Skip to content

Lleoliadau Llŷn

Tŷ a gardd ym Mhlas yn Rhiw ar ddiwrnod braf gyda’r bae yn y cefndir
Tŷ a gardd ym Mhlas yn Rhiw ar ddiwrnod braf gyda’r bae yn y cefndir | © National Trist Images/Malcolm Davies

Ymwelwch â’r amgueddfa heb furiau. Yr ecoamgueddfa yn Llŷn yw’r ecoamgueddfa gyntaf i’w datblygu yng Nghymru. Mae’n gweithredu mewn partneriaeth â saith o sefydliadau treftadaeth Pen Llŷn gyda’r nod o roi hwb i dwristiaeth ddiwylliannol, gan ddod â manteision economaidd a chymdeithasol i’r ardal.

Beth yw ecoamgueddfa?

Mae ecoamgueddfa yn amgueddfa sy’n canolbwyntio ar hunaniaeth lle, yn seiliedig i raddau helaeth ar gyfranogiad lleol gyda’r nod o dyfu’r economi tra’n gwella lles a datblygu cymunedau lleol. Cyfeiria’n benodol at syniad newydd o ddehongliad holistig o dreftadaeth naturiol a diwylliannol yn hytrach na’r ffocws traddodiadol ar eitemau a gwrthrychau penodol, fel y ceir mewn amgueddfeydd confensiynol.

Lleoliadau Llŷn

Plas yn Rhiw
Dewch i ymweld â maenordy dymunol â’i ardd addurnol a’i olygfeydd ysblennydd. Mae mewn llecyn delfrydol ac mae’r golygfeydd a welwch ar draws Bae Ceredigion o’r gerddi ymhlith y mwyaf ysblennydd ym Mhrydain, ym mhob tymor.Ymwelwch â Phlas yn Rhiw
Porth y Swnt
Mae ein canolfan ragoriaeth arfordirol yn borth i chi ddarganfod Pen Llŷn. Ysbrydolwyd cynllun y ganolfan newydd gan bensaernïaeth Aberdaron a threftadaeth forwrol yr ardal.Ymwelwch â Phorth y Swnt
Ymwelwyr yn y pod fideo yn ‘Y Ffordd’, Porth y Swnt, Cymru
Ymwelwyr yn y pod fideo yn ‘Y Ffordd’, Porth y Swnt | © National Trust Images/Tom Simone
Menter Y Felin Uchaf
Canolfan addysgiadol yw hon sy’n archwilio ffyrdd o fyw a gweithio mewn partneriaeth â'r amgylchedd. Mae'n cynnig cyrsiau preswyl mewn sgiliau gwledig ac amaethyddiaeth gynaliadwy, Mae hefyd yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn ac amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli.Ymwelwch â’r Felin Uchaf
Plas Glyn-y-Weddw
Camwch i mewn i un o'r orielau celf hynaf yng Nghymru. Maenordy Fictoraidd Gothig gwych yw Plas Glyn y Weddw, gydag orielau, gerddi a chaffi gwerth chweil. Gallwch fwynhau golygfeydd hyfryd o'r môr wrth gael paned ac wrth ddilyn y llwybrau drwy’r goedwig i fyny at y pentir uwchben. Mae croeso cynnes Cymreig yn eich disgwyl mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.Ymwelwch â Phlas Glyn-y-Weddw
Nant Gwrtheyrn
Archwiliwch hen bentref chwarel hudolus. Cewch ddarganfod mwy am rai o chwedlau a hanesion hudolus Cymru a mwynhau paned neu bryd o fwyd mewn caffi braf gyda golygfa wych o’r môr. Erbyn hyn mae’r 'Nant' yn ganolfan preswyl ar gyfer dysgu’r iaith Gymraeg ac yn ganolfan dreftadaeth sydd ar agor i bawb.Ymwelwch â Nant Gwrtheyrn
Amgueddfa Forwrol Llŷn
Dyma’r lle i ymgolli mewn hanes a dathlu ein treftadaeth forwrol. Mae’r môr yn agos at bob man ar benrhyn Llŷn. Mae’r amgueddfa’n llawn o wybodaeth ddiddorol – am y seintiau Celtaidd cynnar, am Edward 1af, ac am fôr-ladron, smyglwyr, llongddrylliadau trasig a gwaith y bad achub.Ymwelwch ag Amgueddfa Forwrol Llŷn
Plas Heli
Os hoffech ymuno â chlwb hwylio, mwynhau diod sydyn neu bryd o fwyd, neu logi ystafell gyfarfod, lle gwell na Phlas Heli, Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau newydd ym Mhwllheli?Ymwelwch â Phlas Heli

Ecoamgueddfa

Dewch i ddysgu mwy am yr amgueddfa heb walia’ yn Llŷn. Cewch ddilyn taith ddigidol, dod o hyd i ddigwyddiad lleol neu ganfod rhywle i fynd am dro.

Ewch i wefan yr Ecoamgueddfa

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A view of the front of the red mansion house

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Golygfa o’r Teras Lili a’r pwll o’r tŷ yng Ngardd Bodnant, Conwy

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

View of a river running through a valley of mountains

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Golygfa dros draeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru
Erthygl
Erthygl

Arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn 

Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.

Cloddiau a chaeau bach yn arwain at Fynydd Rhiw ym Mhen Llŷn, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes Pen Llŷn 

Teithiwch yn ôl drwy amser a dysgu mwy am y bobl a’r llefydd sydd wedi siapio Pen Llŷn.

Y tŷ ym Mhlas yn Rhiw, yng nghanol asaleas llachar a dail newydd y gwrychoedd pren bocs, yng Ngwynedd, Cymru.
Lle
Lle

Plas yn Rhiw 

Plasty o’r 17eg ganrif gyda gardd addurniadol â golygfeydd arfordirol godidog.

Pwllheli, Gwynedd

Ar gau nawr
Porth y Swnt, Aberdaron, Gwynedd. Plant yn ‘Y Golau’
Lle
Lle

Porth y Swnt 

Darganfyddwch hanes Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.

Pwllheli, Gwynedd

Yn rhannol agored heddiw