
Taith Gerdded Gardd Goedwig Colby
Dewch i archwilio ardaloedd cudd a nodweddion hanesyddol ar y daith gerdded hyfryd hon i’r teulu cyfan, gyda digonedd o fywyd gwyllt ichi ei ganfod ar hyd y ffordd. Dewch i ymweld â’r Ardd Furiog a’r dolydd, a dilyn llwybrau drwy’r goedwig i weld cip ar y môr o’r olygfan uchaf. Mae lleoedd i gael picnic, a gallwch hefyd ddilyn llwybr hirach at draeth a phentref Llanrhath os ydych yn dymuno ymestyn eich antur.
Canfod bywyd gwyllt
Yn y gwanwyn, cadwch olwg am eirlysiau, clychau’r gog a rhododendronau yn eu blodau. O fis Mehefin ymlaen, bydd blodau’r ddôl yn dechrau blodeuo, ac yn yr hydref bydd sgrech y coed ac esgyll cochion i’w gweld. Yn y gaeaf, efallai y cewch gip ar drochwyr neu siglennod llwyd ger y nant.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Maes parcio Coetir Colby, cyfeirnod grid: SN158080
Cam 1
O waelod y prif faes parcio, cerddwch drwy’r brif fynedfa i Ardd Goetir Colby. Ewch heibio’r Ardd Furiog ar eich ochr dde, y gallwch ei harchwilio cyn parhau â’r llwybr.

Cam 2
Ar ôl ymweld â’r Ardd Furiog, ewch heibio’r ganolfan ymwelwyr a’r siop llyfrau ail-law, i lawr y grisiau a throi i’r chwith. Ewch heibio’r giatiau gwyrdd sy’n arwain at Goedwig y Dwyrain, cyn troi i’r dde at y ddôl blodau gwyllt.
Cam 3
Ewch ar drywydd y llwybr ar y dde ar ôl cyrraedd y ddôl blodau gwyllt, a chroeswch y bont. Wrth y gyffordd nesaf, trowch i’r chwith i mewn i Goedwig y Gorllewin. Arhoswch ar y llwybr isaf er mwyn cyrraedd cofeb Pamela Chance. Gyferbyn, ceir hen olwyn haearn a arferai fod ar ben y siafft pwll glo. Mae llwybr mwy hygyrch ar gael drwy ddilyn y llwybr hwn, gan neidio ymlaen i gam 7 pan gyrhaeddwch y cerflun draenog pren.
Cam 4
Trowch i’r dde cyn yr olwyn haearn, a chwiliwch am y Gochwydden Japaneaidd dal. Cerddwch heibio’r goeden, a throwch i’r chwith i fyny’r grisiau cerrig at y pwll, lle mae’n bosib y gwelwch fadfallod dŵr.
Cam 5
Ewch yn syth ymlaen, gan ddringo’r llwybr i fyny’r allt serth heibio i lu o Rododendronau Sinogrande. Mae’n eithaf serth, felly peidiwch â brysio. Cadwch i’r dde i fyny’r allt oddi ar y prif lwybr ar ôl y fainc, cyn troi i’r chwith.
Cam 6
Trowch i’r dde oddi ar y prif lwybr, a chadwch i’r chwith yn syth, i lawr yr allt er mwyn cyrraedd golygfan y môr. Trowch i’r chwith o’r olygfan, ac ewch yn syth am i lawr. Parhewch i’r dde lle mae’r llwybr yn fforchio. Dilynwch y troad nesaf i’r dde am i lawr, ac edrychwch i fyny i werthfawrogi’r Binwydden eich hymyl.
Cam 7
Ar ôl ail-ymuno â’r llwybr gwastad yng ngwaelod Coedwig y Gorllewin, trowch i’r dde, gan gerddrd y tu ôl i fwthyn Cwms. Trowch i’r chwith wrth y gyffordd nesaf, a chroeswch y bont dros y nant.
Cam 8
Os ydych eisiau ymestyn eich taith gerdded, parhewch i’r dde, a dilynwch y llwybr i lawr at draeth a phentref Llanrhath. Fel arall, trowch i’r chwith, a dilynwch y llwybr yn nôl at y cyfleusterau a’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio coetir Colby, cyfeirnod grid: SN158080
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Gardd Goedwig Colby
Mae dyffryn coediog cudd Colby yn llawn rhyfeddodau annisgwyl. Gyda’i orffennol diwydiannol a’i ardd gudd, mae’n lle perffaith i ddysgu am dreftadaeth a chwarae ym myd natur.

Lawrenny walk
A 3-mile walk through the scenic oak woodlands of Lawrenny, taking in mudlands, salt marshes, the tidal creeks of Garron Pill and the River Cresswell.

Stackpole Estate wildlife walk
Look out for seabirds and otters as you take in some of the finest wildlife habitats in Pembrokeshire on a wildlife walk along the coastline at Stackpole.

Lydstep cliffs and caverns walk
A great clifftop walk for wildlife watching plus sweeping views out to sea, and you may even be lucky enough to spot dolphins or porpoises offshore.
Cysylltwch
Ein partneriaid

We’ve partnered with Cotswold Outdoor to help everyone make the most of their time outdoors in the places we care for.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby
Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Bywyd gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby
Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.

Bwyta a Siopa yng Ngardd Goetir Colby
Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.