Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy.
Dilynwch drywydd hanes a dysgu mwy am y bobl a’r llefydd sydd wedi siapio Pen Llŷn. Darganfyddwch adeiladau i ymweld â nhw a dysgwch am y dirwedd unigryw.
Dilynwch drywydd hanes a darganfod yr orffwysfa olaf i bererinion cyn iddyn nhw groesi i Ynys Enlli. Dilynwch eu hôl troed ac ymweld ag un o’r llefydd harddaf yng Nghymru. Mae eglwys St Hywyn, neu ‘Gadeirlan Llŷn’, mewn lleoliad trawiadol ar ymyl y traeth ac yn werth ymweliad.
Darganfyddwch un o ardaloedd mwyaf toreithiog Pen Llŷn o ran gweddillion archeolegol. Mae siambr gladdu Tan y Muriau a’r amddiffynfa gylch ddwbl ar ben y bryn yn cynnig cipolwg ar sut roedd pobl yn byw ar y penrhyn filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Darganfuwyd y ffatri fwyeill ym Mynydd Rhiw yn y 1950au wrth losgi eithin. Tybir bod y safle’n dyddio o rhwng y 5ed a’r 3ydd mileniwm CC (y cyfnod Neolithig).
Mae’n cynnwys nifer o bantiau crwn lle roedd creigiau’n cael eu cloddio a’u naddu i gynhyrchu teclynnau amrywiol, fel bwyeill ac ysgrafellod. Roedd y rhain yn cael eu masnachu’n eang dros gyfnod hir iawn o amser yn ystod y cyfnod Neolithig a dechrau’r Oes Efydd.
Mae hyn yn cynnig cip ar fywyd ar lechweddau Mynydd Rhiw ar ddiwedd Oes y Cerrig. Mae’r gweddillion yn dangos bod y trigolion Neolithig yn chwarela math o graig sy’n arbennig o addas ar gyfer gweithgynhyrchu bwyeill carreg a theclynnau eraill a oedd yn hynod o bwysig i’w ffordd o fyw.
Gwnaeth gwaith cloddio ger Mynydd Rhiw ddarganfod ‘amddiffynfa ddwbl’ gylchol ym Meillionydd. Lloc pen bryn yw hwn, ac ym Mhen Llŷn y mae’r rhain i’w gweld gan amlaf. Mae’n cynnwys dau glawdd o bridd a charreg ar ffurf cylch, a dyrnaid o dai crynion mewnol. Roedd y lleoedd caeëdig hyn, fwy na thebyg, yn gartrefi parhaol i nifer o deuluoedd. Roedden nhw hefyd yn safleoedd i’r gymuned ymgynnull.
Mae’r amddiffynfa ddwbl yn adnodd unigryw ar gyfer astudio tarddiad anheddau'r Oes Efydd hwyr a’r Oes Haearn gynnar (tua 1000 – 600CC) - adnodd sydd eto i’w ddefnyddio i’w lawn botensial.
Mae gwaith cloddio gan dîm prosiect Prifysgol Bangor wedi dangos bod olion anheddu ym Meillionydd yn dyddio dros gyfnod hir. Mae’r ffaith bod pobl wedi byw mewn llociau caeëdig dros gyfnod hir ac wedi ailadeiladu’r tai crynion yn yr un safle yn awgrymu’r awydd i gynnal cysylltiad parhaol â’r gorffennol - gan greu ymdeimlad arbennig o le a hanes ar y safle.
Cafodd yr hen eglwys hynod hon, sy’n swatio mewn dyffryn bach, ei sefydlu yn y chweched ganrif fel gorffwysfa a lloches i Beuno, cenhadwr diflino. Yn ddiweddarach daeth yn llety i bererinion a oedd yn teithio i Ynys Enlli. Mae’r arteffactau’n cynnwys ffynnon o’r 12fed ganrif a gweddillion murlun canoloesol.
Ers canrifoedd, mae’r pentref bach hwn wedi bod yn gyswllt pwysig rhwng trigolion Llŷn a’r môr. Yn enwog am ei benwaig, cysylltodd y lle bach hwn y penrhyn â gweddill y byd drwy fewnforio ac allforio.
O gaer Oes yr Haearn ar y pentir, i’r syniad uchelgeisiol i droi’r harbwr yn brif borthladd rhwng Llundain a Dulyn ar droad y 18fed ganrif, i’r diwydiannau adeiladu llongau a physgota cynhyrchiol a ffynnodd yn ystod y 19eg ganrif, mae llawer o arwyddion o orffennol diddorol yr ardal i’w gweld hyd heddiw.
Roedd llawer o’r dirwedd ar drwyn Pen Llŷn yn cael ei aredig yn ystod yr Oesoedd Canol, ac mae rhai o’r patrymau i’w gweld hyd heddiw ym Mynydd Gwyddal a Phistyll.
Mae’r ffiniau caeau traddodiadol – waliau cerrig a chloddiau – yn nodweddiadol o’r ardal ac yn dyddio’n ôl ganrifoedd lawer. Maen nhw’n gynefin pwysig i fywyd gwyllt hefyd.
Mae’r rhan fwyaf o ffiniau traddodiadol yn dal i wneud yr un gwaith – dangos rhaniadau rhwng eiddo a diogelu cnydau ac anifeiliaid. Ceisiwch ddod o hyd i’r lleiniau cul o gae sydd â chorneli lletach ar un pen lle byddai’r aradr wedi cael ei throi.
Mae’r ffiniau hefyd yn goridorau bywyd gwyllt pwysig, gan gynnig lloches a diogelwch i rywogaethau nad ydynt yn gallu goroesi ar dir agored. Mae’r ffiniau yn aml yn bwysig o safbwynt hanes a bywyd gwyllt, sy’n dyst i’r dulliau adeiladu sydd wedi bodoli ers canrifoedd. Heddiw, rydym yn rheoli’r cloddiau’n ofalus i ddiogelu’r nodwedd draddodiadol hon.
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy.
Darganfyddwch y llefydd gorau yn Llŷn i wylio adar, darganfod bywyd gwyllt y gwlyptir neu weld eich hoff greaduriaid glan môr, o forloi i ddolffiniaid.
Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.
Dysgwch fwy am yr ecoamgueddfa ym Mhen Llŷn. Yn gweithredu mewn partneriaeth â saith o sefydliadau treftadaeth Pen Llŷn, ei nod yw rhoi hwb i dwristiaeth ddiwylliannol.
Dysgwch mwy am Ben Llŷn ym Mhorth y Swnt dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Pwllheli, Cymru.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.