Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Tŷ Mawr eto eleni. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gynnig rhaglen gyffrous o ddiwrnodau agored misol - pob un gyda thema wahanol. Byddwn yn rhannu ein diweddariadau yma.
Cyfle i gael golwg ar Tŷ Mawr cyn i'r ffermdy gau am y tymor.
Sesiwn bore (10am— 12pm)
Yn y sesiwn bore byddwch yn plannu cennin Pedr brodorol yng ngardd Tŷ Mawr Wybrnant ac yn ymchwilio i blanhigion yr oedd pobl o gyfnod y Tuduriaid yn plannu yn eu gerddi. Bydd y gwaith yn cyfrannu tuag at ddehongli ar y safle.
Sesiwn prynhawn (2pm-5pm)
Yn y sesiwn prynhawn bydd yna gyfle i fod yn greadigol ac i greu gwaith celf natur sy'n arddangos rhai o luniau ac enwau'r planhigion yn yr ardd, fel bod ymwelwyr yn cael syniad o ddefnydd y planhigion, eu henwau a'r cysylltiadau diwylliannol.
Archebu lle
Mae yna le i 10 ar gyfer pob sesiwn a bydd angen archebu lle. Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer y sesiwn bore yn unig, y sesiwn prynhawn yn unig neu ar gyfer y ddau sesiwn. I wneud hynny, ebostiwch Judith@mentrauiaith.cymru
Fe fydd yna ysbaid rhwng y sesiynau i fynd am dro ac i bawb ddod i nabod ei gilydd. Dewch â chinio eich hunain os gwelwch yn dda.
Bydd Tŷ Mawr Wybrnant ar agor ar y dyddiau canlynol:
Diwrnod | Dyddiad | Amser |
Dydd Mawrth | 16 Ebrill - 24 Medi | 10am tan 4pm |
Dydd Sadwrn | 16 Ebrill - 28 Medi | 10am tan 4pm |
Dydd Sul | Dydd Sul cyntaf o bob mis. Diwrnod agored olaf ar 6 Hydref. Gweler y rhan diwrnodau agored misol isod am fwy o wybodaeth. | 10am tan 4pm |
Nodwch: bydd y toiledau dim ond ar agor pan fydd y ffermdy ar agor.
I gyrraedd Tŷ Mawr ewch i Benmachno a dilyn yr arwyddion brown oddi yno, peidiwch â dilyn sat nav na dod ar hyd yr A470.
Dewch i gael golwg o gwmpas y ffermdy bychan ond arwyddocol yma o’r 16eg ganrif a oedd yn fan geni’r Esgob William Morgan, a fu wrthi am 10 mlynedd yn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ac sydd wedi helpu i sicrhau parhad yr iaith.
Bydd aelod o staff wrth law i adrodd ychydig am ei hanes ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Gweler yr amseroedd agor ar gyfer 2024 yn y tabl uchod.
Bydd yr ystafell arddangos gerllaw ar agor bob dydd tan 1 Medi. Yma gallwch ddarllen am hanes Tŷ Mawr, gan gynnwys y cyfnod difyr pan oedd hen ffordd y porthmyn yn cael ei defnyddio.
Mae’r ardd Duduraidd fechan yn Tŷ Mawr, sydd yn y broses o gael ei hadnewyddu, wedi’i dylunio i roi’r apêl synhwyraidd fwyaf drwy gydol y flwyddyn tra hefyd yn cynnwys planhigion a gyfeirir atynt gan Shakespeare a’r Beibl – sy’n ffurfio cysylltiad ychwanegol gyda hanes Tŷ Mawr a'i ddeiliaid. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i dyfu planhigion anarferol yn ogystal â rhai mwy cyfarwydd i ennyn diddordeb ymwelwyr, gyda chynaliadwyedd ac egwyddorion amgylcheddol wrth galon y prosiect.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr ardd.
Mae’r daith hon yn eich arwain trwy hanes cymdeithasol a byd natur y cwm hwn yn ucheldir Cymru. Yn ganolog iddo mae Tŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Byddwch yn cerdded trwy dir amaethyddol traddodiadol yr ucheldir, ar hyd ffyrdd coedwig a hen ffordd y porthmyn.
Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth: Taith Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant
Taith gerdded 5 milltir trwy hanes ucheldir Cymru, heibio afonydd, trwy dir amaethyddol a gweddillion coetir hynafol. Fe welwch olygfeydd gwych tua’r Wyddfa a Moel Siabod ar hyd y ffordd, yn ogystal ag amrywiaeth anferth o blanhigion a bywyd gwyllt.
Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth: Taith Ty’n y Coed Uchaf a Chwm Eidda
Mae dyddiau agored yn Tŷ Mawr yn cael eu cynnal ar ddydd Sul cyntaf pob mis rhwng 10am a 4pm, gyda phob un yn edrych ar thema wahanol.
Cyfle i gael golwg ar Tŷ Mawr cyn i'r ffermdy gau am y tymor.
Cafwyd taith gerdded dechrau mis Mai yng nghwmi Ioan Davies, Warden Parc Cenedlaethol Eryri mewn partneriaeth gyda Gŵyl Natur Cwm Penmachno. Cafwyd cyfle i glywed ychydig o hanes Tŷ mawr cyn mynd ymlaen efo Ioan i archwilio prydferthwch naturiol dyffryn Wybr
Daeth nifer o bobl ynghyd i fwynhau picnic ac adloniant gwych gan Gwilym Bowen Rhys ar brynhawn dydd Sul braf yn Tŷ Mawr. Yn ogystal â chlasuron gwerin megis 'Wrth Fynd Efo Deio i Dywyn,' cafwyd caneuon eraill gyda hanesion difyr a thrist iddynt - gan gynnwys cân wreiddiol gan Gwilym a oedd yn sôn am ei hen hen daid ag eraill a fu farw mewn ffrwydrad pwll glo yn ne Cymru.
Dangoswyd rhaglen ddogfen hynod ddifyr gan S4C o'r enw 'Dyddiau Dyn - Newid Tŷ' (1988) sydd yn cofnodi’r adfer sylweddol a fu yn Tŷ Mawr Wybrnant. Roedd hi'n wych gwahodd y brodyr Turner yn ôl i Tŷ Mawr, y tro cyntaf i'r pedwar ohonynt fod gyda'i gilydd ar y safle ers gwneud y gwaith adeiladu gwych hynny gyda'u tad nôl ym 1988.
Dangoswyd portreadau creadigol o William Morgan gan ddisgyblion lleol, gyda help yr arlunydd Eleri Jones, yn Tŷ Mawr fel rhan o brosiect ‘Campweithiau mewn Ysgolion’ mewn partneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cafwyd darlith ragorol gan yr Athro Angharad Price i ystafell orlawn o wrandawyr awyddus ar y testun Catholigion Cymreig yn ystod cyfnod William Morgan. Roedd pawb yn gwrando'n astud ar y straeon hynod ddifyr am Gruffydd Robert, Morys Clynnog ac Owen Lewis, a fu’n byw fel alltudion yn ystod cyfnod cythryblus yn hanes y Tuduriaid, gyda nifer o gwestiynau diddorol yn cael eu gofyn ar y diwedd.
Dysgwch pryd mae Tŷ Mawr Wybrnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i grwydro man geni’r Esgob William Morgan cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn swatio mewn cwm cudd ar gyrion Penmachno ger Betws y Coed.
Dysgwch am bennod bwysig yn hanes yr iaith Gymraeg wrth archwilio tiroedd Tŷ Mawr Wybrnant a Chwm Wybrnant gyda’ch ci.
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.