Darganfyddwch fwy ym Mhorthor
Dysgwch sut i gyrraedd Porthor, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch y golygfeydd rhyfeddol ar hyd yr arfordir garw hwn ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn. Nid yn unig mae’r arfordir yn hardd, mae’n hwyl hefyd. Os byddwch chi’n syrffio, corff-fyrddio neu mewn caiac, byddwch wrth eich bodd yn y dŵr ym Mhorthor.
Mae’r traeth yn enwog am ei dywod gwichlyd, ac mae’r traeth diarffordd yma yn un o’r traethau perffeithiaf yng Nghymru. Allwch chi ddim peidio â gwirioni ar ei harddwch. Crwydrwch ar hyd traeth gwych i deuluoedd a mwynhau lle gwych i ymlacio.
Gelwir y traeth yn ‘Whistling Sands’ yn Saesneg, sy’n deillio o’r wich neu’r chwib sy’n cael ei greu gan y gronynnau tywod o siâp penodol sy’n rhwbio yn ei gilydd pan fydd rhywun yn cerdded arnynt mewn tywydd cynnes. Gellir gwneud y sŵn trwy daro neu lithro eich traed ar dywod sych.
Gall y tonnau yma fod yn ddelfrydol ar gyfer syrffio a chorff-fyrddio yn yr amodau cywir. Bydd y tonnau mwyaf fel arfer ym Mhorth Neigwl, ond pan fydd gwynt o’r tir ym Mhorth Neigwl, gall Porthor gynnig lle braf, cysgodol i syrffio.
I’r rhai lwcus, fe gewch chi donnau tiwbaidd, sy’n troelli at y lan, gwych i gorff-fyrddio ond rhaid bod yn ofalus gan fod un neu ddwy o greigiau o dan y dŵr.
Dewch o hyd i fywyd gwyllt o gwmpas y traeth. Gwelir morloi yn aml ger yr arfordir, yn arbennig os ydych yn corff-fyrddio yn y dŵr.
Gallwch fod yn ddigon lwcus i weld dolffiniaid. Mae’r ardal o gwmpas y traeth yn gadarnle i adar; chwiliwch am y frân goesgoch, gwalch y penwaig, gwylog, y wylan goesddu, mulfran, mulfran werdd a bras melyn ar hyd yr arfordir.
Arferai Porthor fod yn borthladd prysur, yn mewnforio calch a glo ac yn allforio cynnyrch fferm fel menyn, caws, wyau a dofednod. Erbyn hyn dim ond yn yr haf y bydd y traeth yn prysuro pan fydd cri’r gwylanod yn cymysgu â sŵn pobl yn mwynhau eu hunain.
Gwnaed gwaith ar y caeau o amgylch y traeth, yn adfer y cloddiau traddodiadol. Mae’r banciau pridd â wyneb carreg yma yn cynnig coridor i fywyd gwyllt symud o gwmpas yr ardal, heb i bobl amharu arnyn nhw.
Dysgwch sut i gyrraedd Porthor, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.
Yn swatio yng nghanol Aberdaron, mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr unigryw. Mae'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.
Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Gweithgareddau y gall plant eu mwynhau ar lan y môr, o badlo neu nofio i ddal crancod a sgimio cerrig. (Saesneg yn unig)
Er bod canŵio a cheufadu yn ffyrdd gwych o brofi natur a chadw'n heini, gall fod yn beryglus os na ddilynnir y canllawiau. Dysgwch sut i gadw'n ddiogel gyda'n cyngor a'n cyfarwyddyd. (Saesneg yn unig)