu trwyddedau, ni ellir ad-dalu'r ffi. Mae TAW bellach yn daladwy ar y gosodiadau hyn ac yn cael ei chodi ar y gyfradd safonol o 20%.
You might also be interested in

Ymwelwch â traeth Llanbedrog
Ewch i Lanbedrog, darn hir o arfordir tywodlyd â chytiau traeth lliwgar sy’n ddelfrydol i deuluoedd. Cyrchfan boblogaidd ger Pwllheli ar Benrhyn Llŷn.

Taith gerdded Llanbedrog
Bydd y daith hon trwy goetir i fyny i Fynydd Tir-y-Cwmwd yn cynnig golygfeydd rhyfeddol o’r penrhyn a Bae Ceredigion.

Arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn
Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.