Skip to content

Llefydd yng Nghymru lle mae’n rhaid archebu

Y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd. Mae gan y gerddi ym Mhlas yn Rhiw olygfeydd trawiadol dros Fae Ceredigion.
Y tŷ ym Mhlas yn Rhiw | © National Trust Images/Carole Drake

Rydym wedi cael gwared ar y system archebu yn y rhan fwyaf o leoliadau, ond mae’n rhaid archebu o hyd ar gyfer Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Plas yn Rhiw a Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Dylech hefyd geisio archebu ar yr adegau prysuraf yng Ngardd Bodnant.

Dolaucothi
Ar eich ymweliad â Dolaucothi cewch eich tywys ar daith sy’n datgelu cyfrinachau’r dirwedd ddiwydiannol hon. Mae’r daith yn un awyr agored actif sy’n cynnwys grisiau serth a llwybrau ucheldirol, llwybrau tanddaearol yn y Gloddfa Aur Rufeinig ei hun a cherdded drwy’r coetir cyfagos.Ymwelwch â Dolaucothi
Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd
Camwch i fyd masnachwr llwyddiannus a’i deulu ym 1500, pan roedd y tŷ trillawr trawiadol hwn newydd ei adeiladu. Darganfyddwch siop y masnachwr a’r gegin weithiol ar y llawr daear. Mae neuadd y llawr cyntaf wedi’i haddurno â chrogluniau lliwgar a dodrefn Tuduraidd replica.Ymwelwch â Thŷ’r Masnachwr Tuduraidd
Gardd Bodnant
Gyda chorneli cudd, lawntiau eang, terasau trawiadol a choetir gwyrdd, cewch fwynhau sawl gardd mewn un ym Modnant. Ceisiwch archebu eich ymweliad ar yr adegau prysuraf, fel y gwyliau ysgol a gwyliau banc.Ymwelwch â Gardd Bodnant
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A view of the front of the red mansion house

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Golygfa o’r Teras Lili a’r pwll o’r tŷ yng Ngardd Bodnant, Conwy

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

View of a river running through a valley of mountains

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.