
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Dewch i archwilio, dysgu, myfyrio a mwynhau'r amgylchedd naturiol.
Porth y Swnt, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8BE
Asset | Opening time |
---|---|
Canolfan ymwelwyr | Ar gau |
Maes parcio Henfaes | Open all day |
Mae croeso i gŵn ar dennyn yn y siop a’r dderbynfa ond nid yn yr arddangosfa.
Nid yw'r siop ym Mhorth y Swnt yn cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Maes parcio gwastad gyda graean, tri lle Bathodyn Glas gydag arwyneb tarmac (15-20 metr o’r ganolfan). Tŷ bach hygyrch yn y ganolfan ymwelwyr.
O'r gogledd: dilynwch yr A487 o Gaernarfon. Ar ôl 3.5 milltir (5.6km) cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan i ymuno â'r A499. Parhewch 10 milltir (16km) ar yr A499. Ar y gylchfan, cymerwch yr ail allanfa gyda'r arwydd B44177. Yn Nefyn, cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan i barhau ar y B44177. Ym Mhengroeslon trowch i'r dde i ymuno â'r B4413. Parhewch 4 milltir (6.4km) nes cyrraedd Aberdaron. Trowch i'r dde cyn croesi'r bont yn y pentref. Ewch heibio'r ganolfan ar y dde i chi wrth i chi fynd i mewn i'r maes parcio. O'r de: dilynwch yr A497 o Borthmadog trwy Gricieth i Bwllheli. Ar y gylchfan ym Mhwllheli cymerwch yr allanfa gyntaf gyda'r arwydd A499. Yn Llanbedrog trowch i'r dde i Ffordd Pedrog / B4413. Parhewch ar y B4413 nes cyrraedd Aberdaron. Cymerwch y troad cyntaf ar y chwith yn syth ar ôl y bont. Mae’r ganolfan ymwelwyr ar y dde i chi wrth i chi ddod i mewn i’r maes parcio.
Sat Nav: SatNav: LL53 8BE Bydd y côd post hwn yn mynd â chi i bentref Aberdaron. Mae maes parcio a chanolfan ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn agos at y bont yng nghanol y pentref. Sylwer y gall SatNav fod yn anghywir ar isffyrdd Llŷn.
Mae'r orsaf drenau agosaf ym Mhwllheli, 15 milltir (21km) o Aberdaron. Mae gwasanaeth bws yn rhedeg.
Mae bws yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o Bwllheli i Aberdaron. Bws yn gollwng yn y swyddfa bost. Oddi yma cerddwch 60 llath (55 medr) i'r dde tuag at ganol y pentref, gan gadw i'r dde cyn y bont tuag at y maes parcio. Bydd y ganolfan ar y dde i chi.
Mae parcio am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Sylwch fod y peiriannau talu ac arddangos yn derbyn darnau arian yn unig. Gallwch dalu ar-lein gan ddefnyddio PayByPhone. Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r ap cyn eich ymweliad.
Canolfan ddehongli yng nghanol Aberdaron, yn arddangos nodweddion hanesyddol, diwylliannol a naturiol Pen Llŷn.
Yn swatio yng nghanol Aberdaron, mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr unigryw. Mae'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.
Mae digon i’w weld a’i wneud o gwmpas Porth y Swnt. Archwiliwch yr arfordir unigryw hwn dros eich hun.
Taith arfordirol gylchol ar Benrhyn Llŷn o Aberdaron ar hyd y pentir i harbwr pysgota bychan Porth Meudwy.
A bright, two-storey apartment in lovely Aberdaron, with a sandy beach on the doorstep and nearby trails for walking and cycling.
Take in the views across Hell’s Mouth Bay from this cottage on the Plas-yn-Rhiw estate.
Located on a hill above the sea, this rustic former gardener’s cottage enjoys stunning bay views.
Next to a pretty farmhouse, groups of friends and families will adore this character packed barn close to the coast.
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Mae’r ganolfan ddehongli gyffrous yma, yng nghanol pentref pysgota hardd Aberdaron, yn taflu goleuni ar ddiwylliant, treftadaeth ac amgylchedd unigryw Llŷn. Gallwch chi brofi opteg goleudy Ynys Enlli wedi ymddeol yn agos, dilyn yn ôl traed pererinion am daith ar draws y Swnt yn y pod fideo, dal i fyny ar beth mae Ceidwaid Llŷn yn ei wneud a ffurfio eich meddyliau myfyriol yn y Môr o Eiriau.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.