Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i ddathlu tymor y Nadolig gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau hudol yng Nghastell a Gardd Powis. O Nadolig Dickensaidd, wedi ei ysbrydoli gan A Christmas Carol, i ymddangosiad arbennig gan Siôn Corn, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.
Amseroedd agor:
Dathliadau Traddodiadol: Nadolig Dickensaidd
Camwch i fyd o ryfeddod Nadoligaidd a dathlu’r Nadolig mewn dull Dickensaidd! O 30 Tachwedd tan 5 Ionawr, bydd llawr cyntaf y castell yn cael ei drawsnewid yn fyd hudolus Fictoraidd, wedi ei ysbrydoli gan glasur Charles Dickens, A Christmas Carol. Ymdrochwch yng ngolygfeydd, seiniau a thraddodiadau Nadolig yr 19eg ganrif, wrth i fflicrian golau’r gannwyll, garlantau bytholwyrdd, a golygfeydd Nadolig hiraethus fynd â chi yn ôl mewn amser.
Wrth i chi grwydro o gwmpas y cynteddau ac ystafelloedd sydd wedi eu haddurno mor brydferth, byddwch yn teimlo fel eich bod wedi camu i mewn i Nadolig Fictoraidd twymgalon.
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer y Nadolig Dickensaidd yn y Dderbynfa Ymwelwyr yn y Maes Parcio, ac maent am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Profiadau Arbennig i'r Plantos: Brecwast gyda Siôn Corn
Mae profiad hudolus yn disgwyl ein hymwelwyr iau! Ar ddyddiadau penodol (30 Tachwedd, 1 Rhagfyr, 7 Rhagfyr, 8 Rhagfyr, a 15 Rhagfyr), bydd Siôn Corn yn gwneud ymddangosiad arbennig yng Nghastell Powis ar gyfer brecwast Nadoligaidd. Yn cael ei gynnal yn y caffi a’r llyfrgell hudolus; mae’r bore cartrefol hwn yn rhoi’r cyfle i blant rannu storïau gyda Siôn Corn, mwynhau danteithion brecwast blasus a chreu atgofion Nadoligaidd bythgofiadwy.
Nifer benodol o leoedd sydd ar gael, felly sicrhewch eich bod yn archebu o flaen llaw. Y prisiau yw £20.95 y plentyn (2 oed a hŷn), £5.95 i bob plentyn dan 2 oed, a £16.95 i oedolion.
Goleuadau Disgleirwych: Golygfa Gwerth ei Gweld
O’r 13 i’r 23 o Ragfyr, bydd Castell Powis yn goleuo’r tywyllwch mewn arddangosfa ddisglair o oleuadau Nadolig, gan drawsnewid muriau allanol y castell yn fyd hudol gwefreiddiol. Gydag oriau agor estynedig o 4.30pm tan 7pm, gall ymwelwyr brofi’r hud ar ôl iddi dywyllu, wrth i’r goleuadau disglair oleuo pensaernïaeth fawreddog y castell yn erbyn yr awyr aeafol.
Bydd angen tocyn i gael mynediad i’r cwrt. Bydd tocynnau ar gael o’r Dderbynfa Ymwelwyr yn y maes parcio. Bydd y tâl mynediad yr un fath â’r tâl mynediad arferol, ac am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Peidiwch â cholli'r cyfle i brofi hud y Nadolig yng Nghastell Powis! O gamu i mewn i Nadolig Fictoraidd i fwynhau brecwast gyda Siôn Corn, neu ryfeddu at yr arddangosfa oleuadau hyfryd, mae Castell Powis yn cynnig profiad twymgalon i ymwelwyr o bob oed.
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.