Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Mae microhinsawdd unigryw ym Mhen Llŷn, sy’n manteisio ar Lif y Gwlff sy’n dod â dŵr a thywydd cynhesach. Mae hyn wedi creu cartref delfrydol i gynefinoedd anarferol a bywyd gwyllt diddorol. Darganfyddwch y llefydd gorau yn Llŷn i wylio adar neu weld eich hoff greaduriaid glan môr, o forloi i ddolffiniaid.
Mae Pen Llŷn yn gartref pwysig i forloi llwyd, sy’n fwy o faint ac yn gryfach na’u cefndryd, y morlo cyffredin. Mae tua 5,000 o forloi llwyd yn byw yn y dyfroedd o gwmpas gorllewin Cymru a gallwch eu gweld drwy gydol y flwyddyn. Mae’r lloi bach i’w gweld o fis Medi i fis Rhagfyr.
Ymysg y llefydd gorau i weld morloi llwyd mae Porthdinllaen, Enlli a Llwybr yr Arfordir o gwmpas Porth Meudwy. Mae llwythi bridio wedi’u lleoli ar Ynysoedd Tudwal ac Ynys Enlli, gyda grwpiau llai, mwy ynysig yn byw ar hyd arfordir y gogledd, fel y nifer fechan sydd i’w gweld ger Porthdinllaen.
Cadwch eich pellter o’r morloi a pheidiwch â tharfu arnynt. Defnyddiwch finocwlars i weld y mamau a’u lloi yn ystod y tymor geni. Mae gwylio morloi’n gymharol hawdd oherwydd mae morloi’n dueddol o fod yn araf a thrwsgl ar dir. Ffeindiwch fan gwylio da ac eisteddwch yn llonydd.
Dysgwch fwy am wylio morloi llwyd
Mae arfordir Cymru’n gartref i un o ddwy boblogaeth led-breswyl y DU o ddolffiniaid trwynbwl. Fe allech weld y creaduriaid hyfryd hyn drwy gydol y flwyddyn, ar unrhyw ddarn o lwybr yr arfordir neu’r glannau.
Mae’r prif fannau’n cynnwys oddi ar Ynysoedd Tudwal, Cilan ac oddi ar Ynys Enlli. Fe allech fod yn ddigon lwcus i weld ‘ysgol fawr’, pan mae cannoedd o ddolffiniaid yn dod ynghyd yn ystod hafau cynnes i hela heigiau o bysgod bach. Yn 2005 gwelodd y Seawatch Trust ysgol o ddwy fil o ddolffiniaid ym Mae Ceredigion.
Mae’r llamhidydd, cefnder llai o faint y dolffin, i’w weld yn amlach mewn dyfroedd bas yn agos at y lan mewn grwpiau bach o hyd at 10. Maen nhw’n llai acrobatig o lawer na’r dolffiniaid ac nid ydynt yn gadael y dŵr, heblaw pan fo’r asgell yn dod i’r wyneb. Mae dolffiniaid Risso neu’r dolffin ystlyswyn weithiau’n crwydro i ddyfroedd lleol. Mae morfilod wedi’u gweld yma hefyd, yn bennaf y morfil pengrwn a’r morfil pigfain, sydd wedi’u gweld yn ne-orllewin yr ardal.
Yn adarwr brwd neu beidio, mae cefn gwlad Llŷn yn siŵr o’ch gwobrwyo ag amrywiaeth eang o gynefinoedd a golygfeydd arbennig sy’n gwneud hwn yn llecyn delfrydol i wylio adar. Mae’r clogwyni garw a’r ynysoedd arfordirol yn nythfeydd pwysig i lawer o adar, ac mae’r ecoleg a’r tirffurfiau cymhleth yn dod ag amrywiaeth eang o rywogaethau ynghyd, o frain coesgoch a hebogiaid tramor i adar drycin y graig, palod ac adar drycin Manaw.
Y frân goesgoch yw’r prinnaf o deulu’r frân. Dim ond poblogaeth fechan o’r rhain sydd yn y Deyrnas Unedig, gyda thri chwarter o boblogaeth y DU yn byw yng Nghymru. Pen-y-Cil, ym mhen deheuol y penrhyn, yw un o’r llefydd mwyaf dramatig i weld yr adar arbennig hyn a’u harddangosfeydd awyr anhygoel.
Mae siliau Carreg y Llam (sy’n 100m o uchder) ger Pistyll yn fwrlwm o adar môr yn ystod y tymor bridio yn y gwanwyn a dechrau’r haf, ac mae’n un o’r nythfeydd adar môr pwysicaf yng ngogledd Cymru. Mae niferoedd sylweddol o wylogod, gweilch y penwaig a gwylanod coesddu yn gwneud y gorau o’r llethrau anghysbell hyn i ddodwy wyau, gan dreulio gweddill y flwyddyn allan ar y môr.
Mae ymweliad â’r dyffryn a’r cildraeth arbennig hwn yn werth chweil – cewch eich cyfarch gan amrywiaeth o adar preswyl a mudol a llwyth o fywyd gwyllt arall. Mae adar crwydrol prinnach i’w gweld yma weithiau hefyd, gan gynnwys telor Rüppell a’r telor llygatgoch.
Yn gorwedd oddi ar drwyn y penrhyn, Ynys Enlli yw’r unig wylfa adar achrededig yng Nghymru. Mae’r niferoedd cenedlaethol-bwysig o adar drycin Manaw sy’n bridio yma yn yr haf y un o’r rhesymau pam fod y lle arbennig hwn yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig. Mae nythfa fridio o 10 i 16 mil o adar ar yr ynys.
Ar ochr ddwyreiniol mynydd yr ynys mae 11 rhywogaeth o adar môr, gan gynnwys gwylanod coesddu, pedrynnod drycin, gweilch y penwaig a gwylogod. Mae adar bridio eraill yr ynys yn cynnwys piod môr, tinwennod y garn, tylluanod bach, a thylluanod corniog.
Mae’r rhostir a’r twyni arfordirol yn gartref i glochdar y cerrig, y nico a gwennol y glennydd. Fe allech weld eu hysglyfaethwyr, fel y cudyll coch a’r boda, yn goruchwylio’u teyrnas uwchben hefyd. I ffwrdd o’r môr, fe allech weld y gnocell fraith fwyaf a’r gnocell werdd, a hyd yn oed sgrech y coed a thelor y cnau. A’r afonydd lleol yw’r lle i weld bronfreithod y dŵr.
Mae Pen Llŷn yn llwybr pwysig i lawer o adar mudol, gan gynnwys niferoedd mawr o delorion yr helyg, y siff-saff a’r dryw eurben, sy’n cyrraedd yn y gwanwyn a’r hydref. Mae’r adar mudol eraill sy’n galw yma yn cynnwys y gwybedog brith a’r gwybedog mannog, deg rhywogaeth o delor, tair rhywogaeth o siglen, chwe rhywogaeth o fronfraith ac 11 rhywogaeth o linos.
Mae’r rhestr o rywogaethau sydd wedi ymweld â Phen Llŷn yn cynnwys y fronfraith aeliog, telor Radde a thinwen Isabella o Asia. Mae’r albatros aelddu o foroedd y de a phinc yr eira llygatddu, y telor melyn, rhegen Sora, aderyn y bwn America, robin goch America a’r llwyd persain o America hefyd wedi’u gweld. Ac Enlli yw’r unig le yr ochr yma i’r Iwerydd lle mae euryn yr haf wedi’i gofnodi.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.
Dysgwch fwy am yr ecoamgueddfa ym Mhen Llŷn. Yn gweithredu mewn partneriaeth â saith o sefydliadau treftadaeth Pen Llŷn, ei nod yw rhoi hwb i dwristiaeth ddiwylliannol.
Dewch ar antur natur yng Nghymru a darganfod pob math o fywyd gwyllt, o ddyfrgwn enwog Llynnoedd Bosherston yn Sir Benfro i wiwerod coch Plas Newydd yng Ngogledd Cymru.
Pentref pysgota perffaith ar fin darn hardd o draeth tywodlyd yn llawn hanes, golygfeydd rhyfeddol a digonedd o fywyd gwyllt.
Ewch i Lanbedrog, darn hir o arfordir tywodlyd â chytiau traeth lliwgar sy’n ddelfrydol i deuluoedd. Cyrchfan boblogaidd ger Pwllheli ar Benrhyn Llŷn.
Yn swatio yng nghanol Aberdaron, mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr unigryw. Mae'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.