Skip to content

Hanes Arfordir Solfach

Rhes odynau calch cerrig wrth ochr Arfordir Solva, Penfro, Cymru
Odynau calch ar hyd ymyl yr harbwr ar yr Arfordir Solfach, Penfro, Cymru | © National Trust Images/James Dobson

Darganfyddwch hanes cudd Arfordir Solfach a thystiolaeth o’r gorffennol sy’n adrodd straeon y sawl a fu’n byw a gweithio yn yr ardal hon o Sir Benfro ‘slawer dydd.

Adfeilion hanesyddol yn Solfach 

Harbwr Solfach oedd y prif borth i’r pentref bach anghysbell hwn cyn i’r ffordd gael ei hadeiladu.  

Odynau calch 

Fe welwch nifer o odynau calch ar hyd ymyl yr harbwr. Mae’r olygfa orau o’r rhain o’r llwybr, neu gallwch gael golwg graffach arnynt pan fo’r môr ar drai. Maen nhw’n o leiaf 200 oed mae’n debyg.  

Byddai calchfaen yn cael ei wresogi yma i greu calch brwd. Yn ystod y 1800au roedd calch yn cael ei ddefnyddio’n eang fel deunydd adeiladu ac i wella’r pridd ar ffermydd lleol. Roedd calchfaen a glo’n cael eu cludo i’r harbwr mewn cychod gwaelod fflat. Roedd y rhain yn cael eu dadlwytho ar gerti pan fyddai’r môr ar drai ac yn cael eu symud i’r odynau gerllaw. 

Golygfa arfordirol yn edrych tua’r de-orllewin tuag at Fae San Ffraid dros benrhyn cribog Dinas Fawr. Mae Ynys Sgomer i’w gweld yn y môr yn y pellter.
Bae San Ffraid o benrhyn Dinas Fawr, Sir Benfro | © NTPL/Joe Cornish

Caerau Oes Haearn 

Mae tua 50 o gaerau Oes Haearn i’w gweld yma ac acw ar hyd arfordir Sir Benfro. Rydyn ni’n gofalu am hanner ohonynt, gan gynnwys y 3 caer bentir ger Solfach yn y Gribin, Porth y Rhaw a Dinas Fawr. 

Wedi’u hadeiladu gyda’u cefnau at y môr i’w hamddiffyn rhag ymosodiadau o’r tir, roeddent mewn defnydd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae erydiad arfordirol wedi golchi’r rhan fwyaf o’r tir y gwarchodai’r rhagfuriau ymaith, ac eithrio yn y Gribin, sydd wedi’i chysgodi gan bentiroedd ar y naill ochr. 

Hen felinau

Dafliad carreg o Borth y Rhaw mae Cwm Naw Ffynnon. Mae hwn yn gwm serth sy’n ymestyn yr holl ffordd i lawr at y môr. Roedd dwy felin yma ‘slawer dydd a fyddai’n cael eu defnyddio ar gyfer ŷd a brethyn. Caeodd y ddwy felin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1915. Cadwch olwg am sylfeini’r adeiladau – maen nhw i’w gweld yma hyd heddiw. 

Llongddrylliadau ar Arfordir Solfach 

Mae llawer o longau wedi’u dryllio ar hyd y darn peryglus hwn o arfordir. Roedd dwy long, Phoebe a Peggy, ar eu ffordd o Philadelphia i Lerpwl ym 1776. Cawsant eu taro gan stormydd garw a’u dryllio yn agos iawn at y fynedfa i Harbwr Solfach. 

Boddodd criwiau’r ddwy long, ynghyd â nifer o fadwyr lleol o Solfach a geisiodd eu hachub. 

Hanes Goleudy’r Smalls  

Mae goleudy’r Smalls yn sefyll ar greigres beryglus y Smalls, tua 20 milltir i’r gorllewin o Benrhyn Marloes ac 8 milltir i’r gorllewin o ynys Gwales.  Adeiladwyd y goleudy gwreiddiol yn harbwr Solfach ym 1776 a chafodd ei lusgo i’w le gan fad. Roedd yn sefyll ar naw piler derw a adawai i’r môr lifo oddi tano.  

Er i nerth y môr roi ambell ysgytwad iddo yn ystod tywydd garw, safodd am 80 mlynedd cyn bod angen ei ddisodli.  Mae’r goleudy’n adnabyddus am gyfrannu at newid mewn polisi goleudai ym 1801 yn dilyn stori erchyll yn cynnwys ceidwaid y goleudy, Thomas Howell a Thomas Griffith. 

Pâr cwerylgar

Roedd y tîm o ddau yn ffraeo o hyd. Pan fu farw Griffith mewn damwain, ofnai Howell y câi ei gyhuddo o lofruddiaeth pe daflai’r corff i’r môr.  Felly, adeiladodd Howell arch syml a’i rhoi’n sownd wrth ochr allanol y goleudy tan i’r cwch cymorth nesaf gyrraedd.

Fodd bynnag, torrwyd y bocs simsan gan dywydd garw a thaflwyd y corff yn nerthol yn erbyn y ffenest. Yn anhygoel, llwyddodd Howell i gadw lamp y goleudy ynghynn tan fod cymorth yn cyrraedd. 

Effaith ddofn

Pan ryddhawyd Howell o’i ddyletswyddau, daeth yn amlwg fod y sefyllfa wedi cael effaith ddofn arno ac, o ganlyniad, diwygiwyd polisi goleudai i fynnu bod timau goleudai yn cynnwys o leiaf dri pherson. Parhaodd hyn tan i oleudai gwledydd Prydain gael eu hawtomeiddio yn y 1980au. 

Llinellau Sumner

Mae’r stori wedi ysbrydoli llawer o ffilmiau a rhaglenni dogfen, ac ar y greigres hon darganfyddodd y Capten T. H. Sumner y cysyniad o linellau lleoli wybrennol, neu’r cylch uchder cyfartal, sef y sail i bron pob dull mordwyo wybrennol modern. Gelwir y llinellau hyn yn llinellau Sumner weithiau.

Golygfa arfordirol yn edrych tua’r de-orllewin tuag at Fae San Ffraid dros benrhyn cribog Dinas Fawr. Mae Ynys Sgomer i’w gweld yn y môr yn y pellter.

Darganfyddwch fwy ar Arfordir Solfach

Dysgwch sut i gyrraedd yr Arfordir Solfach, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Clustog Fair yn blodeuo ar ben clogwyn wrth iddi fachlud yn Pentire
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Phenrhyn Dewi 

Darganfyddwch fflora a ffawna Penrhyn Dewi. Cadwch olwg am blanhigion arfordirol, campau’r cudyllod a’r mulfrain llwyd fry uwchben, neu glochdar y cerrig yn clwydo ar lwyni eithin.

Golygfa o Fae San Ffraid ar draws harbwr Porth Clais yn Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â harbwr Porthclais 

Datgelwch dreftadaeth ddiwydiannol yr harbwr bach prydferth, rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr a mwynhewch weithgareddau awyr agored ar dir sych ac ar y dŵr.

Y machlud o gopa Carn Llidi ym Mhenmaen Dewi, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Hanes Penrhyn Dewi 

Dysgwch fwy am wreiddiau Celtaidd Tyddewi, pererindodau a’n nawddsant a sut mae gorffennol cynhanesyddol yr ardal wedi gadael ei farc ar ddinas leiaf gwledydd Prydain.