Skip to content

Ymweld â Phorthdinllaen

Golygfa tuag at Borthdinllaen, pentref pysgota bach gydag ychydig o fythynnod gwyngalchog dan glogwyn glaswelltog ym Mhenrhyn Llŷn, Cymru. Mae ychydig o longau pysgota yn y dŵr a phobl yn cerdded ar y clogwyn uwchben y pentref.
Porthdinllaen, pentref pysgota ym Mhenrhyn Llŷn | © National Trust Images/Joe Cornish

Mae hanes cyfoethog iawn i Borthdinllaen ar Benrhyn Llŷn. O’r gaer o oes yr haearn ar y penrhyn, yr harbwr, a’r diwydiannau adeiladu llongau a physgota, mae llawer o arwyddion y gorffennol yn dal i’w gweld heddiw.

Pethau i’w gwneud ym Mhorthdinllaen 

Mae Porthdinllaen yn llecyn rhyfeddol i fwynhau diwrnod ar lan y môr gyda golygfeydd trawiadol, dŵr cysgodol, traethau o dywod mân, pyllau difyr yn y creigiau, a chyfle i wylio’r pysgotwyr lleol yn mynd a dod â Thafarn Tŷ Coch wrth law i dorri syched. 

Bywyd gwyllt 

Mae digonedd o fywyd gwyllt yma hefyd. Mae’r creigiau meddal yn gartref i wenoliaid y glennydd a mulfrain. Gellir gweld piod y môr ac adar eraill y glannau yn aml. Mae’r penrhyn yn boblogaidd hefyd ymhlith y morloi lleol ac mae un o’r caeau morwellt mwyaf yng Ngogledd Cymru yn cuddio dan y dŵr gan roi cynefin i lawer o fathau gwahanol o bysgod.

A grey seal bobbing in the sea at Godrevy
Mae’r pentir ym Mhorthdinllaen yn llecyn poblogaidd i forloi llwyd | © National Trust Images/Nick Upton

Cofiwch... 

  • Mae’r traeth cysgodol yn ddelfrydol ar gyfer mynd mewn cwch, caiacio, nofio, a snorclo ac mae digonedd o fywyd gwyllt y môr i’w weld wrth i chi wneud hynny.

  • Gael peint yn nhafarn Tŷ Coch â’r tywod dan eich traed.

  • Ddysgu rhagor am hanes Porthdinllaen a Chaban Griff, ein canolfan ddehongli fechan yn y pentref.

Pethau i wybod cyn ymweld â Phorthdinllaen

  • Does dim biniau cyhoeddus ym Mhorthdinllaen. Gofynnwn ichi ein helpu drwy fynd â sbwriel adref gyda chi. Yn anffodus, nid oes gennym yr adnoddau i fonitro a gwagio biniau.
  • Rydym yn croesawu cŵn i Borthdinllaen ac felly’n gofyn am gadw cŵn yng nghyffiniau Tŷ Coch ar dennyn i wneud ymweliad pawb yn un mwy cyfforddus.
Porthdinllaen, Gwynedd, Cymru

Darganfyddwch fwy ym Mhorthdinllaen

Dysgwch sut i gyrraedd Porthdinllaen, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o’r machlud dros y traeth ym Mhorthor, Gwynedd. Mae’r môr ar drai ac mae cerrig mawr a mân wedi eu gwasgaru ar y tywod yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau awyr agored ym Mhorthor 

Nid yn unig mae ein harfordir yn hardd, mae’n hwyl hefyd. Os byddwch chi’n syrffio, corff-fyrddio neu mewn caiac, byddwch wrth eich bodd yn y dŵr ym Mhorthor. Crwydrwch ar hyd traeth gwych i deuluoedd a mwynhau lle gwych i ymlacio.

Gardd lliwgar Plas yn Rhiw
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw 

Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.

Dau o bobl yn cerdded dau gi bach ar hyd traeth Llanbedrog, darn eang o dywod gyda chytiau traeth lliwgar a choed tal gwyrdd tywyll yn unon tu ôl iddynt.
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â traeth Llanbedrog 

Ewch i Lanbedrog, darn hir o arfordir tywodlyd â chytiau traeth lliwgar sy’n ddelfrydol i deuluoedd. Cyrchfan boblogaidd ger Pwllheli ar Benrhyn Llŷn.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Daffodils in the park at Penrhyn Castle and Garden on a sunny day in Gwynedd, Wales
Ardal
Ardal

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

A view of the front of the red mansion house

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Skimming stones on the beach at Robin Hood's Bay, North Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau traeth y '50 peth i'w gwneud cyn dy fod yn 11¾' 

Gweithgareddau y gall plant eu mwynhau ar lan y môr, o badlo neu nofio i ddal crancod a sgimio cerrig. (Saesneg yn unig)

Visitors kayaking on the sea past the Old Harry Rocks, Purbeck Countryside, Dorset
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel wrth ganŵio 

Er bod canŵio a cheufadu yn ffyrdd gwych o brofi natur a chadw'n heini, gall fod yn beryglus os na ddilynnir y canllawiau. Dysgwch sut i gadw'n ddiogel gyda'n cyngor a'n cyfarwyddyd. (Saesneg yn unig)