Skip to content
Prosiect

Ffermio cynaliadwy yn Fferm Ifan

Golygfa cymylog gorgors wedi'i amgylchu gan prysgwydd a mynyddoedd yn y cefndir.
Golygfa dros orgors y Migneint yn Ysbyty Ifan, Eryri | © National Trust Images/John Miller

Mae Fferm Ifan yn cael ei harwain gan grŵp o 11 o ffermwyr tenant ar ystâd Ysbyty Ifan, sy’n gweithio gyda’i gilydd i archwilio ffyrdd newydd a chynaliadwy o ffermio a fydd o fudd i’r bobl sy’n byw yn y dirwedd amgylchynol yn ogystal â gwella cynefinoedd bywyd gwyllt a rhoi hwb i fioamrywiaeth yn gyffredinol.

Pori ar orgors y Migneint

Mae gan y ffermwyr hawliau pori ar y Migneint, un o’r ardaloedd gorgors mwyaf yng Nghymru sydd wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardal Gadwraeth Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig.

Lleihau erydiad pridd a gwella ansawdd dŵr

Fel rhan o’r gwaith, mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) yn cynnig arweiniad ar arferion plannu dalgylch-sensitif. Byddant yn plannu mwy o goed a gwrychoedd ffermdir ar hyd nentydd i helpu i ddiogelu cynefinoedd glan afon, lleihau erydiad pridd a lliniaru llifogydd ymhellach i lawr yr afon.

Bydd gwaith blocio ffosydd ar y Migneint yn parhau, a fydd yn helpu i godi’r lefel trwythiad, storio carbon a lleihau’r perygl o lifogydd yn Nyffryn Conwy.

Er mwyn gwella ansawdd y dŵr a lleihau erydiad pridd ar dir amaethyddol, bydd y grŵp yn creu nifer o badiau bwydo ar gyfer yr anifeiliaid fferm a chroesfannau ar hyd y nentydd. Caiff y pridd ei ddadansoddi hefyd i fonitro’i ansawdd.

Gwartheg Duon Cymreig yn Eryri, Cymru
Gwartheg Duon Cymreig yn Eryri | © National Trust Images/Paul Harris

Cynyddu bioamrywiaeth

Mae’r ffermwyr hefyd yn cymryd rhan mewn treialon pori i annog mwy o fioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn y mawndir. Fel rhan o’r treialon pori, mae gwartheg wedi’u cyflwyno i’r Migneint am y tro cyntaf ers cyn cof. Mae ‘na gynlluniau hefyd i geisio annog mwy o gornchwiglod a gylfinirod i fridio’n llwyddiannus yn yr ardal.

Cyllid

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy (CRhC) Llywodraeth Cymru ynghyd â Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig. Mae sicrhau’r arian hwn wedi bod yn hanfodol i gyflawni’r gwaith i wella’r ecosystemau ar raddfa tirwedd. Mae’r grŵp hefyd yn gweithio’n agos gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr RSPB, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Prifysgol Bangor a Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn rhannu syniadau a dysgu drwy arbenigedd a phrofiad y partneriaid.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Fel rhan o’r cynllun, bydd Fferm Ifan yn ceisio datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer cynhyrchion rheoli tir cynaliadwy nad ydynt yn fwyd: dŵr glân, araf, storfeydd carbon a bioamrywiaeth sy’n ffynnu. Prif nod y grŵp yw cydweithio i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn y teuluoedd ffermio traddodiadol hyn yn gallu parhau i ffynnu mewn cymuned ucheldirol Gymraeg-ei-hiaith.

A view from the side of a mountain of a tumbling stream running into the valley at Cwm Penmachno, with a view of a road down in the valley

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

You might also be interested in

Defaid yn pori yn Gwm Penmachno ar ddiwrnod heulog, Ystâd Ysbyty Ifan, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ffermio a natur yn Ysbyty Ifan 

Mae Blaen Eidda Isaf yn fferm ucheldirol 54-hectar ar Ystâd Ysbyty Ifan. Drwy newid i dechnegau ffermio mwy cynaliadwy, mae’r ffermwyr tenant wedi gallu helpu bywyd gwyllt ac anifeiliaid pori i gyd-fyw’n hapus.

Prosiect
Prosiect

Gwaith cadwraeth yn Fferm Carrog 

Mae gwaith rheoli afon, plannu coed a chreu dôl yn Fferm Carrog ar ystâd Ysbyty Ifan wedi arwain at boblogaethau bywyd gwyllt ffyniannus a thirwedd sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn well.

Golygfa o bentref Ysbyty Ifan, Gwynedd, ar lan Afon Conwy. Gwelir casgliad o dai Cymreig carreg a phont fwa dros yr afon yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Ysbyty Ifan 

Dysgwch sut y cafodd Ysbyty Ifan ei enw a’i hanes cyfoethog o farchogion a phererinion a sut y daeth yn yr un ystâd fwyaf y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdani.