Skip to content
Machlud dros fae eang Cemlyn
Machlud dros Fae Cemlyn, Ynys Môn | © National Trust Images/Joe Cornish
Wales

Taith Trwyn Cemlyn ar Ynys Môn

Mae’r daith gerdded hon o gwmpas y penrhyn yn dathlu darn o dreftadaeth ddiwydiannol Ynys Môn, ei bywyd gwyllt cyfoethog ac awyrennwr arloesol. Mwynhewch awel y môr a golygfeydd o ynysoedd creigiog ar hyd y ffordd.

Llifogydd

Cofiwch y gall maes parcio Bryn Aber fynd dan ddŵr. Gwiriwch amseroedd y llanw uchel cyn eich ymweliad.

Cyfanswm y camau: 6

Cyfanswm y camau: 6

Man cychwyn

Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936

Cam 1

O’r maes parcio cerddwch yn syth ymlaen tua’r penrhyn. Byddwch yn mynd heibio’r hen siediau glo a choed, lle’r oedd cychod yn gwagu eu llwythi ers talwm. Bryn Aber oedd cartref y Capten Vivian Hewitt, y dyn cyntaf i hedfan ar draws Môr Iwerddon. Fe wnaeth hedfan 75 milltir o’r Rhyl i Ddulyn mewn ychydig dros awr yn 1912, ond chafodd ei gamp fawr o sylw oherwydd trychineb y Titanic.

Cam 2

Dilynwch y llwybr trwy’r giât a heibio’r gofgolofn sy’n coffau’r bad achub cyntaf ar Ynys Môn. Cadwch i’r chwith a dilyn y trac i arfordir y gogledd.

Cam 3

Wrth edrych oddi yma fe welwch chi Mynachdy, y marcwyr mordwyo a’r simnai, sef gweddillion y gwaith copr.

Cam 4

Ewch ymlaen ar hyd y trwyn tuag at ei ben eithaf. Mwynhewch y golygfeydd ac awel y môr ar hyd y llwybr glaswelltog hwn.

Cam 5

Cerddwch i ben y trwyn bydd gennych olygfa glir o Fae Cemlyn ac Esgair Gemlyn, un o blith nifer fechan ym Mhrydain. Chwiliwch hefyd am Orsaf Ynni Wylfa ac Ynys Badrig tu hwnt iddi.

Cam 6

Dilynwch y llwybr yr ochr arall i’r penrhyn yn ôl at y gofgolofn. Ewch yn ôl yr un ffordd i’r maes parcio heibio’r hen siediau glo a choed.

Man gorffen

Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936

Map llwybr

Map yn dangos llwybr a grisiau Taith Trwyn Cemlyn ar Ynys Môn
Taith Trwyn Cemlyn ar Ynys Môn | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Llwybr
Llwybr

Taith Esgair Gemlyn 

Dewch ar daith ar hyd esgair a gwylio llu o adar y dŵr ar y lagŵn yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn. Bydd y daith gylchol yn eich arwain ar draws Esgair ac ar ffyrdd bach gwledig at Fae Cemlyn. Mae’n berffaith i gerddwyr ac edmygwyr bywyd gwyllt.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2 (km: 3.2)
Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Llwybr
Llwybr

Taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrys 

Dilynwch y daith gylchol dair milltir hon yng Nghemlyn, Ynys Môn, i weld golygfeydd o’r môr, ffurfiannau’r creigiau, safleoedd crefyddol a bywyd gwyllt. Gall ymwelwyr lwcus hyd yn oed weld morloi, ac os byddwch yn amseru pethau’n iawn, gallwch weld yr haul yn machlud dros fôr Iwerddon.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)

Cysylltwch

Gwarchodfa Natur Cemlyn, Cemlyn, Bae Cemaes, Sir Fôn, LL67 0DY

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

A family walking alongside Lake Windermere at Fell Foot during winter, Cumbria

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)