Taith gerdded Llanbedrog
Bydd y daith hon trwy goetir i fyny i Fynydd Tir-y-Cwmwd yn cynnig golygfeydd o’r penrhyn a Bae Ceredigion. Cofiwch gael tynnu eich llun gyda’r cerflun Dyn Haearn enwog pan gyrhaeddwch chi’r copa.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, traeth Llanbedrog, cyfeirnod grid: SH 33017 31530
Cam 1
Wrth adael y maes parcio, croeswch y ffordd a cherdded tuag at Blas Glyn y Weddw.
Cam 2
Yma byddwch yn cyrraedd tir oriel gelf hynaf Cymru, Plas Glyn-y-Weddw. Cerddwch heibio’r tŷ a’r theatr awyr agored tuag at fan cychwyn y llwybr trwy’r coetir. Mae’r llwybr yn codi’n raddol tuag at benrhyn Mynydd Tir-y-Cwmwd.
Cam 3
Ar ôl dringo’r grisiau carreg olaf i gyrraedd y rhostir gwastad cewch olygfeydd o Fae Ceredigion a’r mynyddoedd. Mae cerflun enwog y Dyn Haearn ar ben y rhostir yn edrych i lawr tua thraeth Llanbedrog a’r bae. Ar ôl edmygu’r golygfeydd hardd, dilynwch y llwybr sy’n mynd o amgylch y penrhyn.
Cam 4
Cewch ragor o olygfeydd anhygoel wrth gerdded o gwmpas y penrhyn. Byddwch yn gallu gweld Ynysoedd Tudwal ac Abersoch.
Cam 5
Ar ôl gadael y llwybr fe gyrhaeddwch chi drac, ac yna ffordd darmac. Pan gyrhaeddwch chi’r ffordd darmac, trowch i’r dde. Byddwch yn awr yn rhan uchaf Llanbedrog a byddwch yn dod i lawr rhiw heibio neuadd yr eglwys. Trowch i’r dde eto yn ôl at ffordd y traeth a dychwelyd i faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Os byddwch chi angen torri syched, mae caffi yn yr oriel neu mae tafarn Glyn-y-Weddw (ddim yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yn ôl i gyfeiriad y briffordd.
Man gorffen
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, traeth Llanbedrog, cyfeirnod grid: SH 33017 31530
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith gylchol Pen Dinas
Crwydrwch trwy ran syfrdanol o Lwybr Arfordir Sir Benfro, gan gael golygfeydd o Fae Ceredigion a mynd heibio safleoedd llongddrylliadau ac eglwys a chwalwyd gan storm wrth i chi ddilyn y llwybr garw.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Ymwelwch â traeth Llanbedrog
Ewch i Lanbedrog, darn hir o arfordir tywodlyd â chytiau traeth lliwgar sy’n ddelfrydol i deuluoedd. Cyrchfan boblogaidd ger Pwllheli ar Benrhyn Llŷn.