![Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/visitor-walking-cemlyn-bay-anglesey-north-wales-1458054.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrys
Taith dair milltir atmosfferig iawn, sy’n rhoi cyfle i weld safleoedd crefyddol, ffurfiannau creigiau a bywyd gwyllt ar y lagŵn. Os byddwch yn amseru pethau’n iawn, gallwch weld yr haul yn machlud dros fôr Iwerddon.
Llifogydd
Cofiwch y gall maes parcio Bryn Aber fynd dan ddŵr. Gwiriwch amseroedd y llanw uchel cyn eich ymweliad.
Cyfanswm y camau: 7
Cyfanswm y camau: 7
Man cychwyn
Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936
Cam 1
O’r maes parcio cerddwch heibio’r gofgolofn tua’r penrhyn.
Cam 2
Trowch i’r chwith trwy’r giât mochyn a naill ai dilyn llwybr yr arfordir neu gerdded ar hyd y traeth.
Cam 3
Mwynhewch y golygfeydd rhyfeddol o’r môr wrth gerdded ar hyd yr arfordir. Os oes gennych amser mae’n werth mynd draw i Eglwys Llanrhwydrys. Yr adeilad bach hyfryd hwn yw un o safleoedd crefyddol hynaf Ynys Môn ac mae’n un o ychydig iawn o eglwysi ers cyn y Diwygiad Protestannaidd ar yr ynys.
Cam 4
Pan gyrhaeddwch chi fae bychan Henborth cofiwch chwilio am drymlin Henborth, ffurfiant creigiau sy’n edrych fel morfil ar draeth. Trowch i’r chwith trwy’r giât mochyn.
Cam 5
Cerddwch ymlaen trwy’r giât mochyn tuag at Hen Felin a chroesi’r bont. Trowch i’r chwith i’r ffordd a cherdded yn ôl tuag at Fae Cemlyn a’r Warchodfa Natur Genedlaethol sy’n cael ei chysgodi gan y marian.
Cam 6
Ar ôl mynd heibio Fronddu, trowch i’r chwith i fyny’r lôn. Bydd hyn yn mynd â chi heibio lagŵn Cemlyn, a sefydlwyd yn yr 1930au gan y Capten Vivian Hewitt o Fryn Aber.
Cam 7
Dilynwch y lôn dros yr Esgair ac yn ôl i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936
Map llwybr
![Map yn dangos llwybr a grisiau taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrys](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/cemlyn-and-llanrhwydrus-circular-walk-trail-map.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/visitor-walking-cemlyn-bay-anglesey-north-wales-1458054.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Esgair Gemlyn
Dewch ar daith ar hyd esgair a gwylio llu o adar y dŵr ar y lagŵn yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn. Bydd y daith gylchol yn eich arwain ar draws Esgair ac ar ffyrdd bach gwledig at Fae Cemlyn. Mae’n berffaith i gerddwyr ac edmygwyr bywyd gwyllt.
![Machlud dros fae eang Cemlyn](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/sunset-over-wide-sweep-cemlyn-bay-anglesey-19495.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Trwyn Cemlyn ar Ynys Môn
Mwynhewch y daith hawdd hon o gwmpas y penrhyn yng Nghemlyn. Mae’r daith yn dathlu bywyd gwyllt cyfoethog Ynys Môn a’i threftadaeth ddiwydiannol.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winter's day.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/peak-district-derbyshire/places/ilam-park-dovedale-and-the-white-peak/library/1620830-muslim-hikers---ramadan-hike-at-ilam-park-dovedale-and-the-white-peak-derbyshire.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/marloes-sands-and-mere/library/winter/view-coast-walker-marloes-pembrokeshire-wales-1770573.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
![Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/visitor-walking-cemlyn-bay-anglesey-north-wales-1458054.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Gwylio adar yng Nghemlyn
Ewch am dro ar hyd arfordir garw gogledd Ynys Môn er mwyn gweld os gallwch chi adnabod yr amrywiaeth eang o adar anarferol sy’n ymweld â’r ardal.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.