Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Trwy gydweithio gyda’r Prosiect Dŵr Uisce – sy’n cynnwys ymchwiliwr o Brifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn – gosodwyd cynllun ynni adnewyddadwy yn Nhŷ Mawr Wybrnant yng Nghonwy. Bydd y cynllun trydan-dŵr ‘pico’ bychan yn ymdrin â’r lefelau lleithder niweidiol, gan, ar yr un pryd, helpu gyda nod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o leihau ei defnydd o danwydd ffosil yn fawr.
Yng ngwanwyn 2019, profodd Tŷ Mawr Wybrnant y llif gwaethaf mewn cof. Roedd y lleithder ychwanegol yn yr aer yn creu bygythiad i’r casgliad unigryw o Feiblau - gan gynnwys copi gwreiddiol o’r Beibl Cymraeg cyntaf, a argraffwyd yn 1588 - sy’n cael ei arddangos yn y ffermdy o’r 16eg ganrif, oedd yn golygu bod rhaid defnyddio mwy o wres i leihau lefelau’r lleithder. Rhag ofn niwed, symudwyd y casgliad craidd o Feiblau dros dro, gyda Beibl 1588 yn cael ei arddangos yng Nghastell y Waun.
Bydd gosod cynllun ynni adnewyddadwy trydan-dŵr bach ‘pico’ yn helpu i gadw’r lefelau lleithder cyn lleied â phosibl. Yn ei hanfod, mae dŵr mewn gwirionedd yn helpu i ddatrys y broblem y mae’n ei chreu ei hun.
- Keith Jones, Cynghorydd Newid Hinsawdd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Yn Nhŷ Mawr Wybrnant, roeddem yn chwilio am ddull mwy cynaliadwy gyda help gan Brosiect Dŵr Uisce, sy’n cael ei gefnogi gan Raglen Cydweithredu Iwerddon-Cymru 2014 (a ariennir gan Gronfa Datblygu Gwledig Ewrop) ac yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn. Ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau ar gyfer gwres mwy effeithlon sydd hefyd yn cyd-fynd ag adeilad rhestredig Gradd II, dewiswyd y cynllun trydan-dŵr 4.5kW, a elwir yn gynllun ‘pico’, oherwydd ei fod yn fach.
- Keith Jones, Cynghorydd Newid Hinsawdd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Nod tymor hir y Prosiect Dŵr Uisce, yn ôl ei arweinydd Dr Aonghus McNabola, Athro Cysylltiol mewn Peirianneg yng Ngholeg y Drindod, yw datblygu’r dechnoleg trydan-dŵr pico ymhellach fel y gellir ei ddefnyddio’n fwy cyffredin yn y dyfodol cymharol agos a dechrau cael budd i’r amgylchedd.
- Dr Prysor Williams, arweinydd y tîm ym Mhrifysgol Bangor
Mewn ymgais i geisio haneru ein defnydd o danwydd ffosil, rydym wedi gosod nifer o dechnolegau effeithlon o ran ynni ac adnewyddadwy ar draws Eryri gan gynnwys bwyleri biomas, a phympiau gwres ar ffermydd, bythynnod gwyliau a swyddfeydd. Dyma’r wythfed gynllun trydan-dŵr i ni ei osod yn yr ardal, yn Hafod y Llan yr oedd y cyntaf ac ar 600kW hwnnw oedd y mwyaf.
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Crwydrwch yr ardd Duduraidd, gyda nifer o blanhigion gwahanol i ddarparu bwyd, meddyginiaethau a pheraroglau i’r tŷ.
Dewch i grwydro man geni’r Esgob William Morgan cyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yn swatio mewn cwm cudd ar gyrion Penmachno ger Betws y Coed.
Dysgwch sut y gwnaeth Castell Penrhyn ddweud ffarwel wrth wresogi trwy losgi olew a newid i ddefnyddio biomas, gan leihau ei ôl troed carbon a chostau am flynyddoedd i ddod.
Discover why Nuffield Place in Oxfordshire has switched to renewable energy and the technology behind the move.