![Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/visitor-walking-cemlyn-bay-anglesey-north-wales-1458054.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Esgair Gemlyn
Dewch ar daith ar hyd cefnen o raean a gwylio llu o adar y dŵr ar y lagŵn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cemlyn. Bydd y daith gylchol hon yn eich arwain ar draws cefnen o raean a ffyrdd bach gwledig at Fae Cemlyn. Mae’n berffaith i gerddwyr a’r rhai sy’n chwilio am fywyd gwyllt. Mae croeso i gŵn ymuno â chi hefyd.
Llifogydd
Mae maes parcio Bryn Aber a’r bont sy’n arwain at Esgair Gemlyn yn gallu mynd dan ddŵr. Gwiriwch amseroedd y llanw uchel cyn eich ymweliad.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936
Cam 1
Ewch allan o’r maes parcio a throi i’r chwith, dros y bont ac ar yr esgair o raean. Ffurfiwyd Esgair Gemlyn gan broses drifft y glannau.
Cam 2
Cerddwch ar hyd yr Esgair at faes parcio’r dwyrain. Ar y dde i chi mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cemlyn, cynefin i adar môr sy’n bwysig yn rhyngwladol. Mae mynediad i’r Esgair yn cael ei gyfyngu pan fydd y môr-wenoliaid yn nythu, mae’r ardal hon yn cael ei gwylio gan Wardeiniaid Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.
![Môr-wenoliaid pigddu aeddfed ac ifanc ar draeth cerigos yn Blakeney Point, Norfolk](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/norfolk/places/blakeney-national-nature-reserve/library/sandwich-terns-blakeney-point-norfolk-1269537.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 3
Pan fyddwch yn cyrraedd y maes parcio ar ben dwyreiniol yr Esgair, trowch i’r dde a cherdded i lawr y lôn heibio fferm Tyddyn Sydney.
Cam 4
Yn y gyffordd, cadwch i’r dde a cherdded ar hyd y lôn heibio fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhlas Cemlyn.
Cam 5
Trowch i’r dde ar y gyffordd a dilyn y lôn yn ôl dros yr Esgair a heibio Bryn Aber, yn ôl i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936
Map llwybr
![Map taith ar gyfer taith ar gefnen raean, Cemlyn, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/map-cemlyn-shingle-ridge-walk.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Golygfa ar draws Afon Menai i Blas Newydd o Lan Faenol, Ynys Môn, Cymru.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/plas-newydd-house-and-garden/library/view-across-menai-strait-to-plas-newydd-1574648.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol
Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.
![Cwpl yn cerdded yn yr ardd ym Mhlas Newydd gyda mynyddoedd yn y cefndir](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/plas-newydd-house-and-garden/library/winter/couple-walking-at-plas-newydd-house-garden-1371719.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith cilfachau cudd Plas Newydd
Darganfyddwch gilfachau cudd Plas Newydd ar daith gerdded lawn o olygfeydd trawiadol dros Afon Menai, y Faenol ac Eryri.
![Machlud dros fae eang Cemlyn](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/sunset-over-wide-sweep-cemlyn-bay-anglesey-19495.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Trwyn Cemlyn ar Ynys Môn
Mwynhewch y daith hawdd hon o gwmpas y penrhyn yng Nghemlyn. Mae’r daith yn dathlu bywyd gwyllt cyfoethog Ynys Môn a’i threftadaeth ddiwydiannol.
![Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/visitor-walking-cemlyn-bay-anglesey-north-wales-1458054.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrys
Dilynwch y daith gylchol dair milltir hon yng Nghemlyn, Ynys Môn, i weld golygfeydd o’r môr, ffurfiannau’r creigiau, safleoedd crefyddol a bywyd gwyllt. Gall ymwelwyr lwcus hyd yn oed weld morloi, ac os byddwch yn amseru pethau’n iawn, gallwch weld yr haul yn machlud dros fôr Iwerddon.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/cemlyn/library/visitor-walking-cemlyn-bay-anglesey-north-wales-1458054.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Gwylio adar yng Nghemlyn
Ewch am dro ar hyd arfordir garw gogledd Ynys Môn er mwyn gweld os gallwch chi adnabod yr amrywiaeth eang o adar anarferol sy’n ymweld â’r ardal.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![Two walkers and one person using an all-terrain mobility vehicle look out from a grassy hill, across the sea and to a coastal town](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/watersmeet/library/winter/visitors-countisbury-hill-exmoor-near-watersmeet-devon-1388522.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cyngor ar gerdded ar yr arfordir
Darllenwch gyngor ar gerdded ar yr arfordir, gan gynnwys y dillad a'r offer hanfodol sydd eu hangen arnoch a beth i'w wneud cyn dechrau arni. (Saesneg yn unig)
![A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winter's day.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/peak-district-derbyshire/places/ilam-park-dovedale-and-the-white-peak/library/1620830-muslim-hikers---ramadan-hike-at-ilam-park-dovedale-and-the-white-peak-derbyshire.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)