![Traeth Llanbedrog ar drai ar Benrhyn Llŷn, Gogledd Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/llanbedrog-beach/library/llanbedrog-beach-low-tide-llyn-peninsula-wales-157042.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gerdded Llanbedrog
Bydd y daith hon trwy goetir i fyny i Fynydd Tir-y-Cwmwd yn cynnig golygfeydd o’r penrhyn a Bae Ceredigion. Cofiwch gael tynnu eich llun gyda’r cerflun Dyn Haearn enwog pan gyrhaeddwch chi’r copa.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, traeth Llanbedrog, cyfeirnod grid: SH 33017 31530
Cam 1
Wrth adael y maes parcio, croeswch y ffordd a cherdded tuag at Blas Glyn y Weddw.
Cam 2
Yma byddwch yn cyrraedd tir oriel gelf hynaf Cymru, Plas Glyn-y-Weddw. Cerddwch heibio’r tŷ a’r theatr awyr agored tuag at fan cychwyn y llwybr trwy’r coetir. Mae’r llwybr yn codi’n raddol tuag at benrhyn Mynydd Tir-y-Cwmwd.
Cam 3
Ar ôl dringo’r grisiau carreg olaf i gyrraedd y rhostir gwastad cewch olygfeydd o Fae Ceredigion a’r mynyddoedd. Mae cerflun enwog y Dyn Haearn ar ben y rhostir yn edrych i lawr tua thraeth Llanbedrog a’r bae. Ar ôl edmygu’r golygfeydd hardd, dilynwch y llwybr sy’n mynd o amgylch y penrhyn.
Cam 4
Cewch ragor o olygfeydd anhygoel wrth gerdded o gwmpas y penrhyn. Byddwch yn gallu gweld Ynysoedd Tudwal ac Abersoch.
Cam 5
Ar ôl gadael y llwybr fe gyrhaeddwch chi drac, ac yna ffordd darmac. Pan gyrhaeddwch chi’r ffordd darmac, trowch i’r dde. Byddwch yn awr yn rhan uchaf Llanbedrog a byddwch yn dod i lawr rhiw heibio neuadd yr eglwys. Trowch i’r dde eto yn ôl at ffordd y traeth a dychwelyd i faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Os byddwch chi angen torri syched, mae caffi yn yr oriel neu mae tafarn Glyn-y-Weddw (ddim yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yn ôl i gyfeiriad y briffordd.
Man gorffen
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, traeth Llanbedrog, cyfeirnod grid: SH 33017 31530
Map llwybr
![Map yn dangos y llwybr a chamau llwybr cerdded Llanbedrog](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/llanbedrog-beach/library/llanbedrog-walk-trail-map.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Golygfa arfordirol o eithin melyn a chaeau gwyrdd, clogwyni ac arfordir creigiog tywyll gyda môr gwyrddlas.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/strumble-head-to-cardigan/library/dinas-island-western-edge-view-south-strumble-head-cardigan-wales-132606.jpg?auto=webp&width=733&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gylchol Pen Dinas
Crwydrwch trwy ran syfrdanol o Lwybr Arfordir Sir Benfro, gan gael golygfeydd o Fae Ceredigion a mynd heibio safleoedd llongddrylliadau ac eglwys a chwalwyd gan storm wrth i chi ddilyn y llwybr garw.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winter's day.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/peak-district-derbyshire/places/ilam-park-dovedale-and-the-white-peak/library/1620830-muslim-hikers---ramadan-hike-at-ilam-park-dovedale-and-the-white-peak-derbyshire.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![Dau o bobl yn cerdded dau gi bach ar hyd traeth Llanbedrog, darn eang o dywod gyda chytiau traeth lliwgar a choed tal gwyrdd tywyll yn unon tu ôl iddynt.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/llanbedrog-beach/library/summer/two-people-walking-two-dogs-llanbedrog-beach-summer-llyn-peninsula-gwynedd-wales-1594130.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Ymwelwch â traeth Llanbedrog
Ewch i Lanbedrog, darn hir o arfordir tywodlyd â chytiau traeth lliwgar sy’n ddelfrydol i deuluoedd. Cyrchfan boblogaidd ger Pwllheli ar Benrhyn Llŷn.