
Llwybr Darganfod y Cymin
Cerddwch yn ôl traed yr Arglwydd Nelson a’r Fonesig Hamilton, a ddaeth yma i fwynhau’r golygfeydd godidog dros Gymru a Lloegr dros 200 mlynedd yn ôl. Mae’r llwybr hwn yn cynnwys dau adeilad Sioraidd hynod ddiddorol: Teml y Llynges, cofeb i’r Llyngesydd Arglwydd Nelson; a’r Tŷ Crwn, tŷ gwledda castellaidd cylchol.
Cyfanswm y camau: 4
Cyfanswm y camau: 4
Man cychwyn
Maes parcio’r Cymin, cyfeirnod grid: SO528125
Cam 1
O’r maes parcio, cerddwch tuag at yr adeilad gwyn y gallwch ei weld i’r gogledd. Dyma Deml y Llynges.
Cam 2
Cerddwch i’r Tŷ Crwn. I’r chwith ohonoch mae golygfa odidog dros Drefynwy a thu hwnt. Fe allech weld boda neu hebog tramor yn hedfan fyny fry. Rydych chi’n debygol o weld Mynydd Pen-y-fâl, sy’n edrych fel llosgfynydd o’r cyfeiriad hwn. Ac ar ddiwrnod clir fe welwch Ben y Fan ar y gorwel: pwynt uchaf Bannau Brycheiniog.
Cam 3
O’r Tŷ Crwn, cerddwch ar hyd y rhodfa. O’ch blaen mae Coed Beaulieu, coetir hynafol a ddefnyddiwyd ‘slawer dydd i losgi siarcol. Ewch i’r coetir a dilynwch y llwybr amlwg ar hyd pen uchaf y gefnen tan i chi gyrraedd yr olygfan, lle mae mainc a bwrdd gwybodaeth i’r chwith o’r llwybr. Cerddwch am ryw 150m a dilynwch y llwybr troellog serth i lawr i’r chwith, ychydig cyn pen y gefnen. Gall y llwybr hwn fod yn llithrig, a gall fod yn anodd dod o hyd iddo ar adegau penodol o’r flwyddyn. Dilynwch y llwybr i lawr y bryn am ryw 250m tan iddo ymuno â thrac cerbydau llydan. Trowch i’r dde gan ddilyn y trac am 600m tan i chi gyrraedd gât mochyn ag arwydd ‘Y Cymin’. Ewch drwy’r gât a dilynwch y llwybr drwy ganol y cae. Ewch i fyny’r bryn drwy rai coed, yna croeswch ail gae yn lletraws at gât mochyn a dychwelyd i diroedd y Cymin.
Cam 4
Ewch drwy’r gât mochyn a, chan gadw’r Hen Stabl i’r chwith ohonoch, cerddwch yn syth ymlaen tan i chi ddod at y Lawnt Fowlio. Cafodd y lawnt ei thirlunio gan yr un bobl ag a adeiladodd y Tŷ Crwn ac mae’n lle hyfryd am bicnic neu gêm o groce. Os nad ydych chi’n bwriadu stopio, dydych chi ddim yn bell o gwbl o’r maes parcio – dilynwch y rhodfa.
Man gorffen
Maes parcio’r Cymin, cyfeirnod grid: SO528125
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr Ysgyryd Fawr ym Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg
Heriwch fynydd o chwedlau ar y llwybr heriol hwn a fydd yn eich tywys i gopa Ysgyryd Fawr.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwch â’r Cymin
Darganfyddwch fyd o olygfeydd godidog a choetiroedd heddychlon, wedi'u cyfuno â thiroedd hamdden prydferth i'w mwynhau gyda phicnic neu daith gerdded ling-di-long.

Darganfyddwch fywyd gwyllt y Cymin
Dysgwch am y bywyd gwyllt amrywiol y gallwch ei weld yn y Cymin. O foch daear i ystlumod a morgrugyn prinnaf Prydain.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.